Ras yr Wyddfa 2017 – Davide Magnini yn disgleirio i’r Eidal ac Annie Conway yn serennu yn ras y merched

Llanberis – Mynydd uchaf Cymru unwaith eto’n llwyfannu drama ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 15, wrth i 600 o redwyr ar draws y byd gystadlu yn 42fed Ras yr Wyddfa dan nawdd Jewson.

Roedd yr awyr yn llwydaidd a doedd dim posib gweld ymhell iawn – hynny oedd yn wynebu rhedwyr eleni wrth ymlafnio i fyny ac i lawr am 10 milltir. Mae’n dipyn mwy o beth bellach nag oedd ar y dechrau yn 1976 pan gychwynnodd carfan llawer llai i’r copa 1085m o ganol y pentref.

Gyda nifer o dimau o wledydd eraill yn ymweld yr oedd teimlad rhyngwladol iddi, Daeth rhai o Loegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a mannau eraill o Ewrop. Ychydig funudau dros yr awr o’r cychwyn, dyma weld y dyn cyntaf yn cyrraedd Davide Magnini o’r Eidal ac yn ras y merched Annie Conway (rhedwraig i Salomon UK ac Ambleside) o Loegr .

Yn 20 oed mae Davide Magnini yn dilyn eraill o’i gydwladwyr Fausto Bonzi, Martin May a Marco DeGasperi, sydd wedi dod i’r brig yn y ras hon. Mae Annie Conway hithau yn enillydd Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd 2016, yn dilyn merched enwog fel Carole Greenwood, Angela Mudge a Mary Wilkinson.

Roedd hi’n llawn iawn hefyd yn Llanberis gyda chymaint wedi dod i edrych ac i gefnogi’r rhedwyr yn gweld y 600 yn mynd ac yn eu hamser amrywiol yn dod yn ôl. Er nad oedd y tywydd yn wych gydag ysbeidiau o law mân arhosodd cannoedd tan y diwedd. Ac yn cychwyn y ras roedd un a enillodd y ras deirgwaith, Joan Glass efo Dennis ei gŵr

Wrth i’r ras fynd yn ei blaen a’r rhedwyr yn mynd i fyny’r lôn galed cyn cyrraedd y llwybr mynydd, roedd rhai grwpiau o redwyr yn dod yn amlwg. Mewn un grŵp Davide Magnini, Hannes Perkmann (o’r un tîm), a’r Saeson Chris Farrell a Chris Arthur. Ac wrth iddynt fynd heibio Hebron, Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas roedd yn dod yn amlwg fod Davide Magnini yn geffyl blaen.

Roedd Annie Conway ar y dechrau yn ymryson â’r Gymraes ifanc Bronwen Jenkinson. Ac ar ôl methu â gorffen y llynedd roedd Bronwen yn benderfynol o wneud ei marc eleni. Dim ond Annie Conway o blith y merched blaen oedd heb fod yn cynrychioli ei gwlad. Wrth iddi gyrraedd llwybr y mynydd yr oedd yn amlwg ei bod o ddifrif, a phasiodd Bronwen Jenkinson a oedd ar y blaen ôl mynd tua milltir a hanner. Wedyn ar ei hôl aeth yn ymryson rhwng Bronwen Jenkinson Katie White o Loegr a Louise Mercer o’r Alban.

Wrth i’r cynion agosáu at y copa, daeth Davide o’r niwl glaw mân a’r cerddwyr niferus i gyrraedd yn gyntaf am 42:47. Hanner munud wedyn dyma Chris Farrell yn cyrraedd, ar ei ôl Hannes Perkmann. Yr oedd Tom Adams (a ddaeth yn drydydd) yn wythfed ar ran yma’r ras. Yn bedwerydd i’r copa oedd y Sais Chris Arthur, ond yn anffodus cafodd godwm hegar ar y llwybr ychydig cyn cyrraedd hanner ffordd.

Erbyn hyn roedd y rhedwyr blaen yn agosáu at y gwaelod. Roedd Davide Magnini i weld yn ysgafndroed wrth sboncio dros y cerrig a heibio’r cerddwyr. Dyma’r tro cyntaf iddo ymweld â Chymru – mae’n siŵr y bydd yn cofio’r ymweliad yn dda.

Yn ras y merched yr oedd Annie Conway yn y top am 50:53. O feddwl sut oedd hi roedd yn amser sydyn iawn. Yn ail i’r top roedd Katie White, wedyn Bronwen Jenkinson a heb fawr rhyngddynt wedyn *** Spencer – un arbennig o dda am redeg i lawr.

Yn ôl eto’n ras y dynion, roedd Davide Magnini y mynd fwyfwy ar y blaen wrth fynd i lawr. Mae’n siŵr iddo deimlo cledwch y tarmac serth i lawr tua’r diwedd, ond nid oedd hynny’n mennu dim arno wrth iddo orffen mewn amser gwych o 1:06:43, a’r tywydd a’r amgylchiadau nid o’r gorau.

