MAE’N OFYNNOL EICH BOD WEDI CYSTADLU MEWN RAS FYNYDD DOSBARTH ‘A’ I YMGEISIO:
DIFFINIAD O GATEGORI RASIO MYNYDD ‘A’. ‘M’ Ras Ganolig 6 milltir neu fwy ond dan 12 milltir yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd. ‘L’ Ras hir 12 milltir neu fwy yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd

Rhaid i bob cystadleuydd fod dros 18 oed

AMODAU CYSTADLU: Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 12 mis o brofiad rhedeg mynydd mewn o leiaf un ras categori canolig neu hir ‘A’ neu farathon (hanner neu lawn) cyn dyddiad Ras yr Wyddfa
Bydd y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr ar y 1af o Orffennaf neu pan fydd 500 o redwyr (yr uchafswm) wedi cofrestru. Ni dderbynnir ceisiadau wedi’r dyddiad cau.

Rhaid i bob rhedwr gael ei rif personol ar y diwrnod. Ni chaniateir newid rhifau nac enwau.
Rhaid gwisgo’r rhif yn amlwg ar flaen eich crys rhedeg.

RHAID mynd at farshal neu swyddog o’r ras os yn penderfynu rhoi’r gorau iddi yn ystod y ras. Gall peidio â gwneud hyn olygu y byddai unrhyw gais arall i Ras yr Wyddfa yn cael ei gwrthod yn y dyfodol.

AMSERU ELECTRONIG. Pan roddir ‘chips’ electronig rhaid eu gosod yn ddiogel yn ôl y cyfarwyddiadau amgaeëdig. Cyfrifoldeb y rhedwr yw sicrhau fod y ‘chip’ hwn yn cael ei ddychwelyd ar ddiwedd y ras neu’n cael ei yrru at Drefnydd y Ras o fewn 14 diwrnod i’r ras. Codir ffi o £20.00 os na ddychwelir y teclyn a gellid gwrthod unrhyw gais arall i redeg yn Ras yr Wyddfa.

Y TYWYDD. Dylid cario het, menig a dillad glaw addas rhag ofn y bydd y tywydd yn arw. Gall y pwyllgor fynnu bod y rhedwyr yn cyrraedd Clogwyn o fewn awr i ddechrau’r ras mewn tywydd garw neu ganslo’r ras yn gyfan gwbl. Ni fydd y ffi cystadlu’n cael ei ddychwelyd mewn amgylchiadau o’r fath.

Rhaid rhedeg yn ôl rheolau UK Athletics

Gall methu cydymffurfio â 6 a 7 arwain at gael eich gwrthod am rasys yr Wyddfa yn y dyfodol.
Cynigir gwobrau yn y rhan fwyaf o’r categoriau, gweler y wefan am fanylion.

Bydd bagiau clun yn cael eu harchwilio os fydd rheol 8 yn cael ei gweithredu. Bydd unrhyw berson sy’n torri’r rheol hon yn cael eu gwahardd.

Mi fydd rhaid i chi ddangos eich rhif yn llawn ar eich ‘vest’, crys t, DIM torri allan y noddwyr a DIM roid ar eich ‘shorts’. Unrhyw un fydd yn cael ei weld yn mynd yn erbyn y rheol yma mi fydd y rhedwr yn cael ei whardd or ras. Maer noddwyr yn cefnogi y ras, felly heb nhw, dim ras. Diolch

NODER: mae rhedeg mynydd yn gamp beryglus. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r anafiadau posib cyn cystadlu. Rhaid i chi ddatgan ar y ffurflen gais na fydd pwyllgor Ras Rhyngwladol yr Wyddfa yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am eich diogelwch na’ch eiddo yn ystod y ras. CHI sy’n gyfrifol am eich diogelwch personol.

RHEDWYR – PWYSIG –
Deallaf fod y ras hon yn cael ei chynnal yn unol a rheolau ac Anghenion Diogelwch UK Athletics. Rwyf yn ymwybodol o’r wybodaeth ac anghenion y trefnwyr gyda’r ras hon. Rwyf yn derbyn ac yn cydnabod y peryglon sydd yn bodoli ar y mynydd a deallaf fy mod yn rhedeg y ras gan fod yn ymwybodol o’r peryglon. Ar wahan i gyfrifoldeb y trefnwyr mewn achos o farwolaeth neu niwed corfforol drwy esgeulustod, cadarnhaf na fydd y trefnwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drosof am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd i mi a’m heiddo pan yn cystadlu yn y ras. Rwyf dros 18 mlwydd oe