(English) 45th Castell Howell International Snowdon Race 2022 – Race Report

45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022 – Adroddiad y Ras

Llwyddodd Ross Gollan a Hannah Russell i gyrraedd yr uchelfannau yn yr Wyddfa 2022

Llanberis, Cymru – Ross Gollan o’r Alban a Hannah Russell o Loegr gipiodd yr anrhydeddau uchaf mewn amgylchiadau poeth iawn yn y 45ain rhediad o Ras yr Wyddfa Ryngwladol Castell Howell ddydd Sadwrn, Gorffennaf 16.

Unwaith eto cafwyd drama ar gopa uchaf Cymru, wrth i dros 400 o redwyr o bob rhan o’r byd fynd i’r frwydro â llethrau serth y ras fynydd eiconig hon, y gellir ei holrhain yn ôl i 1976 pan redodd grŵp bach o gystadleuwyr o ganol y pentref i’r Copa 1085 metr ac yn ôl.

Roedd yna deimlad emosiynol i’r rhedwyr wrth i dad y diweddar Chris Smith, enillydd y ras yn 2016, gychwyn y ras ynghyd â’r meddyg rasio sydd bellach wedi ymddeol, Dr Robin Parry.

Gydag awyr glir a thymheredd yng nghanol yr dau-ddegau, roedd yr amodau’n boeth i’r rhedwyr wneud eu ffordd allan o bentref Llanberis wrth iddynt gychwyn ar y ras 10 milltir heriol ar yr amser cychwyn traddodiadol o 2.00pm.

Fel sy’n arferol cafwyd dechrau cyflym i’r ras, gydag athletwyr rhyngwladol o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a’r Eidal yn rhwbio ysgwyddau gyda rhedwyr clwb o bob rhan o Brydain, ac un o’r rhedwyr clwb hynny oedd Nathan Edmondson a oedd yn y amrywiaeth wrth i’r rhedwyr wneud eu ffordd i’r mynydd.

Roedd yr Ilkley Harrier wedi’i gofrestru yn y Ras Agored ond roedd yn dangos y math o safon sydd ei angen i ennill fest ryngwladol wrth iddo fynd heibio hanner ffordd gyda Luca Merli o’r Eidal, gyda’r ddau ychydig bach o flaen yr Albanwr Ross Gollan.

Yn ras y merched roedd ffefryn cyn y ras a’r enillydd dair gwaith, Sarah McCormack, heb fod yn dda ac wedi tynnu allan o’r ras gydag ond awr cyn cychwyn y ras. Felly byddai’r ras bellach yn llawer mwy agored gydag athletwyr o Loegr, yr Alban a’r Eidal gyda siawns o gipio coron yr Wyddfa.

Wrth i’r merched wneud eu ffordd ar ddringfa dechnegol gyntaf y ras, roedd Kirsty Dickson o’r Alban yn dringo’n wych ochr yn ochr â Sara Willhoit o Loegr ac Alice Gaggi o’r Eidal, gyda’r Saesnes Hannah Russell a Holly Page o’r Alban yn agos.

Gyda’r ddwy ras bellach wedi setlo i batrwm a’r ras yn mynd heibio i gerrig milltir eiconig Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas, fe ddechreuodd Nathan Edmondson afael ynddi yn ras y dynion w wrth  rasio i’r copa, gan gyrraedd y brig o 3560 troedfedd gyntaf yn 40:42, gyda 30 eiliad ar y blaen ar Ross Gollan yr Alban.

Yn y cyfamser yn ras y merched roedd brwydr fawr yn dod i’r amlwg wrth i Sara Willhoit, enillydd diweddar Snowdon Twilight, ddod i’r brig mewn 51:17, o flaen Kirsty Dickson a Holly Page, gyda Hannah Russell tua munud ar y blaen ar hyn o bryd.Roedd pob llygad yn rasys y dynion a’r merched bellach yn canolbwyntio ar waelod y mynydd wrth i dyrfa fawr Llanberis aros i’r pencampwyr ddychwelyd, ac un peth oedd yn sicr, roedden ni i gael enillwyr newydd ras 2022.Erbyn hyn roedd Ross Gollan yn symud ac wrth i’r dynion gyrraedd Clogwyn ar fynd i lawr roedd yr Albanwr yn brasgamu ac yn agosáu at Nathan Edmondson, gyda Luca Merli yn drydydd. Wrth iddyn nhw gyrraedd Hanner Ffordd roedd Ross Gollan bellach 20 eiliad ar y blaen ac yn edrych yn gryf, dim ond angen ei dal gafael yn y cwpl o filltiroedd ddiwethaf i ddilyn yn ôl troed mawrion rhedeg mynyddoedd yr Alban fel Colin Donnelly, Murray Strain ac Andy Douglas. sydd wedi ennill y ras hon.Wrth iddo wibio i’r filltir olaf dechreuodd Gollan sylweddoli beth oedd ar fin ei gyflawni a chipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa. Ei amser wrth iddo groesi’r llinell oedd 1:09:22, nid un o’r amseroedd buddugol cyflymaf erioed yn y ras hon, ond yn sicr yn arwydd o ba mor galed oedd amodau’r ras yn y gwres.Y tu ôl iddo Luca Merli o’r Eidal (1:10:05)  a ddaeth yn gryf am ail, hefo  Nathan Edmondson yn y diwedd yn cipio trydydd gwych mewn 1:10:20. Michael Cayton (1:11:27) yn 4ydd a’r Sais Ben Rothery (1:11:50) yn 5ed oedd yn y 5 uchaf.Yn ras tîm y dynion roedd buddugoliaeth glir i Loegr gyda Ben Rothery, Mark Lamb (6ed) a Finlay Grant (8fed) i gyd yn pacio’n dda.

Yn y cyfamser, yn ras y merched roedd Sara Willhoit yn mynd i lawr yn gryf, cymaint fel ei bod hi erbyn gorsaf Clogwyn wedi ennill dros funud a hanner ar y gweddill. Fodd bynnag, Hannah Russell oedd ar ei hôl hi. Cynefin y Saesnes yw’r llethrau serth yn Ardal y Llynnoedd a dangosodd y sgiliau mynd i lawr sydd eu hangen wrth ddal ar Sara Willhoit dros y filltir wedyn, cymaint felly erbyn iddynt gyrraedd giât olaf y mynydd ar y darn i lawr roedd hi wedi troi’r mynd o 1:33 ar ôl i 8 eiliad ar y blaen – gyda Sara Willhoit yn ddiweddarach yn disgrifio cael ei phasio gan Hannah Russell fel “anhygoel i’w wylio!”.

Roedd  Holly Page yn mynd fel fflamiau i gael y drydedd safle wrth iddyn nhw i gyd wneud eu ffordd yn ôl i mewn i Lanberis a’r llinell derfyn enwog hon.Wrth groesi’r llinell i gipio teitl yr Wyddfa 2022 mewn amser gwych o 1:18:49, roedd Hannah Russell o Loegr yn orfoleddus, ond  wedi ymlâdd ar ôl yr ymdrech i ddal Sara Willhoit – dim ond 23 eiliad oedd rhyngddynt.

