Scott Sports – GWYLNOS YR WYDDFA 2023

HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS EI HUN

Mehefin 23 18:00 (yn dibynnu ar y tywydd)

https://secure.onreg.com/onreg2/front/step1.php?id=6063

Entriwch yma – Gwyll yr Wyddfa 2023

Bydd y ddolen gofrestru ar gael ar Ebrill 28, 2023 am 18:00pm

COFRESTRU YN CAU – 9fed o Fehefin, 2023

CYCHWYN Y RAS –  Rhedeg i fyny’n unig  fydd y ras. Bydd yn cychwyn ym Mharc Padarn (yr un lle â Ras yr Wyddfa) ac ar hyd Llwybr Llanberis I gopa’r Wyddfa.

Gobeithir cychwyn y ras am  18:00pm. Dylai pawb fod ar y top o fewn awr a chwarter. Os na fydd rhedwr wedi cyrraedd Gorsaf Clogwyn o fewn awr a phum munud bydd yn cael ei atal rhag mynd ym mhellach  (yn dibynnu ar y tywydd).

RHYBUDD I BOB RHEDWR
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO CIT CORFF LLAWN, mewn bag canol ac ati
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO TORJ PEN
• BYDD TJECIO HYN AR Y DECHRAU wrth gyfrif y rhedwyr
• HEB HYN NI CHEIR RHEDEG

Bydd stiwardiaid mewn mannau penodol ar hyd y llwybr : Hebron, Hanner Ffordd, Allt Moses, Clogwyn, Bwlch Glas a’r Copa
.

AR Y COPA – Ar ôl gorffen caiff pob rhedwr fynd i’r caffi, a dangos ei rif i gael diod poeth (te neu goffi) a fflapjac cyn troi i lawr yn ôl. Tua 9 bydd rhai stiwardiaid yn gwneud ei ffordd i lawr i Lanberis i jecio nad oes neb wedi mynd ar goll ar ei ffordd. Bydd stiwardiaid a rhai o’r tîm achub mynydd yn ceisio sicrhau fod pawb yn mynd i lawr ar lwybr Llanberis a neb yn troi i’r dde am Ben y Pas ym Mwlch Glas nac i’r dde wedyn am Garnedd..

Cofrestru 3.30 – 5.15pm

Ar lein yn unig y bydd cofrestru ar gyfer “Gwyll yr Wyddfa”. Gellir entrio MAI 1af am hanner dydd (nid hanner nos fel yr arferai fod). Ni fydd dim yn cael ei yrru yn y post. Bydd pawb yn cael ei rif wrth gofrestru o 3:30 – 515pm  ar ddydd Gwener Mehefin 24 yng Ngwesty’r Victoria.

Bydd amseru chip , diolch i Wasanaethau TDL Events Services a cheir crys T, ac wrth gwrs ddiod a fflapjac yn y caffi, gobeithio, diolch i Gwmni Trên Bach yr Wyddfa

CYFLE HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS

Cyflwyno 7.45 pm

Bydd cyflwyno gwobrwyon yn y Vic am 7.45pm. Caiff pawb wedyn hamddena dros beint neu ddau yn cnoi cil ar y ras.

Bydd gwobrwyon yn cael eu rhoi gan un o’n noddwyr cwmni Scott Sports. Bydd rhai gwobrwyon ar hap, felly dylai pawb ddal gafael ar ei rif rhedeg.!

Mi ydym fel Pwyllgor Ras yr Wyddfa  yn falch o greu digwyddiad fel hwn. Mae’r un fath o ras yng Nghymru.

Bydd  “Ras Gwylnos yr Wyddfa”  yn cael ei chynnal ar Fehefin 23, 2023 ‘chydig o wythnosau cyn y brif ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa. Bydd y rhedwyr sydd am redeg y brif ras yn cael cyfle i gystadlu  i fyny. Dylai fod yn hyfforddiant delfrydol.  Dim ond 200 gaiff gystadlu. Gan obeithio y bydd y tywydd yn caniatáu i bawb weld y golygfeydd o’r copa.

Mae’n un o rasys mawr rhedeg mynydd ac yn tynnu rhai o’r rhedwyr gorau o fannau ar draws Ewrop. Ond dim ond ers 2015 y cynhaliwyd Ras y Gwylnos. Teimlai Pwyllgor Ras yr Wyddfa fod y ras newydd hon yn ychwanegu at y gweithgareddau ac yn hybu’r economi’n lleol hefyd.

Bydd rhedwyr yn dod o bob rhan o Brydain ac Ewrop, lawer gobeithio yn aros nos Wener  y ras ac yn aros fwrw’r Sul i gael mwy o gyfle i fwynhau hen fynyddoedd Eryri.
!Diolch unwaith eto am y cefnogaeth gan Rheilffordd y Wyddfa.

Diolch,

Stephen Edwards
Trefnydd y Ras