Alberto Vender yn cadw bri’r Eidal a Bronwen Jenkinson yn llwyddo dros Gymru

Dyma’r ddau a wnaeth eu marc ar Ras yr Wyddfa 2018

Bu’n gyffro unwaith eto ar fynydd uchaf Cymru gyda bron i 600 o redwyr yn mynd ati i wneud eu gorau i fyny llwybrau caregog yr hen fynydd. Ar y brig wedi ymdrech fawr daeth Alberto Vender o’r Eidal. Dilynnodd ôl traed ei gydwladwr Davide Magnini a oedd yn fuddugol y llynedd. Eidalwr arall at y casgliad a adawodd eu hôl yn gorffennol: Martin May, Fausto Bonzi a Marco DeGasperi.

I Bronwen Jenkinson o’r Waunfawr, mi oedd hwn yn siŵr yn ddiwrnod mawr iawn iawn.  Bu ras 2016 yn un siomedig iddi, yn 2017 yr oedd yn bedwaredd, ond eleni yn ei thrydydd ymgais dyma gipio’r wobr. Dyma’r Gymraes gyntaf i ennill ers Angela Carson yn 1989.

Roedd hi’n gymylau isel ac yn boeth a chlos wrth i’r rhedwyr fynd ar i fyny am y pum milltir, er ei bod ychydig yn oerach o dop Allt Moses i fyny. Roedd y golygfeydd i gyd yn cuddio, a’r rhedwyr a’u trwynau ar y llwybr. Dyma ras bellach wedi prifio dipyn o’i chychwyn cyntaf yn 1976 i fod yn ddigwyddiad o bwys rhyngwladol.

Mae hefyd yn ras gyda chefnogaeth leo,l a gwelwyd cannoedd o ardalwyr ac ymwelwyr ar y lôn ac ar y mynydd yn cefnogi’r  achlysur. Cychwynwyd y ras am hanner dydd gan y Cynghorydd Ioan Thomas (Deilydd y portffolio datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd).

Ar y cychwyn roedd dau o redwyr Lloegr yn arwain: enillydd 2016 Chris Smith a Chris Holdsworth gyda Rob Samuel tîm Cymru yn eu cwmni. Hanner ffordd i fyny Chris Smith oedd yn gyntaf ac yn bedwerydd cryf Zak Hanna o Ogledd Iwerddon. Tua munud yn arafach roedd Alberto Vender, Guilio Simonetti ac enillydd 2012  Murray Strain.

Wrth i’r ras fynd rhagddi drwy Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas ennill tir o hyd wnai Alberto Vender gan ddal Rob Samuel a oedd ychydig y tu ôl i’r arweinydd Chris Smith, wrth agosau at y copa.

Yn y cyfamser yn Ras y Merched roedd  Bronwen Jenkinson wedi gafael ynddi o’r cychwyn i fyny Allt yr Parc am Benceunant. Erbyn hanner ffordd yr oedd ganddi gryn flaen dros y tair Saesnes Sophie Noon, Scot Miranda Grant a Caitlin Rice.

Ni fu dim newid ac erbyn y copa ac yr oedd Bronwen Jenkinson wedi ennill mwy fyth o dir – bellach ddau funud llawn ar y blaen.

yn ôl i ras y dynion: wrth fynd am i lawr o’r copa  yr oedd gan Chris Smith o hyd flaen sylweddol ar Alberto Vender a Rob Samuel.

O hynny ymlaen gwibiai Chris Smith ar i waered yn nadreddu rhwng rhedwyr eraill a cherddwyr gydag Alberto Vender yn nesau a nesau ato wrth i’r ddau agosau at bont Clogwyn gyda cherrig mân yr Allt Goch yn crensian dan eu gwadnau.

O’r diwedd aeth Alberto Vender amdani gan wibio heibio Chris Smith yn dangos ei allu arbennig o redeg i lawr. Erbyn Hanner Ffordd i lawr yr oedd wedi ennill blaen o 10 eiliad.

Ar yr un adeg yr oedd Rob Samuel yn dal yn drydydd ond ar ei sodlau yr oedd Chris Holdsworth yn gwneud ei orau i ddal y tri o’i flaen a hynny a dim ond milltir a hanner ar ôl.

Daeth yn amlwg fod Alberto Vender yn ennill mwy o dir bob llam. Cyrhaeddodd y col tar caled – doedd fawr o le i neb ei basio, a gallai deimlo’n ei bod yn mynd yn haws arno. Ond colli tir wnaeth Chris Smith i Rob Samuel ac wedyn Chris Holdsworth.

Wrth gyrraedd y 400m diwethaf dechreuodd yr Eidalwr 22 oed Alberto Vender weld ei fod wedi gwireddu ei nod, a dod un un arall o redwyr mawr yr Eidal i adael ei ôl troed ar yr Wyddfa. Gyda’r gymeradwyaeth fyddarol yr oedd wedi ei lethu gan orfoledd wrtth groesi’r llinell derfyn.

Gwnaeth hynny mewn 1:06:41. Er nad oedd otj am hynny ar y pryd, mi oedd o fewn 2 eiliad i gyflymder ei gydwladwr a enillodd y llynedd. Roedd rhediad Chris Holdsworth i lawr yn un neilltuol o dda – yn well na 2017 – gan orffen yn ail mewn 1:07:30.