Cyrhaeddodd  Holly Page y podiwm am ei hamser arbennig o 1:19:28 hynod gydag Alice Gaggi yn 4ydd (1:20:59) a Sharon Taylor o Loegr yn cymryd 5ed ardderchog mewn 1:24:37.Lloegr, gyda Hanna Russell, Sara Willhoit a Sharon Taylor, gipiodd wobr tîm y merched yn hawdd.

Roedd y diwrnod hefyd wedi gweld dros 100 o redwyr iau yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o rasys ar gyfer athletwyr dan 10 i dan 18 oed. Mae rhai o enillwyr y brif ras yn y dyfodol wedi dod o’r rasys hyn. Gweinyddwyd y digwyddiad yn wych gan dîm Byw’n Iach Cyngor Gwynedd.

45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022 – Canlyniadau5 Gorau Dynion

1. Ross Gollan (Yr Alban) 1:09:21

2. Luca Merli (Yr Eidal) 1:10:04

3. Nathan Edmondson (Ilkley Harriers) 1:10:19

4. Michael Cayton (Salford Harriers) 1:11:26

5. Ben Rothery (Lloegr) 1:11:49

Tîm: Lloegr 5 Gorau

Merched

1. Hannah Russell (Lloegr) 1:18.48

2. Sara Willhoit (Lloegr) 1:19:12

3. Holly Page (Yr Alban) 1:19:27

4. Alice Gaggi (Yr Eidal) 1:20:58

5. Sharon Taylor (Lloegr) 1:24:36

Tîm: Lloegr

POB LLUN  ©Sport Pictures Cymru

Canlyniadau llawn trwy https://my.raceresult.com/211870/results

DIWEDD

Rhagolwg o’r Ras – 45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022

Llanberis – Ar ôl seibiant o 3 blynedd oherwydd y pandemig bydd 600 o redwyr yn gwneud eu ffordd i lethrau copa uchaf Cymru ddydd Sadwrn 16eg Gorffennaf ar gyfer 45ain Ras Ryngwladol  yr Wyddfa Castell Howell.

Mae’r rhagolygon ar gyfer digwyddiad eleni yn uchel unwaith eto, gyda rhai o athletwyr gorau’r Prydain ac Iwerddon yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon. Gallwn hefyd ddisgwyl blas rhyngwladol am y penwythnos gan y gallai rhedwyr o’r Eidal unwaith eto ennill y ras. Bydd y rhedwyr rhyngwladol a rhedwyr clwb a di-glwb yn mynd benben i gwblhau’r 10 milltir llafurus o’r mynydd enwocaf yn Eryri a Chymru.

Ar ôl tair blynedd hir heb fod ar y teledu’n flynyddol bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu unwaith eto, gyda rhaglen uchafbwyntiau a gynhyrchir gan Cwmni Da yn mynd allan ar S4C nos Sul 24ain Gorffennaf.

Mae’r Ras yn cael ei hystyried yn un o’r goreuon yn y byd rhedeg mynydd, yn denu rhai o’r raswyr gorau yn Ewrop ac wedi tyfu dros y pedwar degawd diwethaf i fod yn un ar y rhestr bwced  rhedwyr o bob man. Mae cwblhau’r ras o Lanberis i gopa’r Wyddfa ac yn ôl yn rhywbeth y mae miloedd yn dyheu amdano, ond dim ond cannoedd yn ei gyflawni.

Rhagolwg Ras y Dynion

Fel arfer bydd timau Cymru yn gobeithio perfformio’n dda gartref. Mae Matthew Roberts, rhedwr rhyngwladol profiadol, yn arwain y ffordd dros Gymru, ar ôl rhedeg yn y ras enwog hon ar sawl achlysur yn y fest goch. Yn ymuno ag ef bydd Gavin Roberts a Ben Mitchell, gyda Rhedwr Clwb Eryri  ifanc, Tom Wood, yn cwblhau’r pedwarawd.

Bydd tîm Lloegr mor gryf ag erioed ac fe fyddan nhw’n edrych i ennill fel unigolion yn ogystal ag fel tîm. Rhedodd Joe Baxter (8fed) a Dan Haworth (13eg) yn fest Lloegr yn 2019 gan ddychwelyd unwaith eto eleni. Matthew Elkington a Finlay Grant sy’n cwblhau lein-yp Lloegr, gyda Finlay Grant un i’w wylio – yn ffres a newydd gael medal efydd ym mhencampwriaethau Ewrop yn y ras dan 20.

Mae gan yr Eidal hanes cryf o lwyddiant yn y digwyddiad. Cawsant dair buddugoliaeth yn y bedair blwyddyn ddiwethaf y ras gyda Davide Magnini (2017) ac Alberto Vender (2018) [un fuddugoliaeth yn brin]. Eleni mae Luca Merli a Lorenzo Rota Martir yn teithio i Gymru i weld a allant ychwanegu eu henwau at restr o enillwyr enwog y ras arbennig hon.

Mae’r Alban yn wlad arall sydd wedi cael blas ar lwyddiant ar yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf gydag Andrew Douglas yn fuddugol yn 2019. Ni fydd Douglas yn rhan o dîm yr Alban eleni, ond mae John Yells, (un o selogion y ras) yn y tîm ac mae wedi bod yn rhedeg yn dda eleni. Gydag ef yn nhîm yr Alban bydd Alexander Cheplin, Ross Gollan a James Taylor yn cwblhau’r pedwarawd.

Mae gan Iwerddon hanes cyfoethog o lwyddiant yn y digwyddiad, gyda Zak Hanna yn dod yn 4ydd yn 2019. Eleni bydd James Kevan yn dychwelyd i’r Wyddfa ynghyd â Luke McMullan, Aaron Mc Grady, Leo Mahon.

Yn cwblhau’r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gydag Adam Cunningham, Jonny Scott, Andrew Tees a John Marrs. I ffwrdd o ochr elît y ras, bydd un rhedwr yn creu hanes unwaith eto yn 2022. Rhedodd Malcolm Jones o Dremadog yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny, camp anhygoel. Felly, bydd Malcolm yn rhedeg ei 45fed Ras yr Wyddfa eleni ac yn gwneud hanes fel yr unig berson sydd wedi cystadlu ym mhob digwyddiad yn y 47 mlynedd diwethaf.

Rhagolwg y Merched

Mae ras y merched ar yr Wyddfa 2022 yn argoeli’n dda unwaith eto gan y gallai pob llygad fod ar y cyn-enillydd tair gwaith Sarah McCormack o Weriniaeth Iwerddon a’i brwydr gyda rhai o dalentau ifanc gorau Ewrop ar hyn o bryd. Enillodd Sarah y ras yn 2019 ac mae’n dychwelyd i’r Wyddfa yn ffres o gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop y penwythnos cynt lle gorffennodd yn y 13eg safle. Gyda hi mae Roisin Howley ac Alison Armstrong yn ffurfio tîm merched Iwerddon.

