BWLCH MAESGWM 2019 – 10k flynyddol o Lanberis yw’r ras hon. Mae’n cael ei threfnu gan Bwyllgor Ras yr Wyddfa. Mae’n ddigwyddiad arall sy’n arwain at Ras Ryngwladol Yr Wyddfa – Castell Howell 2019. Diolch unwaith eto i bawb.

Fel arfer mae’r ras ganol fis Mawrth ar benwythnos. Ond i osgoi gwrthdaro â digwyddiadau eraill mae’r ras i gael ei symud i nos Iau, pam ddim. Byddwch yn effro I gael cadarnhad o’r dyddiad ar y wefan (neu gyfryngau cymdeithasol).

Mae’r ras yn cychwyn ochr uchaf y grid gwartheg ar lwybr yr Wyddfa, ymlaen ar y lôn darmac serth ond troi I’r dde I gyfeiriad capel Hebron drwy’r gors am Maesgwm. Bydd stiwardiaid ar y llwybr. Ar ôl cyrraedd pen draw y cwm, yna troi yn ôl a rhedeg yr un ffordd yn ôl.

2019 RAS – Ras Bwlch Maesgwm Race 2019
Nos Iau diwethaf mi wnaethom redeg Ras 10k Bwlch Maesgwm, Llanberis. Diolch ichi gyd am droi fyny, 28 ohonnoch, siomedig efo’r niferoedd, ond na fo, pawb wedi mwynhau y ras, y cwrs, a gwobrau da gan Inov8. Diolch ir gwirfoddlwyr i gyd, marshals, Gwesty Vic am y ‘stafell. Arian ar y noson i gyd yn mynd tuag at elusen ‘Tenovus’ – £200 – er cof am Rory O’donnell. A falch o ddweud fod ei fab Callum wedi dod yn 3ydd yn y ras, roedd ei dad wrth ei fodd yn rhedag y ras. Llongyfarchiadau hefyd i Russell Bentley ar ennill a Gemma Moore yn ras y merchaid. Hefyd chwalodd Russell record y cwrs o 3munud. Amser newydd y record 41mun 18eiliad.

Diolch ichi gyd.

Diolch

Stephen Edwards