Llanberis – Ar ôl seibiant o 3 blynedd oherwydd y pandemig bydd 600 o redwyr yn gwneud eu ffordd i lethrau copa uchaf Cymru ddydd Sadwrn 16eg Gorffennaf ar gyfer 45ain Ras Ryngwladol  yr Wyddfa Castell Howell.

Mae’r rhagolygon ar gyfer digwyddiad eleni yn uchel unwaith eto, gyda rhai o athletwyr gorau’r Prydain ac Iwerddon yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon. Gallwn hefyd ddisgwyl blas rhyngwladol am y penwythnos gan y gallai rhedwyr o’r Eidal unwaith eto ennill y ras. Bydd y rhedwyr rhyngwladol a rhedwyr clwb a di-glwb yn mynd benben i gwblhau’r 10 milltir llafurus o’r mynydd enwocaf yn Eryri a Chymru.

Ar ôl tair blynedd hir heb fod ar y teledu’n flynyddol bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu unwaith eto, gyda rhaglen uchafbwyntiau a gynhyrchir gan Cwmni Da yn mynd allan ar S4C nos Sul 24ain Gorffennaf.

Mae’r Ras yn cael ei hystyried yn un o’r goreuon yn y byd rhedeg mynydd, yn denu rhai o’r raswyr gorau yn Ewrop ac wedi tyfu dros y pedwar degawd diwethaf i fod yn un ar y rhestr bwced  rhedwyr o bob man. Mae cwblhau’r ras o Lanberis i gopa’r Wyddfa ac yn ôl yn rhywbeth y mae miloedd yn dyheu amdano, ond dim ond cannoedd yn ei gyflawni.

Rhagolwg Ras y Dynion

Fel arfer bydd timau Cymru yn gobeithio perfformio’n dda gartref. Mae Matthew Roberts, rhedwr rhyngwladol profiadol, yn arwain y ffordd dros Gymru, ar ôl rhedeg yn y ras enwog hon ar sawl achlysur yn y fest goch. Yn ymuno ag ef bydd Gavin Roberts a Ben Mitchell, gyda Rhedwr Clwb Eryri  ifanc, Tom Wood, yn cwblhau’r pedwarawd.

Bydd tîm Lloegr mor gryf ag erioed ac fe fyddan nhw’n edrych i ennill fel unigolion yn ogystal ag fel tîm. Rhedodd Joe Baxter (8fed) a Dan Haworth (13eg) yn fest Lloegr yn 2019 gan ddychwelyd unwaith eto eleni. Matthew Elkington a Finlay Grant sy’n cwblhau lein-yp Lloegr, gyda Finlay Grant un i’w wylio – yn ffres a newydd gael medal efydd ym mhencampwriaethau Ewrop yn y ras dan 20.

Mae gan yr Eidal hanes cryf o lwyddiant yn y digwyddiad. Cawsant dair buddugoliaeth yn y bedair blwyddyn ddiwethaf y ras gyda Davide Magnini (2017) ac Alberto Vender (2018) [un fuddugoliaeth yn brin]. Eleni mae Luca Merli a Lorenzo Rota Martir yn teithio i Gymru i weld a allant ychwanegu eu henwau at restr o enillwyr enwog y ras arbennig hon.

Mae’r Alban yn wlad arall sydd wedi cael blas ar lwyddiant ar yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf gydag Andrew Douglas yn fuddugol yn 2019. Ni fydd Douglas yn rhan o dîm yr Alban eleni, ond mae John Yells, (un o selogion y ras) yn y tîm ac mae wedi bod yn rhedeg yn dda eleni. Gydag ef yn nhîm yr Alban bydd Alexander Cheplin, Ross Gollan a James Taylor yn cwblhau’r pedwarawd.

Mae gan Iwerddon hanes cyfoethog o lwyddiant yn y digwyddiad, gyda Zak Hanna yn dod yn 4ydd yn 2019. Eleni bydd James Kevan yn dychwelyd i’r Wyddfa ynghyd â Luke McMullan, Aaron Mc Grady, Leo Mahon.

Yn cwblhau’r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gydag Adam Cunningham, Jonny Scott, Andrew Tees a John Marrs. I ffwrdd o ochr elît y ras, bydd un rhedwr yn creu hanes unwaith eto yn 2022. Rhedodd Malcolm Jones o Dremadog yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny, camp anhygoel. Felly, bydd Malcolm yn rhedeg ei 45fed Ras yr Wyddfa eleni ac yn gwneud hanes fel yr unig berson sydd wedi cystadlu ym mhob digwyddiad yn y 47 mlynedd diwethaf.

Rhagolwg y Merched

Mae ras y merched ar yr Wyddfa 2022 yn argoeli’n dda unwaith eto gan y gallai pob llygad fod ar y cyn-enillydd tair gwaith Sarah McCormack o Weriniaeth Iwerddon a’i brwydr gyda rhai o dalentau ifanc gorau Ewrop ar hyn o bryd. Enillodd Sarah y ras yn 2019 ac mae’n dychwelyd i’r Wyddfa yn ffres o gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop y penwythnos cynt lle gorffennodd yn y 13eg safle. Gyda hi mae Roisin Howley ac Alison Armstrong yn ffurfio tîm merched Iwerddon.