Ar ôl cael 3ydd safle gwych ym mhencampwriaethau Ewrop, mae’r Scout Adkin yn dychwelyd i’r mynydd a’i gwelodd yn gorffen yn 6ed yn 2019. Fodd bynnag, mae’r Albanwraig ifanc wedi bod ar ei gorau yn 2022 ac mae’n siŵr ei bod ymhlith y ffefrynnau i fynd â’r teitl yn ôl i’r Alban. Mae rhedwraig tîm Prydain y penwythnos diwethaf, Holly Page, hefyd yn rhedeg ynghyd â Kirsty Dickson a Catriona MacDonald, sy’n golygu y bydd merched yr Albanwyr hefyd yn gryf iawn yn y ras tîm.

Mae Alice Gaggi o’r Eidal ar hyn o bryd yn drydydd yn safleoedd y byd a chymerodd ran hefyd yn yr Ewros y penwythnos diwethaf, gan orffen yn 6ed. Yn ymuno â hi mae Lorenza Beccaria yn y lliwiau enwog Azzuri.

Mae gan Gymru dîm cryf unwaith eto gydag Elliw Haf yn rhedeg yn dda yn lliwiau Cymru eto ar ôl gorffen yn y 10fed safle yn 2018 a’r 16eg yn 2019. Yn ymuno ag Elliw mae cyd-aelod o dîm Eryri Lizzie Richardson, Joanne Henderson o Cybi a Rhian Probert o’r Mynydd Du.

Does dim dwywaith y bydd tîm merched Lloegr yn herio unwaith eto ar gyfer safle uchaf y podiwm. Rhedodd Hannah Russell a Sharon Taylor yn dda mewn rasys yn La Palma yn lliwiau Prydain y penwythnos diwethaf ac ymunwyd â nhw gan enillydd y ras y cyfnod y mis diethaf, Sara Willhoit, gan wneud triawd cryf iawn o ferched Lloegr mewn ras lle maent wedi cael blas ar lwyddiant dros y blynyddoedd.

Bydd Martsje Hell, Esther Dickson, Elizabeth Wheeler a Karalee McBridewill yn cynrychioli Gogledd Iwerddon.

Ar ôl seibiant o dair blynedd oherwydd pandemig Coronafeirws mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at gynnal y ras unwaith eto yn 2022.

“Mae wedi bod yn dair blynedd anodd ers ein ras ddiwethaf yn 2019. Nid oes angen i mi atgoffa unrhyw un o’r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw, fodd bynnag dyma felly ail-afael yn y cyffro o weld y rhedwyr yn camu i’r mynydd eto eleni. Mae gennym ni’r prif noddwr Castell Howell eto ac mae holl gymuned Llanberis wedi bod mor gefnogol yn ein hamcanion i sicrhau bod y ras yn parhau â’i hanes cyfoethog.”

Nodweddion eraill y dydd fydd y rasys iau traddodiadol sy’n dechrau ddeg munud ar ôl y brif ras am 2.10pm ar y dydd Sadwrn am 10-18 mlynedd, lle bydd chwaraewr rhyngwladol iau Cymru, Noa Vaughan, yn herio athletwyr o glwb CSI Morbegno yn yr Eidal.

Bydd y rasys iau unwaith eto yn cael eu cefnogi gan Barc Cenedlaethol Eryri ac yn cael eu trefnu gan dîm Byw Iach, Cyngor Gwynedd. Mae cofrestru yn digwydd rhwng 9.30am -1.30pm yn y ganolfan gymunedol.

Meddai Stephen Edwards eto:

“O safbwynt y cyfryngau mae gennym y pecyn uchafbwyntiau teledu arferol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddarlledu diwedd y ras. Rydym ni fel mudiad gwirfoddol hefyd yn rhoi oriau o waith i drefnu’r agwedd gymunedol i’r digwyddiad rhyngwladol hwn. Mae busnesau lleol yn cymryd rhan bob blwyddyn ac mae miloedd o wylwyr yn dod i weld y rhedwyr, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.“

Mae’r bwrlwm yn y pentref bach yma ar ôl penwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy, mae’n rhaid i chi fod yma i allu deall hynny. Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal ac i bobl Llanberis. I feddwl am yr hyn y mae wedi dod yr holl flynyddoedd ar ôl y ras fechan gyntaf honno yn ôl yn 1976 – mae peth yn anhygoel.

“Yn yr un modd, ni allem gynnal y ras heb gefnogaeth barhaus y noddwyr Inov8, Rheilffordd yr Wyddfa, Gwesty’r Royal Victoria, S4C, Cwmni Da, Athletau Cymru, Oren, Steel Scaffolding, Sports Pictures Cymru a Phwyllgor Ras yr Wyddfa a chymuned Llanberis. Dyna sy’n gwneud y ras hon mor hudolus – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol, gyda naws leol, a hir y parhaed hynny. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Adran Digwyddiadau Cyngor Gwynedd am gefnogi’r ras unwaith eto eleni.”

Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn Llanberis ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2022, gyda’r Ras yn dechrau am 2pm. 

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.snowdonrace.co.uk

DIWEDD

Ras Gwylnos yr Wyddfa – Inov8 – 2022

Inov8 Cyfnos yr Wyddfa 2022 – adroddiad ras

Ar ôl toriad o dair blynedd cynhaliwyd y digwyddiad poblogaidd i fyny’r allt yn unig Inov8 Snowdon Twilight ddydd Gwener diwethaf (24 Mehefin) ar lethrau enwog copa uchaf Cymru, Yr Wyddfa.

Fel chwaer-ddigwyddiad Ras yr Wyddfa / Ras-yr-Wyddfa Ryngwladol, mae’r Cyfnos yn gyfle perffaith i redwyr a allai fod yn edrych ar brofi eu ffitrwydd dim ond tair wythnos cyn y Ras eiconig ei hun ym mis Gorffennaf.

Mae ras gyfnos hefyd yn ffefryn mawr gyda redwyr i fyny’r allt yn unig, wrth i’r ras gychwyn o Lanberis a gorffen ar y copa 1085m i fyny.

Roedd rasys y dynion a’r merched gyda nifer fawr iawn o redwyr rhyngwladol, fel Victoria Wilkinson, Russell Bentley, Gavin Roberts a Sara Willhoit.

Wrth i’r ras gychwyn am 5.45p.m. buan yr aeth Russel Bentley a Gavin Roberts ar y blaen gan arwain y rhedwyr allan o Lanberis ac ymlaen i’r mynydd go iawn.

Mae Russel Bentley, enillydd hanner marathon Marathon Llwybr Salomon Cymru yn ddigon cyfarwydd a’r llwybr, ond roedd yn cadw ei bowdr yn sych y tu ôl i Gavin Roberts, wrth i’r ddau redwr basio hanner ffordd ymlaen i ddringfa Clogwyn tua 3.5 milltir ac ymlaen i ran serth Allt. Moses.

Yn y cyfamser yn ras y merched roedd yr athletwr o Amwythig a rhedwr rhyngwladol Lloegr, Sara Willhoit, yn llawn nerth yn y rhannau serth, o flaen enwog redwraig mynydd Victoria Wilkinson.

