Ras y Gwyll yr Wyddfa Inov8 2019 – adroddiad cyn y ras

Y dydd Gwener yma (Mehefin 28) fydd ras gwyll Inov8 fwyaf erioed er cychwyn nol yn 2015.

Wrth i boblogrwydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Ras y Gwyll yn ymarfer perffaith i redwyr sydd am gloriannu eu cyflwr cyn y ras fawr ei hun.

Mae hon hefyd yn ras i’r rhai sydd yn gweld mwy mewn rhedeg i fyny nac i lawr. Mae’r ras yn cychwyn yn Llanberis ac yn gorffen ar ben yr Wyddfa 1085m uwchlaw’r môr. Gyda lwc gall y rhedwyr syllu ar fachlud godidog wrth ymlwybro’n ôl tua’r gwaelod..

Eleni bydd rhai rhedwyr rhyngwladol Prydain ac athletwyr talentog o Gymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Mae tua 200 am redeg. Bydd y ras yn cychwyn am 7pm.

Yn ras y dynion mae enillydd y ras yn  2016 Dave Archer Matlock AC a chyd aelod  Alex Pilcher, sydd  wedi bod yn y 10 cyntaf yn ddiweddar yn Nhreialon Rhedeg i fyny Ewrop gynhaliwyd yn Ardal y Llynnoedd.

Bydd Russell Bentley, sy’n byw yn lleol, yno i weld sut siâp fydd arno cyn y ras fawr. Bydd unwaith eto’n cynrychioli Cymru. Mae wedi bod yn mynd yn dda yn ddiweddar.

Hefyd ar ei orau mae enillydd hanner Marathon – Marathon Trywydd  Cymru Salomon Dan Connolly. Yn dychwelyd i ardal y bu’n byw ynddi o Salford fydd Callum Rawlinson – mae o’n nabod y cwrs yn dda.

Yno hefyd fydd Stephen Pyke, Michael Cayton a llu o redwyr lleol. Bydd ras y dynion yn sicr yn un gystadleuol iawn.

Os yw ras y dynion yn un gystadleuol – yn ddiamau mae’r un peth yn wir am ras y merched – a all fod yn uchafbwynt y noson.

Y ffefrynnau i ennill ydyw un o redwyr rhyngwladol Prydain, Hatti Archer, Emma Clayton trydydd ym Mhencampwriaeth Rhedeg Mynydd 2015 ynghyd ag enillydd blaenorol Ras yr Wyddfa Sarah McCormack.

Cafodd Hatti Archer ei dewis i Bencampwriaethau Ewrop sydd ar ddigwydd ar ôl bod yn ail mewn ras dreialu ddiweddar ar fynydd Skiddaw yn Ardal y Llynnoedd. Mae  Sarah McCormack hefyd ar ei gorau gan fethu â churo Hatti Archer yn y ras o ddim ond hanner munud

Yma hefyd bydd dwy o enillwyr y ras wyll o’r blaen: Beth Hanson a Sarah Willholt. Yn ogystal yn rhedeg bydd Annabelle McQueen, rhedwyr Eryri a rhedwraig ryngwladol Yr Alban  Miranda Grant. Bydd ras y merched yn dipyn o frwydr.

Manylion llawn i’w cael ar Wyll yr Wyddfa Inov8  tudalen y ras <https://www.snowdonrace.co.uk/twilight-race/>

Diwedd