46ain Ras Rhyngwladol Yr Wyddfa 2023 Castell Howell

Rhagolwg y Ras

Llanberis Mae 46ain Ras Ryngwladol  yr Wyddfa Castell Howell  yn addo bod yn un o’r goreuon erioed yn 2023, wrth i athletwyr o’r radd flaenaf ymuno â bron i 600 o redwyr yn Llanberis wrth iddynt gychwyn ar 10 milltir lafurus y mynydd enwog hwn.

Bydd y ras eleni yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf a bydd hefyd yn croesawu pencampwriaethau Rhyngwladol Gwledydd Cartref Prydain lle mae timau hŷn dynion a merched o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn mynd benben. Bydd hyn yn ychwanegu at flas rhyngwladol y ras hon o’I chychwyniad yn 1976. Gan ei bodd eleni yn ymgorffori Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd Prydain yn 2023, dylai fod y cystadlu’n ffyrnig.

Adnewyddodd y prif bartner tymor hir, Castell Howell, ei nawdd yn gynharach eleni sy’n golygu bod un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol Prydain yn parhau i gefnogi’r ras hyd at 2025, a bydd hefyd yn hanner canmlwyddiant y digwyddiad eiconig hwn ar galendr chwaraeon Cymru.

Mae 2023 hefyd yn gweld y brand rhedeg a beicio blaenllaw SCOTT Sports yn dod yn noddwr dillad ac esgidiau mewn cytundeb 3 blynedd newydd.

Bellach yn ei 48fed flwyddyn, mae’r ras yn cael ei hystyried yn un o’r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynydd ac yn denu rhai o’r rhedwyr gorau yn Ewrop, a bydd yn cael ei darlledu ar deledu arferol drwy S4C a bydd hefyd ar gael ar BBC iPlayer, gyda’r rhaglen uchafbwyntiau unwaith eto wedi’i chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Cwmni Da, o Gaernarfon.

Ar noddyn gwahanol bydd un rhedwr yn creu hanes unwaith eto yn 2023. Rhedodd Malcolm Jones o Dremadog yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny, camp syml anhygoel. Felly, bydd Malcolm yn rhedeg ei 46fed Ras yr Wyddfa eleni – yr unig berson i gystadlu ym mhob digwyddiad.

Hefyd  ar yr un diwrnod bydd y rasys iau traddodiadol yn dechrau ddeg munud ar ôl y brif ras am 2.10pm, bydd y rhain unwaith eto yn cael eu cefnogi gan Barc Cenedlaethol Eryri a byddant yn cael eu trefnu gan dîm Byw’n Iach Cyngor Gwynedd. Mae cofrestru yn digwydd rhwng 9.30am a 1.30pm yn y ganolfan gymunedol.

Rhagolwg Dynion

Fel erioed bydd timau Cymru yn edrych i berfformio’n dda ar dir cartref. Mae Tom Wood unwaith eto yn rhan o’r tîm elitaidd ar ôl ei 7fed safle rhagorol yn 2022, a bydd ei gyd-Gymry Gavin Roberts a Rhodri Owen yn dychwelyd yn 2023 hefyd, ar ôl perfformio’n gryf yn fest Cymru y llynedd. Mae’r rhedwr lleol Tom Haynes weddi tynnu’n ôl ac yn ei le byddd Sion Edwards Eryri yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn nhîm Cymru ar ôl creu argraff ar y ffyrdd a’r mynyddoedd yn ddiweddar. Yn y ras dan 23 bydd yr athletwraig o Wrecsam, Ifan Oldfield, hefyd yn gobeithio creu argraff yn ei ymddangosiad cyntaf yn y ras.

Mae enillydd 2023 ? 2022, Ross Gollan, yn dychwelyd ar ôl ei berfformiad ysgubol y llynedd, gan geisio ennill dwy fuddugoliaeth mewn dwy flynedd, ac mae triawd cryf o’r Alban hefyd, gan gynnwys enillydd ras 2019 Andrew Douglas, Alexander Cheplin a chydag Alasdair Campbell yn cwblhau pedwarawd yr Alban. Bydd Ritchie Gardiner yn cynrychioli’r Albanwyr yn y ras dan 23.

Mae tîm Lloegr yn un o’r cryfaf ers nifer o flynyddoedd, wrth iddyn nhw geisio am y wobr tîm sydd wedi dod I’w rhan droeon yn y gorffennol. Mae Dan Haworth, Ben Rothery a Grant Cunliffe i gyd wedi bod mewn ar euu gorauu yn 2023 a bydd Chris Richards yn ymuno â nhw yn ffres ar ôl bodd yn ail ym Mhencampwriaethau Prydain yn yr Alban. Bydd enillydd Ras y Gader 2023, Finlay Grant a Will Tighe yn cystadlu yn y ras dan 23 am y Saeson, gyda disgwyl i Grant hefyd fod yn gwthio am safle  ar y podiwm yn y ras hŷn.

Mae gan yr Eidal hanes cryf o lwyddiant yn y digwyddiad, a bydd yn edrych i’w gwneud yn dair buddugoliaeth ym mhedair blwydddyn ddiwethaf y ras, ar ôl y buddugoliaethau gan Davide Magnini (2017) Alberto Vender (2018). Eleni mae Alessandro Rossi ac Isacco Costa yn teithio i Gymru i weld a allant ychwanegu eu henwau at y rhestr o gewri enillwyr rhedeg mynyddoedd yr Eidal..