Wrth i’r rhedwyr agosáu at y copa ac i mewn i’r niwl, penderfynodd Russel Bentley symud i’r blaen o’r diwedd wrth agosáu at y llinell derfyn, yn tynnu oddi wrth Gavin Roberts i gipio’r fuddugoliaeth o 19 eiliad mewn 45:55. A chyda Gavin Roberts daeth rhedwr Meirionnydd, Rhodri Owen, yn drydydd da.

Yn ras y merched roedd yn llawer mwy glân wrth i’r rhedwyr agosáu at y copa, gyda Willhoit yn gorffen yn 4ydd gwych yn gyffredinol, a’r fenyw gyntaf, mewn 48:40 cyflym iawn. Ei hymdrech yn ddigon da i orffen dros 2 funud yn glir o Wilkinson, gyda rhedwr Helm Hill a chwaraewr rhyngwladol Prydain Fawr Emma Gould yn cwblhau podiwm y merched.

Ras Cyfnos 2022 – 3 Uchaf

Dynion

  1. Russell Bentley 45:55
  2. Gavin Roberts 46:14
  3. Rhodri Owen 48:18

Merched

  1. Sara Willhoit 48:40
  2. Victoria Wilkinson 50:55
  3. Emma Gould 52:31

Gellir dod o hyd i Ganlyniadau Ras Llawn o Wasanaethau Digwyddiadau TDL yn

https://www.tdleventservices.co.uk/event-results/events

Mae lluniau SportpicturesCymru o Ras Cyfnos yr Wyddfa i’w gweld yma https://bit.ly/SPCRASGWYLNOS

Diolch i Wendy James am y lluniau.

Ar y Cwrs cafwyd lluniau gan y stiwardiaid a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn.

Wrth siarad ar ôl trefnydd y ras, dywedodd Stephen Edwards:

“Hoffwn ddiolch i holl noddwyr a chefnogwyr y Ras Cyfnos unwaith eto eleni, roedd yn wych dychwelyd ar y mynydd ar gyfer y digwyddiad gwych hwn. Diolch i bob un o’r rhedwyr a gefnogodd y ras hefyd – roedd y rasio yn wych!

Hefyd  diolch yn fawr i’r brandiau a’r sefydliadau canlynol

inov-8 Rhedeg Pob Tir

Rheilffordd yr Wyddfa

Gwesty’r Royal Victoria

Visit North Wales Wales

Eryri Mynyddoedd a Môr Cyngor

Cyngor Gwynedd

Bragdy Moose

Jones o Gymru

“Diolch yn fawr hefyd i’r x 17 fu’n stiwardio ar y mynydd hyd at y copa. A diolch arbennig i Zoe, Anest a Gwyn am gynnig ein cymorth i’r copa ynghyd â Dougs a hefyd Malcolm o TDL. Rydym wedi cael rhai sylwadau cefnogol iawn o’r ras ac yn ddiolchgar i bawb a wnaeth iddi ddigwydd.”

DIOLCH BAWB – DIOLCH

 

‘Dani nôl – RAS YR WYDDFA 2022

Annwyl Gystadleuwyr, Noddwyr, Cefnogwyr a Gwirfoddolwyr Ras Ryngwladol yr Wyddfa.

Rydym yn mawr obeithio eich bod i gyd wedi cadw yn iach a diogel yn yr adegau anodd a thywyll rydym wedi’u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ar ran y gwirfoddolwyr, trefnwyr a Chyfarwyddwyr Ras yr Wyddfa Ryngwladol ac yn arbennig ar ran ein prif noddwr Castell Howells a’r holl noddwyr eraill, rydym yn hapus iawn o gyhoeddi y bydd Ras yr Wyddfa yn cael ei chynnal ar Orffennaf 16eg 2022.

Er bod sefyllfa COVID-19 dal hefo ni, mae Cyfarwyddwyr a Threfnydd y Ras wedi dod i’r penderfyniad fod cynnal Ras yr Wyddfa yn 2022 yn bwysig iawn. Mae angen i ni i gyd fod yn ofalus, mae angen synnwyr cyffredin, felly rydyn ni’n gosod ein cystadleuwyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, ein prif noddwr Castell Howells, a’n cymuned mewn amgylchedd diogel iawn.

Mae’n rhaid i ni fel trefnyddion yn ymorol y bydd pawb yn ddiogel.

Rydym yn gosod eich diogelwch chi, diogelwch ein gwirfoddolwyr, diogelwch ein cefnogwyr ac wrth gwrs diogelwch ein cymuned fel blaenoriaeth. Mae angen synnwyr cyffredin ond bellach teimlwn y gallwn gynnal y ras.

Gallwn eich sicrhau y bydd ein holl wirfoddolwyr a threfnwyr yn gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant Ras yr Wyddfa yn 2022 ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Lanberis.

Rhedwyr y Ras – ni fydd angen i chi ailgofrestru. Bydd eich cais yn cael ei symud yn awtomatig o 2020 i ras eleni yn 2022. Bydd ein gwirfoddolwyr yn sicrhau bod eich cais yn trosglwyddo’n awtomatig i Gofrestriad Ras yr Wyddfa a gynhelir yn Eglwys Sant Padarn ac ni fydd unrhyw daliad ychwanegol yn ddyledus.

RHESTR RHEDWYR – https://secure.onreg.com/onreg2/front/step1.php?id=4922

Gan fod Ras yr Wyddfa i gyd yn cael ei threfnu gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol, gofynnwn yn garedig i chi helpu drwy leihau ein llwyth gwaith. Os nad ydych yn gallu cystadlu yn Ras yr Wyddfa 2022, yna wrth gwrs bydd y ffenestr drosglwyddo enw ar agor i chi tan fis Mehefin.

Bydd trosglwyddo yn broses ichi ddod o hyd i redwr a fydd yn cymryd eich lle, cysylltu â’ch gilydd ynghylch yr ochr ariannol. Yn dilyn hyn, mae’n ofynnol i chi e-bostio’r ysgrifennydd ceisiadau gyda’ch manylion ynghyd â manylion y rhedwr newydd. COFIWCH fod yn rhaid i bob rhedwr gael profiad mynydda. Nid Ras Hwyl yw hon.

Ychydig o bethau fydd yn wahanol yn ras eleni yn 2022. Dau beth sydd allan o’n dwylo ni fel mudiad cymunedol

1 – Y Copa – Ni fydd Caffi’r Copa ar agor drwy’r Haf felly ni fydd Rheilffordd yr Wyddfa yn teithio i’r copa. Mae hyn yn golygu na fydd yna ddŵr ar gael ar ôl. Rhybudd ymlaen llaw felly,  i chi gario dŵr hefo chi os byddwch yn meddwl y byddai ei angen arnoch. Bydd angen i chi gario dŵr os oes ei angen arnoch. Bydd dŵr ar gael yn Halfway House a Gorsaf Clogwyn ond ni fydd yn cael ei estyn i chi. Bydd ar fyrddau i chi ei nôl.