Y tu ôl iddo o funud yn union Chris Farrell (1:07:43) yn ail am yr ail dro, gan iddo fod yn ail y llynedd hefyd. Ac yn drydedd wedi ennill nifer o safleoedd o’r copa roedd Tom Adams o dîm Lloegr yn gorffen mewn 1:09:15.

Yn syth ar ôl gorffen meddai Davide Magnini, “Dwi’n hapus iawn, mi oedd hi’n sicr yn ras anodd. Mi oeddwn i a’n meddwl am guro’r record i’r copa, ond unwaith yr es i dan y bont reilffordd (Clogwyn) mi oedd y gwynt yn chwythu’n groes ac yn gwneud hynny’n anoddach o dipyn!

“Mae Cymru’n wlad braf a gobeithio y caf gyfle i ddod yn ôl a gweld y wlad yn llawer gwell.”

Yng nghystadleuaeth y timau, gwnaeth Lloegr yn dda. Gyda Chris Farrell a Tom Adams a’r pedwerydd yn y ras Chris Holdsworth yn ennill i Loegr.

Yn y cyfamser yn ras y merched, daeth Annie Conway i gydag urddas i Lanberis. Cafodd un godwm fach tua’r gwaelodion ond ni wnaeth hynny fennu dim arni a gorffennodd yn daclus mewn amser o1:20:16.

Y tu ôl iddi roedd pethau’n poethi wrth i Louise Mercer basio Bronwen Jenkinson a Katie White a dod yn ail mewn 1:22:27. Wedyn Katie White (1:23:00) yn drydydd a Bronwen Jenkinson yn bedwaredd a’r cyflymaf o dîm merched Cymru.

Meddai Annie Conway “Roedd mynd i lawr yn medru bod yn ddigon anodd, ac mi ges godwm jest cyn cyrraedd y tarmac, mi oedd yn deimlad rhyfedd ond wnes i ddim oedi dim ond codi a dal i fynd. Mi ydw i’n falch iawn o ennill – mae ennill Ras yr Wyddfa yn golygu tipyn i mi”.

Yng nghystadleuaeth y tîm ar ôl Louise Mercer, Miranda Grant a Jill Spencer yn hawdd yn sicrhau buddugoliaeth i’r Alban.

Bu dros 200 o ieuenctid yn cymryd rhan ar y diwrnod mewn rasys rhai oedd o dan 10 i rai o dan 18. Efallai bydd rhai o enillwyr y dyfodol yn eu plith. Trefnwyd y digwyddiadau hyn gan Gyngor Gwynedd dan arweiniad Alun Jones fel rhan o raglen Chwaraeon am Oes.

Roedd y Trefnydd Stephen Edwards yn hapus iawn ar sut aeth pethau ac meddai:

“Mi oedd heddiw’n her, gan gychwyn y ras ddwyawr ynghynt ac wynebu tywydd nad oedd yn ddelfrydol yn enwedig tua’r copa lle na ellid gweld ymhell iawn. Ond fel arfer yr oedd y gwirfoddolwyr a’r stiwardiaid a’r timau achub yn gwybod beth i’w wneud.

“Braf ydy gweld rhedwyr o’r Eidal yn dal ati i ddod yma eto. Ac mae’n siŵr y bydd Davide yr enillydd ifanc yn siŵr o fod yn gwneud sioe ohoni yn y dyfodol. Am Annie Conway, dyma redwraig- pencampwr byd a bellach yn enillydd Ras yr Wyddfa hefyd.

“Mi leciwn i ddiolch i’r noddwyr i gyd, yn arbennig Charlotte, Dylan, Jason a thîm Jewson am eu cefnogaeth hael fel prif noddwr eleni. Hefyd inov-8, noddwr newydd am 2017 am eu cefnogaeth a’r gwobrwyon i’r enillwyr. Diolch hefyd i Barc cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd . Ac fel pob amser diolch o waelod calon i’r gwirfoddolwyr a chefnogwyr a phobl Llanberis am ei gwneud hi’n ddydd i’w gofio .”

42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa 2017 Jewson – Canlyniadau

Y Tri Dyn Cyntaf

1. Davide Magnini (Yr Eidal) 1:06:43
2. Chris Farrell (Lloegr) 1:07:47
3. Tom Adams (Lloegr) 1:09:15

Tîm: Lloegr

Y Tair Merch Gyntaf

1. Annie Conway (Salomon / Ambleside) 1:20:16
2. Louise Mercer (Yr Alban) 1:22:27
3. Katie White (Lloegr) 1:23:00

Tîm: Yr Alban

Y canlyniadau llawn ar lein yn TDL Events Services gwefan yma

Luniau gan Sport Pictures Cymru yma

Uchafbwyntiau’r ras ar Clic S4C am 30 diwrnod yma

GORFFEN