Ar ôl cael 3ydd safle gwych ym mhencampwriaethau Ewrop, mae’r Scout Adkin yn dychwelyd i’r mynydd a’i gwelodd yn gorffen yn 6ed yn 2019. Fodd bynnag, mae’r Albanwraig ifanc wedi bod ar ei gorau yn 2022 ac mae’n siŵr ei bod ymhlith y ffefrynnau i fynd â’r teitl yn ôl i’r Alban. Mae rhedwraig tîm Prydain y penwythnos diwethaf, Holly Page, hefyd yn rhedeg ynghyd â Kirsty Dickson a Catriona MacDonald, sy’n golygu y bydd merched yr Albanwyr hefyd yn gryf iawn yn y ras tîm.

Mae Alice Gaggi o’r Eidal ar hyn o bryd yn drydydd yn safleoedd y byd a chymerodd ran hefyd yn yr Ewros y penwythnos diwethaf, gan orffen yn 6ed. Yn ymuno â hi mae Lorenza Beccaria yn y lliwiau enwog Azzuri.

Mae gan Gymru dîm cryf unwaith eto gydag Elliw Haf yn rhedeg yn dda yn lliwiau Cymru eto ar ôl gorffen yn y 10fed safle yn 2018 a’r 16eg yn 2019. Yn ymuno ag Elliw mae cyd-aelod o dîm Eryri Lizzie Richardson, Joanne Henderson o Cybi a Rhian Probert o’r Mynydd Du.

Does dim dwywaith y bydd tîm merched Lloegr yn herio unwaith eto ar gyfer safle uchaf y podiwm. Rhedodd Hannah Russell a Sharon Taylor yn dda mewn rasys yn La Palma yn lliwiau Prydain y penwythnos diwethaf ac ymunwyd â nhw gan enillydd y ras y cyfnod y mis diethaf, Sara Willhoit, gan wneud triawd cryf iawn o ferched Lloegr mewn ras lle maent wedi cael blas ar lwyddiant dros y blynyddoedd.

Bydd Martsje Hell, Esther Dickson, Elizabeth Wheeler a Karalee McBridewill yn cynrychioli Gogledd Iwerddon.

Ar ôl seibiant o dair blynedd oherwydd pandemig Coronafeirws mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at gynnal y ras unwaith eto yn 2022.

“Mae wedi bod yn dair blynedd anodd ers ein ras ddiwethaf yn 2019. Nid oes angen i mi atgoffa unrhyw un o’r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw, fodd bynnag dyma felly ail-afael yn y cyffro o weld y rhedwyr yn camu i’r mynydd eto eleni. Mae gennym ni’r prif noddwr Castell Howell eto ac mae holl gymuned Llanberis wedi bod mor gefnogol yn ein hamcanion i sicrhau bod y ras yn parhau â’i hanes cyfoethog.”

Nodweddion eraill y dydd fydd y rasys iau traddodiadol sy’n dechrau ddeg munud ar ôl y brif ras am 2.10pm ar y dydd Sadwrn am 10-18 mlynedd, lle bydd chwaraewr rhyngwladol iau Cymru, Noa Vaughan, yn herio athletwyr o glwb CSI Morbegno yn yr Eidal.

Bydd y rasys iau unwaith eto yn cael eu cefnogi gan Barc Cenedlaethol Eryri ac yn cael eu trefnu gan dîm Byw Iach, Cyngor Gwynedd. Mae cofrestru yn digwydd rhwng 9.30am -1.30pm yn y ganolfan gymunedol.

Meddai Stephen Edwards eto:

“O safbwynt y cyfryngau mae gennym y pecyn uchafbwyntiau teledu arferol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddarlledu diwedd y ras. Rydym ni fel mudiad gwirfoddol hefyd yn rhoi oriau o waith i drefnu’r agwedd gymunedol i’r digwyddiad rhyngwladol hwn. Mae busnesau lleol yn cymryd rhan bob blwyddyn ac mae miloedd o wylwyr yn dod i weld y rhedwyr, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.“

Mae’r bwrlwm yn y pentref bach yma ar ôl penwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy, mae’n rhaid i chi fod yma i allu deall hynny. Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal ac i bobl Llanberis. I feddwl am yr hyn y mae wedi dod yr holl flynyddoedd ar ôl y ras fechan gyntaf honno yn ôl yn 1976 – mae peth yn anhygoel.

“Yn yr un modd, ni allem gynnal y ras heb gefnogaeth barhaus y noddwyr Inov8, Rheilffordd yr Wyddfa, Gwesty’r Royal Victoria, S4C, Cwmni Da, Athletau Cymru, Oren, Steel Scaffolding, Sports Pictures Cymru a Phwyllgor Ras yr Wyddfa a chymuned Llanberis. Dyna sy’n gwneud y ras hon mor hudolus – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol, gyda naws leol, a hir y parhaed hynny. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Adran Digwyddiadau Cyngor Gwynedd am gefnogi’r ras unwaith eto eleni.”

Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn Llanberis ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2022, gyda’r Ras yn dechrau am 2pm. 

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.snowdonrace.co.uk

DIWEDD