2 – Pentref Digwyddiadau. Ni fydd y ras yn cychwyn ar y cae arferol ar gyfer 2022. Bydd y ras yn gorffen mewn lleoliad gwahanol ar y cae cyfagos. Mae pob digwyddiad o fewn y pentref gan gynnwys Ras yr Wyddfa, wedi cael “safle digwyddiad” newydd. Bydd ras 2022 yn debyg i ras 1992. Byddwn yn cychwyn y ras ar y ffordd fawr 100 llath i lawr tuag at y pentref. Bydd cynllun (o’r wefan) yn cael ei anfon atoch yn nes ymlaen.

Unwaith eto ar gyfer 2022 byddwn yn darparu opsiwn Parcio a Theithio i chi. Tâl parcio fydd £6.00 gyda’r maes parcio ar gyrion Llanberis. Wedyn gellwch loncian hamddenol i’r pentref neu drefnu i dacsi eich nôl.Yn olaf, anogwn bawb i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth  i warchod ein Gwasanaeth Iechyd  wrth ymweld â chymuned Llanberis.

Gobeithiwn y byddwch yn dal ati i ymarfer yn llwyddiannus  at y ras ac yn mwynhau’r profiad – cofiwch y, bydd yr hen fynyddoedd yno eto i’ch denu yn ôl.Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac anfonwn ein dymuniadau gorau atoch i gyd.

Gyda diolch diffuant am eich cefnogaeth hael.

Welwn ni chi i gyd ym mis Mehefin ar gyfer y Ras y Gwyll neu ym mis Gorffennaf ar gyfer y ras fawr ei hun.

Ar ran Tîm Ras yr Wyddfa

Steve

DIM RAS 2021…..

DATGANIAD Y WASG RAS YR WYDDFA RHYDDHAWYD GAN GYFARWYDDWYR A TREFNYDD RAS YR WYDDFA

Barry Davies. Phil Jones Douglas Pritchard (Cyfarwyddwyr) Stephen Edwards (Trefnydd)

Annwyl Gystadleuwyr, Noddwyr, Cefnogwyr a Gwirfoddolwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa,

Rydym yn mawr obeithio eich bod chwi oll yn cadw yn ddiogel ac yn iach yn y cyfnod anodd a thywyll rydym wedi ei wynebu dros y deuddeg nis diwethaf.

Ar ran drefnwyr a gwirfoddolwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa ac yn enwedig ar ran ein prif noddwr Castell Howells, rydym gyda thristwch mawr yn cyhoeddi na fydd Ras Yr Wyddfa yn cael ei chynnal yn 2021.

Mae sefyllfa argyfyngus COVID-19 yn parhau ac mae Cyfarwyddwyr y Ras ac y Trefnydd wedi dod i’r penderfyniad y byddai cynnal Ras Yr Wyddfa yn 2021 yn rhoi ein cymuned, ein cystadleuwyr, ein cefnogwyr, ein gwirfoddolwyr, ein holl noddwyr mewn sefyllfa risg bosib. Ni allwn sicrhau diogelwch pawb yn sgil effaith Covid-19.

Mae yn anorfod ein bod yn rhoi eich diogelwch chwi, diogelwch ein gwirfoddolwyr; diogelwch ein cefnogwyr ac wrth gwrs diogelwch ein cymuned yn flaenoriaeth.

Mae bosib na fyddai’r penderfyniad hwn yn syndod i chwi er byddem yn dallt ac yn rhannu eich siomedigaeth a rhwystredigaeth unwaith yn rhagor.

Gallwn eich sicrhau bydd yr holl drefnwyr yn gweithio yn galed fel arfer i sicrhau llwyddiant Ras Yr Wyddfa yn 2022 ac rydym oll yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu pawb yn ôl i Llanberis pan bydd Covid-19 dan reolaeth a phan na fydd y firws yn rhoi ein pobl ac ein cymunedau mewn perygl.

I’r rhai ohonoch bydd yn bwriadu cystadlu yn 2022 yna ni fydd angen i chwi ail gofrestru gan byddwch yn trosglwyddo yn awtomatic i ras 2022. Eich cais chwi yn unig bydd yn cael ei dderbyn. Bydd manylion pellach yn cael ei ryddhau yn fuan yn 2022.

Bydd ein gwirfoddolwyr yn sicrhau bod eich cais i gystadlu yn trosglwyddo yn awtomatig i gofrestr Ras Yr Wyddfa yn 2022 ac ni fyddai unrhyw daliad ychwanegol yn ddyledus.

Gan mai gwirfoddolwyr o’r gymuned leol sydd yn trefnu Ras yr Wyddfa yn ei gyfanrwydd rydym yn gofyn yn garedig iawn i chwi eich bod yn cefnogi’r Ras ac yn lleihau ein baich gwaith ac yn ein caniatáu i drosglwyddo eich cais i gystadlu yn awtomatig i 2022.

Pe na fyddai yn bosib i chi gystadlu yn Ras Yr Wyddfa 2022, yna wrth gwrs fe fydd y ffenestr trosglwyddo enw ar agor ichi.

I gloi, rydym yn erfyn arnoch oll i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ac i amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol drwy aros gartref a pheidio â theithio ble na fod y daith yn anorfod.

Gobeithio byddwch yn gallu parhau i ymarfer ac i fwynhau rhedeg mynydd ble mae hyn yn bosib – cofiwch, fe fydd ein mynyddoedd yno eto yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth ac yr ydym yn anfon ein dymuniadau gorau i chwi oll.

Cadwch yn ddiogel, yn iach ac yn hapus. Byddwch yn gymwynasgar a chyfeillgar a phawb.

Gyda diolch am eich cefnogaeth. Tîm Ras Yr Wyddfa

Stephen

Chris Smith – Gent o ddyn, wastad yn rhedeg gyda gwen

Gyda tristwch rydw i’n teipio y negas yma,wrth i ni fel tîm Ras Wyddfa glywed am y newyddion trist o golli un o redwyr Lloegr, Prydain ac ennillydd Ras yr Wyddfa sef Chris Smith.
Pethau di-werth yw geiriau ar adegau fel hyn ond pethau gwerthfawr ydi straeon a hanesion.
Mor falch o ddweud pa mor special ydi i drefnu un o rasus mwyaf Iconic yn y byd rhedeg.
Ond yn bennaf,llawer,llawer mwy special a lwcus rydw i gael cyfarfod cyn gymaint o wynebau newydd,os yn gefnogwyr,aelodau teulu y rhedwyr a’r rhedwyr eu hunain,sydd wedi dod yn ffrindiau am oes.Roedd hi’n fraint i ‘nabod Chris ac yn falch ei fod wedi ennill Ras yr Wyddfa nôl yn 2016.
Person llawn cymeriad, talentog, caled, di-lol, llawn hwyl, gent, ond eto yn berson distaw. Roedd wastad yn rhedeg gyda gwên, hydnod os roedd mewn poen. Ond roedd y wên yn werthfawr nôl yn 2016 draw yn Llanberis.
Ar ran y criw trefnu,noddwyr, rhedwyr, cefnogwyr, cymuned y byd rhedeg a pobl Llanberis hoffwn yrru neges o gydymdeimlad i teulu Chris yn ei colled.
Mae’r colli yn dristwch – ond yr atgofion yn ddiddanwch.
Cwsg tawel Chris
Stephen Edwards, Ras Wyddfa

CASTELL HOWELL 2020 RAS RYNGWLADOL YR WYDDFA

Annwyl Gystadleuwyr, Noddwyr, Cefnogwyr a Gwirfoddolwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa,

Yn gyntaf rydym yn mawr obeithio eich bod chwi oll yn cadw yn ddiogel, iach a hapus yn y cyfnod anodd a thywyll rydym yn ei wynebu ar draws y byd eang.

