Noddwr newydd a rasio Cwpan y Byd – Ras yr Wyddfa orau erioed ?

Llanberis – Gyda phrif noddwr newydd, Castell Howell, a 650 o redwyr mae ras 2019  mae  44ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell yn argoeli’n un o uchafbwyntiau chwaraeon Cymru eleni.

Mae yna gryn edrych ymlaen eleni eto, gyda rhai o redwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. A rhedwyr o safon fyd-eang o Gymru, Yr Unol Daleithiau, Cenia, Japan, Ffrainc, Lloegr, Yr Alban,  Yr Eidal Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Bydd y rhain yn cystadlu a rhedwyr cyffredin hen ac ifanc ar y 10 milltir i fyny ac i lawr yng nghalon Eryri.

Yn 2019 mae’r ras yn rhan o gyfres Cwpan y Byd y Gymdeithas Redeg Mynydd. Mae’r gyfres yn 7 ras gyffrous mewn 7 gwlad wahanol gyda 140km o lwybrau i’w rhedeg 9300m o redeg i fyny a’r gwobrau i gyd yn werth 56 000 ewro, bydd y rasys hyn yn graddio rhedwyr mynydd ar safon fyd-eang. Ras rownd 4 yn y gyfres fydd Ras yr Wyddfa eleni.

Mae ras yr Wyddfa’n cael ei chyfrif un un o’r rasys mynydd mawr ac yn denu’r goreuon i gystadlu. A thros y deugain mlynedd a mwy y bu’n cael ei chynnal mae miloedd o redwyr mwy cyffredin wedi bod a’i fryd ar gystadlu dim ond ychydig gannoedd sydd wedi ei rhedeg.

Yn dangos pa mor boblogaidd yw’r ras gwerthwyd y 650 lle i gystadlu o fewn diwrnod ar Fawrth y cyntaf. Wedyn heb oedi roedd Stephen Edwards y trefnydd yn medru cau pen y mwdwl o ran cystadleuwyr a mynd ati i baratoi ar gyfer ras 2019.

Mae Stephen yn awyddus iawn i bwysleisio mai dim jest ras sydd yma. Mae yna noddwyr yn cefnogi, atyniadau yn y cae lle mae’r ras yn cychwyn – yn wir mae bywyd Llanberis ar  y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf yn troi rownd y ras:

“Mae’n argoeli y bydd ras 2019 yr orau erioed! Ein prif noddwyr newydd eleni yw Castell Howell ac y mae’n gyffrous iawn bod rownd 4 Cwpan y Byd yn Llanberis!

“Gwelodd Castell Howell y cyfle i noddi’r ras hynod hon fel modd cadarnhaol o ddod i gyswllt â’r gymuned leol.

Meddai Kathryn Jones Cyfarwyddwr Gwerthiant Castell Howell:

Mi ydym yn falch iawn o’n gwreiddiau gwledig a chefnogi’r cymunedau yr ydym yn gweithio yn eu plith ydyw un o’n gwerthoedd canolog. Yma yn y Gogledd mi ydym yn lwcus o gael yr Wyddfa – mynydd sydd a’i enwogrwydd ymhell tu hwnt i Gymru. Mae’r mynydd yma fel cefndir o fewn dim i ardal lle byddwn wrthi’n ddyddiol yn danfon nwyddau i’n cwsmeriaid. Mi ydym wrth ein boddau’n cael y cyfle i gefnogi’r 44ain ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell, ras sy’n croesawu rhedwyr o Gymru a phedwar ban y byd..”

Ac meddai Stephen Edwards:

“Cawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn siŵr o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..

“O ran y cyfryngau bydd rhaglen deledu ar y ras ar y Sul canlynol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddangos diwedd y ras. Fel mudiad gwirfoddol yr ydym ninnau yn rhoi oriau lawer o waith i drefnu ochr gymunedol y digwyddiad. Bob blwyddyn bydd busnesau lleol yn rhan o’r ddarpariaeth a bydd miloedd o bobl yn ymddangos i wylio’r rhedwyr o’r dechrau i’r diwedd. Mae pawb ar ei ennill.

“Mae’r bwrlwm yn Llanbêr  cyn y ras yn anhygoel. Rhaid i rywun fod yno i ddeall hynny. Mae’r ras yn golygu cymaint i’r pentref. Maent yn falch o’r ras a’r hyn mae’n ei ddangos i’r miloedd o ymwelwyr. O feddwl cymaint y mae wedi tyfu ers ei chychwyn digon disylw ymhell yn ôl yn 1976.”

“Ond mae’n bwysig nodi na ellid cynnal yr achlysur heb gefnogaeth Inov8, Clif Bar, Cwmni Trên Bach yr Wyddfa, Gwesty’r Victoria, S4C (teledu eto), Athletau Cymru, Ffrwythau DJ,  Scaffaldiau Steel , Sports Pictures Cymru, y pwyllgor a phobl Llanberis. Dyma sy’n dod a’r hwyl a’r hud i’r digwyddiad – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol gyda naws lleol – hir y parhao felly. Byddwn hefyd yn lecio diolch i Adran Weithgareddau Cyngor Gwynedd am gefnogi’r ras unwaith eto eleni yn enwedig o gofio ei bod yn ras sy’n rhan o bencampwriaeth y byd.”

Hefyd yn digwydd yr haf hwn mae ras inov-8 Gwyll yr Wyddfa, sy’n cael ei threfnu gan bwyllgor Ras yr Wyddfa. Ras i fyny’n unig yw hon ar ddydd Gwener Mehefin 28. Disgwylir i dros 150 o redwyr gymryd rhan, gan gychwyn am 7 o’r gloch y nos. I redeg y ras hon ewch i wefan Ras yr Wyddfa.

DIWEDD