15.07.2015

Cynhelir 5k DMM LLANBERIS ar 15fed o Orffennaf am 6.45 p.m. ychydig ddyddiau cyn Ras yr Wyddfa.

Daeth y syniad o gynnal ras newydd gan y pwyllgor. Am fod 10k Bangor, 5k Llanfairpwll, 10k Deiniolen 10K, beth am 5k Llanberis ? – pam lai !

Am ein bod yn trefnu gweithgareddau am wythnos lawn cyn y prif ddigwyddiad ac i ddathlu fod Ras yr Wyddfa’n 40 oed, dyma felly gyfle i gael 5k LLANBERIS.

Bydd y ras newydd hon yn rhoi cyfle i redwyr newydd fentro i drio 5k mewn modd cystadleuol, neu i hen redwyr gael her newydd neu baratoi ar gyfer ras fawr y Sadwrn.

Dim ond 200 gaiff redeg. Bydd yn mynd drwy rai o strydoedd Llanberis ac ar lwybrau ar y llechweddau yn ymyl i werthfawrogi golygfeydd braf (gobeithio), yn sbïo i lawr ar y pentref o dan Foel Eilio, Yr Wyddfa yn y pellter, Moel Gynghorion, Y foel Goch a’r Foel Gron gan ddringo at Gapel Hebron.

LLWYBR Y RAS

Bydd y ras yn cychwyn i fyny ar y Stryd Fawr yn ymyl Siop Joe Brown a Chaffi Pantri ( a fydd yn agored yn hwyr).

O’r cychwyn bydd yn mynd ar i fyny yn raddol ar y lôn heibio’r llyfrgell, Yr Ysgol a Chapel Coch wedyn i’r chwith a dringo at yr Hostel Ieuenctid drwy fferm yr Hafod (cofiwch bod yma faes gwersylla yma a rhai anifeiliaid).

Dipyn o ddringo i’r top ac wedyn troi i’r chwith ar hyd ffordd digon garw ond gwastad at Bont Hwch, drwy ddwy giât (fydd yn agored) ac wedyn i’r chwith eto ar lwybr (graeanog) i groesi’r afon at Gae Newydd. Yn syth ar ôl croesi’r afon yn syth ymlaen a dyma’r dro yn y gynffon – am i fyny at gapel Hebron i’r man uchaf 278m.

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y capel drwy’r giât (fydd yn agored) troi i’r chwith yn ôl ar y col tar. Byddwch wedyn yn cychwyn ar i lawr dan Bont Hebron, wedyn Allt Parc a Chaffi Steffan ar y dde dros y grid gwartheg yn y gwaelod ac at Res Victoria (?? Faenol) yna i’r chwith o dan bont y relwe i Lôn yr Eglwys.

Bydd yn pasio sawl tŷ, tŷ’r eglwys a’r rheithordy a’r Eglwys (lle bydd y cyngerdd ddydd Sul) ac yn ôl i’r Stryd Fawr.

Bydd rheoli traffig a stiwardio.

Ar y Stryd Fawr heibio Gwesty Dolbadarn ar y chwith a Phadarn Lake ar y dde, yna i’r dde i Ffordd Padarn i’r cae pêl droed o dan y gantri fydd ar ganol y cae. Yna ar hyd y twnnel i’r lle diod i gaffi/siop y Clwb Pêl Droed.

COFRESTRU 5.30 p.m. – 6.40 p.m.

– Ffordd Padarn, Clwb Pêl Droed Llanberis.
– Cewch nôl eich tjipiau rhedeg a rhifau rhedeg.
– Cewch dalu i gystadlu ar y diwrnod.
– Ceir ffurflen gystadlu ar y ddolen hon, hefyd ar facebook neu e-bost stephen@creadcyf.co.uk.
– Dyma ganolfan y ras.

CYFLWYNO GWOBRAU

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno tua 8pm i bawb a bydd ambell hap wobr ynghyd â’r prif wobrau a gwobrau categorïau oedran.

– Dynion a Merched 1af, 2il, 3ydd
– Dynion a Merched – Dros 40, 50, 60, 70

ELUSEN Y NOSON

Clwb Pêl Droed Llanberis fydd yn cael elw’r noson hon

graph

Mail Attachment