Ar ran holl drefnwyr Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa rydym gyda thristwch yn cyhoeddi ein bod yn gohirio Ras Yr Wyddfa 2020 ac yn cadarnhau na fydd Ras yr Wyddfa 2020 yn cael ei gynnal.

Mae hyn wrth gwrs oherwydd y sefyllfa argyfyngus COVID-19.

Mae yn anorfod ein bod yn rhoi eich diogelwch chwi, diogelwch ein gwirfoddolwyr; cefnogwyr ac wrth gwrs ein cymuned yn flaenoriaeth. Rydym yn sicr na fyddai’r penderfyniad hwn yn syndod i chwi er byddem yn dallt ac yn rhannu eich siomedigaeth.

Gallwn eich sicrhau bydd yr holl drefnwyr yn gweithio yn galed fel arfer i sicrhau llwyddiant Ras Yr Wyddfa yn 2021 ac rydym oll yn edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu pawb yn ôl i Lanberis yn 2021.

I’r rhai ohonoch bydd yn bwriadu cystadlu yn 2021 yna ni fydd angen i chwi ail gofrestru pan fydd cyfnod mynediad y Ras yn ail agor ym mis Mawrth 2021.
Bydd ein gwirfoddolwyr yn sicrhau bod eich cais i gystadlu yn trosglwyddo yn awtomatig i gofrestr Ras Yr Wyddfa yn 2021 ac ni fyddai unrhyw daliad ychwanegol yn ddyledus.

Gan mai gwirfoddolwyr lleol sydd yn trefnu Ras yr Wyddfa yn ei gyfanrwydd rydym yn gofyn yn garedig eich bod yn cefnogi’r trefnwyr, yn lleihau ein baich gwaith ble bosib ac yn ein caniatáu i drosglwyddo eich cais i gystadlu yn awtomatig.

Pe na fyddai yn bosib i chi gystadlu yn Ras Yr Wyddfa 2021, yna wrth gwrs fe fydd y ffenestr trosglwyddo enw ar agor ichi.

I gloi, rydym yn erfyn arnoch oll i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ac i amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol drwy aros gartref a pheidio â theithio ble na fod y daith yn anorfod.

Gobeithio byddwch yn gallu parhau i ymarfer rhedeg ble mae hyn yn bosib – cofiwch, mae ein mynyddoedd ar gau am y tro.

Dymuniadau gorau i chwi oll. Cadwch yn ddiogel, yn iach ac yn hapus.

Edrychwn ymlaen at Ras yr Wyddfa yn 2021.

Cofion,

TIM RAS WYDDFA

2019 – Adroddiad y Ras

Yn anffodus nid yw\’r cynnwys yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

44fed – Castell Howell Ras Ryngwladol 2019

44fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell rhagolwg o’r ras

Llanberis – Bydd dros 650 o redwyr yn ei mentro hi eleni yn y 44fed ras – ras sydd dan nawdd noddwr newydd, Castell Howell:  44fed Castell Howell Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell  ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 22ain – un o uchafbwyntiau’r byd chwaraeon yng Nghymru.

Fel pob tro mae yna gryn ddisgwylgarwch. Mae nifer o athletwyr gorau Prydain a’r byd yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Cenia, Japan, Ffrainc a’r Eidal. Bydd y rhain yn cystadlu a channoedd o redwyr o glybiau gwahanol yn rhedeg y 10 milltir i ben yr hen fynydd.

Eleni mae’r ras yn rownd yng nghwpan y Byd Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd. Bydd rownd 4 y bencampwriaeth (allan o 7 rownd) yng Ngorffennaf yn Llanberis. Mae’r bencampwriaeth mewn 7 gwlad wahanol gyda thros 140km o lwybrau mynydd, 9300m+ o ddringo a chyfanswm gwobrau tua 56,000 ewro gyda rancio cystadleuwyr ar safon byd.

Bydd y digwyddiad ar y teledu, gyda rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd ar nos Sul Gorffennaf 21ain am 8 p.m. ar S4C.

Ystyrir Ras yr Wyddfa fel un o rasys mawr rhedeg mynydd. Mae wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae sawl un rhedwr cyffredin wedi rhyw feddwl am gystadlu ond cymharol ychydig sy’n gwneud.

Rhagolwg Ras y Dynion

Mae’r Eidal wedi gadael ei hôl ar y ras dros y blynyddoedd, gan ennill nifer o weithiau dros y deugain mlynedd. Eleni bydd yr Eidal yn obeithiol y gall ennill am y trydydd tro yn olynol ar ôl Davide Magnini yn 2017 ac Alberto Vender yn 2018.

Yn 2019 dyma weld yr efeilliaid talentog o’r Eidal Bernard a Martin Dematteis. Mae’n saff y bydd yr ‘Azzurri’ yn agos at y brig. Mae’r ddau wedi ennill medalau ar sawl achlysur mewn cystadlaethau Ewrop a Byd. A chyda Luca Cagnati  (3ydd yn 2016) fel rhan o dîm yr Eidal hefo’r efeilliaid, mae yna siawns go dda mai’r Eidal aiff â gwobr tîm y dynion.

Bydd rhedwyr Cymru wrth gwrs yn trio eu gorau glas yn eu cynefin. Yn nhîm A Cymru mae yna athletwyr profiadol iawn sy’n nabod y mynydd yn dda. Yn anffodus bydd Gareth Hughes y Cymro cyntaf yn 2017 (sy’n byw yn Nant Peris) – yn methu â chystadlu am iddo gael ei anafu yn ddiweddar yn ras Moel Hebog.

Un o  arweinwyr rhedwyr Cymru fydd Mark Hopkinson, mae wedi gwella llawer eleni – y fo enillodd Ras Cader Idris fis Mai.

Mae Russell Bentley  bellach yn hen gyfarwydd â’r ardal, ac wedi ennill Marathon Eryri ddwywaith yn un arall o sêr Cymru. Fo oedd yr ail yn Ras y Gwyll ym mis Mehefin yn rhedeg i fyny’r Wyddfa – mae mewn cyflwr da ar hyn o bryd. A hefyd yn nhîm Cymru bydd Richard Roberts (o ddyffryn Ogwen yn wreiddiol) yn hen law ar y ras erbyn hyn.

Mae gan Gymru Dîm B hefyd – sgwad ar gynnydd: Dan Bodman (o’r De), Tristan Evans Meirionnydd, Michael Corrales, Stephen Skates ac Eryri Harrier Owain Williams (Rhedwyr Eryri) fydd y tîm.