Mae gan Weriniaeth Iwerddon hanes anrhydedus yn y ras a bydd enillydd diweddar y Ras Gwylnos, Killian Mooney, yn arwain dros y Gwyddelod. Bydd Matthew McConnell a Tim Johnston yn ymuno ag ef yn 2022, gorffennodd yn 21ain yn ras 2019.

Yn cwblhau’r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gydag Adam Cunningham yn dychwelyd unwaith eto yn dilyn perfformiad cryf ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Innsbruck ym mis Mehefin. Joshua McAtee, Andrew Tees a James Millar ydyw gweddill y pedwarawd

Yn ras agored y dynion, gallwn ddisgwyl gweld y rhai a orffennodd yn y trydydd a’r pedwerydd safle Nathan Edmondson a Michael Cayton unwaith eto yn y herio am y brig.

Rhagolwg Merched

Mae trydydd safle Ras y Merched 2022 Yr Wyddfa, Holly Page, yn dychwelyd ac yn ymuno â Nichola Jackson a’r pencampwr Prydeinig diweddar Vic Wilkinson yn lifrau Lloegr. Yn anffodus, mae’r cyn-enillydd Sarah McCormack yn tynnu’n ôl yn hwyr o dîm Gweriniaeth Iwerddon ond mae hyn yn dal i adael ras Yr Wyddfa 2023 yn edrych i fod yn dra chyffrous yn adran y merched.

Mae gan Gymru dîm cryf unwaith eto gyda Joanne Henderson yn rhedeg dros Gymru wedi bod yn 10fed safle yn 2022. Yn ymuno â Joanne mae’r rhedwraig o Fryste, Katrina Entwistle, wedi bod yn perfformio’n gryf ar sîn rhedeg mynydd De Cymru. Ffion Price, Kate Maltby a Katie Reynolds sy’n cwblhau tîm merched Cymru.

Gyda rhai perfformiadau cryf eisoes yn 2023 ac ar ôl ei 3ydd safle gwych yn 2022, mae Holly Page yn dychwelyd i reddeg ddros yr Alban. Kirsty Dickson, Megan Crawford a Catriona MacDonald, sy’n ffurfio’r pedwarawd. Bydd y merched yr Alban unwaith eto yn gryf iawn yn y ras tîmau.

Beatrice Bianchi o’r Eidal yw’r unig ferch o’r Eidal i gystadlu. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf yn y ras yn y lliwiau Azzuri enwog.

Nid oes amheuaeth y bydd tîm merched Lloegr unwaith eto yn agos at y brig. Gorffennodd Sharon Taylor 5ed ardderchog yn 2022 a bydd yn ymuno â Nichola Jackson, Vic Wilkinson a Phillipa Williams (rhedwraig rhyngwladol Prydain) Dyma ddîm crryf cryf iawn yn y ras –  maent wedi blasu llwyddiant sawl gwaith dros y blynyddoedd.

Bydd tîm Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu gwanhau gan absenoldeb McCormack, ond bydd Michelle Kenny, Lisa Hegarty ac Aine Gosling fydd yn falch o chwarae’r fest werdd i’r Gwyddelod.

Bydd Esther Dickson yn dychwelyd i’r digwyddiad unwaith eto yn 2023 gan gynrychioli Gogledd Iwerddon a bydd Naomi McCurry ac Alexa James yn ymuno â hi yn eu llinell gychwyn.

Cyffredinol

Mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, yn hyderus y bydd y ras unwaith eto yn cynhyrchu rhywfaint o rasio gwych, ond hefyd yn arddangosfa wych ar gyfer y digwyddiad a Pharc Cenedlaethol Eryri.

“Mae’r bwrlwm yn y penwythnos rasio hwn yn anghredadwy, mae’n rhaid i chi fod yma i allu deall hynny. Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal a phobl Llanberis. Mae’n anodd credo cymaint mae’r ddigwyddiadd hwn wedi newid a thyfu ers y cychwyniad yn ôl yn 1976. a dweud y gwir, Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sêr y mynydd rhyngwladol yn rhedeg unwaith eto yn brwydro ar lethrau’r hen fynydd.

“O safbwynt y cyfryngau mae gennym y pecyn uchafbwyntiau teledu arferol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddarlledu diwedd y ras. Rydym ni fel mudiad gwirfoddol hefyd yn rhoi oriau o waith i drefnu’r agwedd gymunedol ar gyfer y digwyddiad rhyngwladol hwn. Mae busnesau lleol yn cymryd rhan bob blwyddyn ac mae miloedd o wylwyr yn dod  i weld y rhedwyr, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Yn yr un modd, ni allem gynnal y ras heb gefnogaeth sylweddol y noddwyr Castell Howell a’r noddwr newydd SCOTT Sports, ynghyd â Rheilffordd yr Wyddfa, Gwesty’r Royal Victoria, S4C, Cwmni Da, Welsh Athletics, Oren, Steel Sgaffalfolding, Sports Pictures Cymru a holl bwyllgor Ras yr Wyddfa a chymuned Llanberis. Dyna sy’n gwneud y ras hon mor hudolus – mae’n ddigwyddiad rhyngwladol, gyda naws leol, a hir y bydd hynny’n parhau”.

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.snowdonrace.co.uk

DIWEDD