Cofrestru

Cofrestru ar agor i redwyr gorffennol:
Friday 1st March 2024

(250 lle)

Cofrestru

Cofrestru ar agor i'r holl redwyr:
Friday 15th March 2024

(400 lle)

Cofrestru

Cofrestru ar-lein gan

 

Gofynion y Ras

MAE’N OFYNNOL EICH BOD WEDI CYSTADLU MEWN RAS FYNYDD DOSBARTH ‘A’ I YMGEISIO:

DIFFINIAD O GATEGORI RASIO MYNYDD ‘A’. ‘M’ Ras Ganolig 6 milltir neu fwy ond dan 12 milltir yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd. ‘L’ Ras hir 12 milltir neu fwy yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd.

  • 1. Rhaid i bob cystadleuydd fod dros 18 oed.
  • 2. AMODAU CYSTADLU: Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 12 mis o brofiad rhedeg mynydd mewn o leiaf un ras categori canolig neu hir ‘A’ neu farathon (hanner neu lawn) cyn dyddiad Ras yr Wyddfa.
  • 3. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ar y 1af o Orffennaf neu pan fydd 600 o redwyr (yr uchafswm) wedi cofrestru. Ni dderbynnir ceisiadau wedi’r dyddiad cau.
  • 4. Rhaid i bob rhedwr gael ei rif personol ar y diwrnod. Ni chaniateir newid rhifau nac enwau.
  • 5. Rhaid gwisgo’r rhif yn amlwg ar flaen eich crys rhedeg.
  • 6. RHAID mynd at farshal neu swyddog o’r ras os yn penderfynu rhoi’r gorau iddi yn ystod y ras. Gall peidio â gwneud hyn olygu y byddai unrhyw gais arall i Ras yr Wyddfa yn cael ei gwrthod yn y dyfodol.
  • 7. AMSERU ELECTRONIG. Pan roddir ‘chips’ electronig rhaid eu gosod yn ddiogel yn ôl y cyfarwyddiadau amgaeëdig. Cyfrifoldeb y rhedwr yw sicrhau fod y ‘chip’ hwn yn cael ei ddychwelyd ar ddiwedd y ras neu’n cael ei yrru at Drefnydd y Ras o fewn 14 diwrnod i’r ras. Codir ffi o £30.00 os na ddychwelir y teclyn a gellid gwrthod unrhyw gais arall i redeg yn Ras yr Wyddfa.
  • 8. Y TYWYDD. Dylid cario het, menig a dillad glaw addas rhag ofn y bydd y tywydd yn arw. Gall y pwyllgor fynnu bod y rhedwyr yn cyrraedd Clogwyn o fewn awr i ddechrau’r ras mewn tywydd garw neu ganslo’r ras yn gyfan gwbl. Ni fydd y ffi cystadlu’n cael ei ddychwelyd mewn amgylchiadau o’r fath.
  • 9. Rhaid rhedeg yn ôl rheolau UK Athletics.
  • 10. Gall methu cydymffurfio â 6 a 7 arwain at gael eich gwrthod am rasys yr Wyddfa yn y dyfodol.
  • 11. Cynigir gwobrau yn y rhan fwyaf o’r categoriau, gweler y wefan am fanylion.
  • 12. Bydd bagiau clun yn cael eu harchwilio os fydd rheol 8 yn cael ei gweithredu. Bydd unrhyw berson sy’n torri’r rheol hon yn cael eu gwahardd.
  • 13. Mi fydd rhaid i chi ddangos eich rhif yn llawn ar eich ‘vest’, crys t, DIM torri allan y noddwyr a DIM roid ar eich ‘shorts’. Unrhyw un fydd yn cael ei weld yn mynd yn erbyn y rheol yma mi fydd y rhedwr yn cael ei whardd or ras. Maer noddwyr yn cefnogi y ras, felly heb nhw, dim ras.

NODER:

Mae rhedeg mynydd yn gamp beryglus. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r anafiadau posib cyn cystadlu. Rhaid i chi ddatgan ar y ffurflen gais na fydd pwyllgor Ras Rhyngwladol yr Wyddfa yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am eich diogelwch na’ch eiddo yn ystod y ras. CHI sy’n gyfrifol am eich diogelwch personol.

RHEDWYR – PWYSIG:

Deallaf fod y ras hon yn cael ei chynnal yn unol a rheolau ac Anghenion Diogelwch UK Athletics. Rwyf yn ymwybodol o’r wybodaeth ac anghenion y trefnwyr gyda’r ras hon. Rwyf yn derbyn ac yn cydnabod y peryglon sydd yn bodoli ar y mynydd a deallaf fy mod yn rhedeg y ras gan fod yn ymwybodol o’r peryglon. Ar wahan i gyfrifoldeb y trefnwyr mewn achos o farwolaeth neu niwed corfforol drwy esgeulustod, cadarnhaf na fydd y trefnwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drosof am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd i mi a’m heiddo pan yn cystadlu yn y ras. Rwyf dros 18 mlwydd oed.