Bydd gan Loegr dîm cryf a byddant yn herio fel tîm ac fel unigolion. Mae Dan Haworth, Michael Cayton, Billy Cartwright a Joe Baxter yn bedwar heb lawer o brofiad o ran Ras yr Wyddfa. Wedi dweud hynny maen nhw i gyd wedi bod yn perfformio’n dda dros yr haf yma – bydd y rhain yn o uchel ar y diwrnod.

Am yr Alban – cafodd hithau ei llwyddiannau dros y blynyddoedd, Ymhlith y ffefrynnau bydd Andrew Douglas (un a oedd yn rhan o dîm Prydain a enillodd aur yn ddiweddar). Cafodd hwyl arni ar gylchdaith WMRA am y ddwy flynedd ddiwethaf  hefyd. Ato daw James Espie (5ed yn 2017) sydd hefyd ar ei orau ar hyn o bryd. Ewan Brown a John Yells yw’r ddau arall yn y tîm.

Mae Iwerddon wedi cael llwyddiant dros y blynyddoedd . Ar ôl cystadlu’n arbennig ym Mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar mae Zak Hanna yn arwain Tîm Iwerddon ac yn meddwl am wella ar berfformiad gorau yn y ras (7fed yn 2018). Hefo fo bydd: Mark Stephens, Conor O’Mahony a Killian Mooney.

Y tîm rhyngwladol arall ydyw Gogledd Iwerddon gyda Shane Donnelly,(wedi rhedeg y ras sawl gwaith) Tim Johnson, Aaron McGrady and Jonathan Scott.

Hefyd bydd tri rhedwr o ynys Malta yn teithio i Lanberis i redeg yr Wyddfa am y tro cyntaf.

Gyda’r digwyddiad yn rownd o fewn pencampwriaeth y byd (WMRA) mae naws ychydig yn wahanol i ras y dynion a’r merched. Ymhlith y cystadleuwyr mae Robert Panini sy’n athletwr diddorol o fan pellennig o wlad Cenia. Hefyd o’r Unol daleithiau daw Sam Sahli – am y tro cyntaf i redeg mynydd uchaf Cymru.

Eleni bydd timau gan yr Awyrlu – (dynion a merched) gyda Ben Livesey  yn arwain tîm y dynion.

Rhagolwg Ras y Merched

Bydd ras yr Wyddfa 2019 yn saff o fod yn un dra chyffrous. Yn anffodus ni fydd Bronwen Jenkinson (enillydd 2018) yno am iddi gael ei hanafu. Bydd sawl un yn tybio mai Sarah McCormick o Iwerddon aiff â hi. Mae hi wedi ennill ddwywaith yn barod yn 2014 a 2015..

Gwnaeth Sarah McCormick yn dda ym Mhencampwriaethau Ewrop yn gorffen yn yr 16eg safle. Becky Quinn, Sinead Murtagh a Dierdre Glavin ydyw gweddill tîm Iwerddon.

Elisa Sortini ydyw’r unig Eidales yn y ras eleni. Ond ar ôl dod yn bedwaredd yn 2015, mae ganddi syniad o sut ras ydyw hon, a gobaith y bydd hi mewn safle hyd yn oed yn uwch eleni.

Gwnaeth Tîm Merched Cymru berfformiad clodwiw iawn yn 2018: Bronwen Jenkinson (cyntaf) gyda Katie Beecher (8fed) ac Elliw Haf (10fed). Bydd Katie Beecher ac Elliw Haf eto yn y tîm gyda Faye Johnson sy’n rhedeg dros Gymru am y tro cyntaf a Gemma Moore, rhedwraig arall o’r Gogledd.

Does dim dwywaith na bydd tîm merched Lloegr eto’n debygol o fod ar y blaen. Mae Hatti Archer wedi rhedeg rasys trac dros Brydain cyn troi i redeg mynydd tua dyflwydd yn ôl. Mae wedi gwneud yn dda ar lefel Ewrop a’r Byd. Roedd yn 29ain ddechrau’r mis mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Mae Kelli Roberts wedi gadael ei hôl ym Mhencampwriaeth Rhedeg Mynydd Prydain eleni mae wedi ennill y tair rownd gyntaf. Gyda’r ddwy bydd Katie Walshaw  (3ydd 2015)  a rhedwraig ifanc Jemima Elgood. Mae’r rhain yn dîm peryg’.

Ar ôl disgleirio a bod yn ail yn ras y llynedd, bydd Miranda Grant  yn arwain tîm merched Yr Alban ynghyd â  Scout Adkin, (ail yn 2017) Louise Mercer a Jill Mykura. Bydd y rhain yn siŵr o fod yn dra awyddus i guro Tîm Lloegr.

Bydd y ddwy hen law Megan Wilson a Shileen O’Kane yn cynrychioli Gogledd Iwerddon gyda dwy newydd, Sarah Graham a Kiara Largy.

Fel yn ras y dynion bydd Cwpan Byd Cymdeithas Redeg Mynydd y Byd (WMRA) wedi sicrhau y bydd rhai merched o safon ryngwladol uchel yn ymddangos eleni.

Bydd Lucy Wambui (Cenia) yn un o’r sêr o bell. Mae hi wedi ennill ras enwog Sierre-Zinal yn y  Swistir ymhlith llwyddiannau eraill  Hefyd yn dychwelyd ar ôl anafu bydd Emma Clayton. Mae hi wedi rhedeg dros e wedi cryfhau yn arw. Mi fydd hi’n siŵr o fod ymhlith y rhai cyntaf.

Yn dangos pa mor boblogaidd yw’r ras gwerthwyd y 650 lle i gystadlu o fewn diwrnod ar Fawrth y cyntaf. Wedyn heb oedi roedd Stephen Edwards y trefnydd yn medru cau pen y mwdwl o ran cystadleuwyr a mynd ati i baratoi ar gyfer ras 2019.

Mae Stephen yn awyddus iawn i bwysleisio mai dim jest ras sydd yma. Mae yna noddwyr yn cefnogi, atyniadau yn y cae lle mae’r ras yn cychwyn – yn wir mae bywyd Llanberis ar  y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf yn troi rownd y ras:

“Mae’n argoeli y bydd ras 2019 yr orau erioed! Ein prif noddwyr newydd eleni yw Castell Howell ac y mae’n gyffrous iawn bod rownd 4 Cwpan y Byd yn Llanberis!

“Gwelodd Castell Howell y cyfle i noddi’r ras hynod hon fel modd cadarnhaol o ddod i gyswllt â’r gymuned leol.

Meddai Kathryn Jones cyfarwyddwr gwerthiant Castell Howell:

Mi ydym yn falch iawn o’n gwreiddiau gwledig a chefnogi’r cymunedau yr ydym yn gweithio yn eu plith ydyw un o’n gwerthoedd canolog. Yma yn y Gogledd mi ydym yn lwcus o gael yr Wyddfa – mynydd sydd a’i enwogrwydd ymhell tu hwnt i Gymru. Mae’r mynydd yma fel cefndir o fewn dim i ardal lle byddwn wrthi’n ddyddiol yn danfon nwyddau i’n cwsmeriaid. Mi ydym wrth ein boddau’n cael y cyfle i gefnogi’r 44fed ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell, ras sy’n croesawu rhedwyr o Gymru a phedwar ban y byd..”

