Noddwyr yn cefnogi’r Ras yr Wyddfa unwaith eto yn 2023 wrth i gyfle i gael cystadlu  yn Ras y Gwylnos fynd yn fyw

Gyda llai nag 80 diwrnod i fynd tan 46ain  Ras yr Wyddfa,  mae Stephen Edwards, wedi cyhoeddi y bydd y cytundeb nawdd yn cael ei adnewyddu gyda’r prif bartner tymor hir, Castell Howell, a fydd yn gweld un o brif gyfanwerthwyr bwyd annibynnol y DU yn parhau i gefnogi’r ras hyd at 2025. Bydd hefyd yn 50 mlynedd ers y digwyddiad eiconig hwn ar galendr chwaraeon Cymru.

Mae 2023 hefyd yn gweld y brand rhedeg a beicio blaenllaw SCOTT Sports yn  dod yn noddwr dillad ac esgidiau gyda chytundeb 3 blynedd newydd a fydd yn eu gweld fel y prif bartner yn y Ras y Gwylnos (i fyny’n unig) ar 23 o fis Mehefin.

Bellach yn ei 48 fed  flwyddyn, mae  Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn cael ei hystyried yn un o’r rhai  mwyaf ym myd rhedeg mynydd ac yn denu rhai o’r redwyr gorau Ewrop. Bydd yn cael ei darlledu ar deledu gan S4C a bydd  hefyd ar  gael ar BBC iPlayer, gyda’r rhaglen uchafbwyntiau unwaith eto wedi’i chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu  Cwmni  Da, o Gaernarfon.

Bydd y ras eleni yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf a bydd yn ogystal yn croesawu pencampwriaethau Rhyngwladol Gwledydd Cartref Prydain lle mae timau hŷn dynion a merched o Gymru, Lloegr, yr Alban a  Gogledd Iwerddon yn mynd benben, gan ychwanegu at flas rhyngwladol y ras hon.

Cynhelir Ras  Gwylnos SCOTT Sport gyda’r enw newydd ddydd Gwener 23 Mehefin a chyfle i wneud cais am gystadlu yn mynd yn fyw ar yr 28ain o  Ebrill am 6pm, ar gyfer y ras hon (sef ras i fyny’r allt yn unig). Yn cychwyn o ganol Llanberis i’r copa 3560 troedfedd  Yr Wyddfa. Diolch i Reilffordd yr Wyddfa hefyd am eu cefnogaeth bob blwyddyn.

Mae Stephen Edwards yn edrych ymlaen yn arw am yr hwyl a’r cyffro a ddaw i ganlyn y ras eleni eto ac meddai:

“Mae gennym gymaint o newyddion cadarnhaol yn 2023, mae’n anodd gwybod ble i ddechrau! Rydym yn hynod ddiolchgar i Gastell Howell am roi eu ffydd yn y digwyddiad eto eleni ac mae eu cael ar fwrdd y llong am 3 blynedd arall yn wych. Rwyf hefyd mor falch o gael SCOTT Sports yn ymuno â ni mewn cytundeb 3 blynedd ar draws y rasys Rhyngwladol a Gwylnos. Mae ganddynt rai o’r cynhyrchion rhedeg premiwm gorau ar y farchnad ac mae eu harbenigedd a’u gweledigaeth ym myd rhedeg mynydd a llwybrau yn cyd-fynd yn berffaith â’r ras.

“Mae hefyd yn wych cael pencampwriaethau Rhyngwladol Gwledydd Cartref Prydain yn y digwyddiad hefyd, gan y bydd hyn yn cryfhau ymhellach y meysydd elitaidd yn rasys dynion a merched.”

Nodweddion eraill 46ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell (48 blwyddyn) fydd y rasys iau traddodiadol gan ddechrau ddeng munud ar ôl y brif ras am 2.10pm ar y dydd Sadwrn. Ers blynyddoedd bellach mae’r rhain unwaith eto yn cael eu cefnogi  gan  Barc Cenedlaethol Eryri a byddant yn cael eu trefnu gan dîm Byw’n Iach (Cyngor Gwynedd).

I gael rhagor o wybodaeth am Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell a’r Ras Gwylnos Chwaraeon SCOTT, ewch i https://www.snowdonrace.co.uk