Lai na hanner munud ar ei ôl dyma Rob Samuel yn gorffen gyda bloedd o gymeradwyaeth gan y dorf. Mi oedd ei amser 1:07:53 y gorau yr oedd wedi ei redeg. Yn bedwerydd oedd Chris Smith o Loegr ac ar ei ôl yntau Simonetti o’r Eidal.

Yng nghystadleuaeth y timau, yr Eidal a orfu yn erbyn Lloegr wrth i’r wythfed safle gael ei ennill gan Manuel Solavaggione.

Yn ôl i ras y merched: Heb un cam o’i le yn y darnau dyrys anwastad hynny: Clogwyn  Allt Moses a Ty’n yr Ardd daeth Bronwen i lawr i ennil ei bri. Wrth gyrraedd y col tar i Lanberis, yr oedd yn amlwg nad oedd neb yn agos i’w herio. Yr oedd wedi gadael ei hôl ar Bencampwriaeth Ewrop yn 12fed safle fis Mehefin, a dyma garreg filltir arall yn ei thaith i lwyddiant.

Yn gorffen mewn 1:20:41, dyma’r amser cyflymaf i unrhyw Gymraeg ei gael erioed.

Nid fod hynny’n bychanu camp Miranda Grant o’r Alban yn ail teilwng (1:22:27), gyda Sophie Noon yn drydedd (1:23:00), Caitlin Rice yn bedwaredd a Scot Jill Stephen yn bumed.

Asgell gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Lloegr a’r Alban yn y gystadleuaeth tîm merched. Yr oedd gan y ddau dîm 16 pwynt. Ond gan fod yr Alban wedi cymryd yn llai o amser, dyna’r tîm ddaeth i’r brig: Miranda Grant, Steph Provan a Jill Stephen.

Meddai Bronwen Jenkinson:

“Gwireddu breuddwyn oedd hyn. Mae’n ras leol i mi, er ei bod yn ras o statws rhyngwladol. Mae’r ras hon yn un y gwn amdani o’m plentyndod. Dwi wedi gweld gymaint o redwyr da yn gadael ei hôl. A rŵan dwinna’n un o’r enillwyr!

“Mi oeddwn i’n obeithiol cyn y ras, er bod gen i ambell i wayw a phoenau mân yr wythnos yma. Does dim gwybod tan y diwrnod ei hun. Ond mi weithiodd pethau – anodd coelio!”

Yn ystod y diwrnod cafwyd dros 200 yn rhedeg yn y rasys ieuenctid o’r rhai dan 10 oed i rai dan 18 oed. Mae’n bosib bod rhai o enillwyr y dyfodol yn eu plith. Diolch yn arbennig i dîm Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd am y trefnu.

Meddai Stephen Edwards trefnydd y ras:

Dyma ddiwrnod! Hefo’r ras yn cychwyn am hanner dydd, mae beth ydw i’n i gofio am y bora yn niwlog iawn, yn enwedig gan fod yna gymaint o waith hefo’r rasys ieuenctid hefyd. Doedd y tywydd ddim yn wych chwaith – fawr o ddim i weld yn y copa – dim ond cymylau. Ac mae’r ffaith bod yna gymaint o bobl hyd lle yn ei gwneud hi’n anodd bob amser. Ond fel arfer roedd y stiwardiaid a’r timau achub yn ymorol am y sefyllfa yn gwbl hyderus.

“Mi ydym yn cael cefnogaeth arbennig bob blwydd o’r Eidal. Mae’n cyswllt â Morbegno a ras Trofeo Vanoni yn parhau’n gadarn. Mae rhedwyr newydd medrus yn cyrraedd atom yn flynyddol, fel mae buddugoliaeth Alberto’n dangos eleni eto. Ond wrth gwrs allwn i ddim peidio â gwirioni o weld Bronwen yn ennill ras y merched a Rob yn drydydd yn ras y dynion !

“Mi ydan ni wedi magu traddodiad yma yng Nghymru o feithrin rhedwyr mynydd da, a gobeithio bod y ras heddiw wedi bod yn fodd i atgyfnerthu hynny.

“Mi hoffwn innau ddiolch yn arbennig i’r noddwyr, yn benodol Charlotte, Dylan, Jason a thîm Jewson am y gefnogaeth hael fel prif noddwyr. Hefyd Also inov-8, unwaith eto am eu nawdd a’r gwobrau i’r enillwyr. Diolch hefyd i’r Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd a thîm Chwaraeon am Oes (trefnwyr y rasys ieuenctid). A diolch unwaith eto am y gwirfoddolwyr a chefnogwyr a phobl Llanberis a’r ardal am wneud y diwrnod yn un i’w gofio.”

 Canlyniadau  Ras Ryngwladol yr Wyddfa 43ain Jewson

Dynio

  1. Alberto Vender (Yr Eidal) 1:06:41
  2. Chris Holdsworth (Lloegr) 1:07:30
  3. Rob Samuel (Cymru) 1:07:53

Tîm: Yr Eidal

 Merched

  1. Bronwen Jenkinson (Cymru) 1:20:41
  2. Miranda Grant (Yr Alban) 1:22:20
  3. Sophie Noon (Lloegr) 1:23:42

Tîm: Yr Alban

Y canlyniadau i gyd gan TDL Events Services yma/ here

Lluniau gan Sport Pictures Cymru yma/ here

Uchafbwyntiau  ar lein via S4C

DIWEDD