Ac meddai Stephen Edwards:

“Cawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn siŵr o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..

Digwyddiad arall a fydd eto’n cael ei gynnal ar y diwrnod fydd y rasys iau am 2.10pm – ddeg munud ar ôl y brif ras. Hefyd bydd ‘Hwyl i Bawb’  – ras i’r teulu am  10.30am, ac ar y Nos Iau bydd rasys ieuenctid lle ceir dros 200 yn cymryd rhan

Bydd y rasys iau eleni eto yn cael eu cefnogi gan fusnesau lleol Amdro a thîm Chyngor Gwynedd.

Ac meddai Stephen Edwards:

“Cawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn siŵr o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..

“O ran y cyfryngau bydd rhaglen deledu ar y ras ar y Sul canlynol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddangos diwedd y ras. Fel mudiad gwirfoddol yr ydym ninnau yn rhoi oriau lawer o waith i drefnu ochr gymunedol y digwyddiad. Bob blwyddyn bydd busnesau lleol yn rhan o’r ddarpariaeth a bydd miloedd o bobl yn ymddangos i wylio’r rhedwyr o’r dechrau i’r diwedd. Mae pawb ar ei ennill.

“Mae’r bwrlwm yn Llanbêr  cyn y ras yn anhygoel. Rhaid i rywun fod yno i ddeall hynny. Mae’r ras yn golygu cymaint i’r pentref. Maent yn falch o’r ras a’r hyn mae’n ei ddangos i’r miloedd o ymwelwyr. O feddwl cymaint y mae wedi tyfu ers ei chychwyn digon disylw ymhell yn ôl yn 1976.”

“Ond mae’n bwysig nodi na ellid cynnal yr achlysur heb gefnogaeth Inov8, Clif Bar, Cwmni Trên Bach yr Wyddfa, Gwesty’r Victoria, S4C (teledu eto), Athletau Cymru, Ffrwythau DJ,  Scaffaldiau Steel , Sports Pictures Cymru, y pwyllgor a phobl Llanberis. Dyma sy’n dod a’r hwyl a’r hud i’r digwyddiad – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol gyda naws lleol – hir y parhao felly. Byddwn hefyd yn lecio diolch i Adran Weithgareddau Cyngor Gwynedd am gefnogi’r ras unwaith eto eleni yn enwedig o gofio ei bod yn ras sy’n rhan o bencampwriaeth y byd.”

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Cyngor Gwynedd: Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:

 “Mae denu Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd i Lanberis yn rhywbeth y dylid yn wir ei ddathlu. Mae’r digwyddiad wedi cynyddu yn ei boblogrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond allwedd y llwyddiant ydyw ymroddiad gweithwyr gwirfoddol lleol. Mae eu gwaith caled a’u gweledigaeth nhw yn hanfodol i’r ras.

 “Fel cyngor mi ydym yn falch iawn o gael cydweithio hefo pencampwriaeth y Byd a Ras Ryngwladol yr Wyddfa gan gynnig cymorth ariannol ac ymarferol.”

 Bydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn ymgorffori pencampwriaeth Redeg Mynydd y Byd yn cael ei chynnal yn Llanberis ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 20fed 2019 am 2 o’r gloch.

Am fwy o wybodaeth https://www.snowdonrace.co.uk

Cwpan y byd yn Llanberis

Cwpan y Byd Rhedeg Mynydd yn dod i Ras Ryngwladol yr Wyddfa a Llanberis

Ar gyfer Ras Ryngwladol Yr Wyddfa 2019, bydd y digwyddiad yn cynnwys rownd 4 o gyfres Cwpan y Bydsy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd.

Mae cyfres Cwpan y Byd yn cynnwys 7 ras gyffrous ac unigryw mewn 7 gwlad wahanol ar draws y byd, gan gynnwys dros 140km o draciau rasio mynydd, 9300m+ o uchder a chyfanswm gwobrau o tua 56,000 ewro ar gyfer yr holl rasys sy’n cynnwys safleoedd yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Eleni o fewn Ras Ryngwladol yr Wyddfa bydd rhedwyr hynod gystadleuol ar lefel rhyngwladol, gyda chystadleuwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Malta, yr Eidal, Ffrainc, Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd, Hwngari, Gweriniaeth Tsiec, Kenya ac UDA.

Caiff Ras Ryngwladol Yr Wyddfa ei hystyried yn un o’r rasys rhedeg mwyaf eiconig ym myd rhedeg mynyddoedd. Gan ddenu rhai o’r rhedwyr gorau Ewrop a thu hwnt, mae’r digwyddiad wedi tyfu dros y pedwar degawd diwethaf i fod yn un o’r rhai pennaf y mae pobl am ei gyflawni ledled y byd. Yn wir, mae cwblhau’r ras o Lanberis i gopa’r Wyddfa ac yn ôl yn rhywbeth y mae miloedd yn ei anelu ato, ac eto, dim ond cannoedd sy’n ei gyflawni.

Daeth poblogrwydd y ras i’r amlwg pan werthwyd y rhan fwyaf o’r 650 o lefydd oedd ar gael ar gyfer digwyddiad eleni o fewn 24 awr ar 1 Mawrth. Yn fuan wedi hynny, llwyddodd y trefnydd Stephen Edwards i gau’rgofrestra dechrau ar baratoadau’r ras.

Mae’r Stephen Edwards yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod y digwyddiad yn llawer mwy na dim ond ras, gyda noddwr mawr newydd wedi’i sicrhau, atyniadau ac ymdeimlad o ŵyl yn Llanberis pan gynhelir y ras yn ôl yr arfer ar y trydydd penwythnos ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Stephen Edwards: “Ras 2019 fydd yr orau eto! Rydan ni’n gyffrous iawn bod Rownd 4 Cwpan y Byd yn dod i Lanberis.

 “Fe gawson ni gyfle i gynnal rownd o Gwpan y Byd eleni ac yn naturiol roedden ni’n falch iawn o hynny. Dylai hyn godi proffil y digwyddiad ymhellach fyth ar lwyfan byd-eang drwy gyfryngau Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd a bydd yn dod ag elfen o ansawdd rhyngwladol i’r athletwyr sy’n cystadlu.”

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu Economaidd:

“Mae denu cyfres Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd i Lanberis yn rhywbeth i’w ddathlu. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ond mae’r llwyddiant yn dibynnu ar waith caled y pwyllgor gwirfoddol lleol ac ymrwymiad pobl leol. Mae eu gwaith caled, eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd yn hanfodol wrth lwyfannu digwyddiad o’r fath.

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o weithio gyda Chyfres Cwpan y Byd a Ras Ryngwladol yr Wyddfa ac i ddarparu cefnogaeth drwy becyn ariannol ac arweiniad ynghyd â chefnogaeth ymarferol.”

Mae Ras Ryngwladol Yr Wyddfa gan gynnwys cyfres Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd yn cael ei gynnal Llanberis ar ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf 2019, gyda’r Ras yn dechrau am 2pm. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.snowdonrace.co.uk