Datganiad y wasg – Entries go live on March 1st

Fel arfer ar Ddydd Gŵyl Dewi mi fydd yna ruthro am lefydd i gael rhedeg prif ras redeg mynydd Cymru

Bydd nifer o’r 650 lle i gystadlu yn Ras Ryngwladol yr Wyddfa ELIM Peugeot  ar gael o fewn llai na 4 wythnos, ar ddydd Mawrth Mawrth 1af am 00.01 o’r gloch. Dyna pryd y bydd 250 o’r rhai sydd wedi rhedeg o’r blaen rywdro yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn cael gwneud cais am gystadlu eleni yn y ras a fydd yn cael ei chynnal ar Orffennaf 16eg, 2016.

Bydd llefydd i 400 arall yn cael eu rhoi ar Fawrth 15fed. Bydd y ceisiadau eleni eto i’w gwneud drwy’r wefan www.snowdonrace.co.uk

Mae hon yn wythfed flwyddyn i’r trefnydd Stephen Edwards o Lanberis fod wrthi yn ymorol am y ras. Mae’n falch iawn o gael y fraint o fod ynglŷn â’r ras fynydd hynod hon. Eleni fydd y 41fed tro iddi gael ei chynnal. Meddai Stephen:

“Mi ydan ni’n barod amdani pan fydd y ceisiadau’n dod i mewn. Gobeithio y bydd y drefn yn gweithio’n ddidrafferth fel llynedd. Bydd yn rhaid i’r 250 sy’n cael lle fod wedi rhedeg y ras rywdro yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf. Bydd y 400 lle arall yn agored i bawb ymhen pythefnos wedyn. Ond bydd yn rhaid i bob un o’r 400 hynny fod â phrofiad o redeg mynydd.”

Y llynedd bu dathlu mawr fod y ras wedi ei chynnal 40 gwaith. Fe gychwynnodd y ras o’r Stryd Fawr fel y gwnaeth am y tro cyntaf yn 1976. Daeth miloedd yno i weld y cychwyn wrth i’r rhedwyr fynd drwy’r pentref am y mynydd. Bu’n ras wych unwaith eto gyda Emanuele Manzi o’r Eidal a Sarah McCormack  o Iwerddon yn ennill.

IMG_7127

Emanuele Manzi Enillydd Ras 2015 © Sport Pictures Cymru

_RWP5431_matt

Max Nicholls ac Emmie Collinge ar ôl ennill Cwpan yr Wyddfa 2015 gyda warden y Parc Cenedlaethol Helen Pye © Ray Wood Photography

Ystyrir Ras yr Wyddfa yn un o rasys mynydd pwysicaf ym myd rhedeg mynydd a daw rhai o oreuon Ewrop i gystadlu ynddi. Ymhlith yr enillwyr mae Kenny Stuart, Fausto Bonzi, Carole Greenwood, Andi Jones, Ian Holmes ac Angela Mudge – Do, mae’r hen fynydd wedi cael dogn go dda o gewri rhedeg mynydd. Ond dros y blynyddoedd daeth y ras yn un o’r pethau hynny y bu cymaint o redwyr cyffredin yn awyddus i gael dweud eu bod wedi ei rhedeg. Mae rhedeg i 10 milltir i fyny ac i lawr yn rhywbeth y byddai miloedd yn hoffi medru ei gwneud – ond tipyn llai sy’n cyflawni’r orchest.

Meddai Stephen:

“Bob blwyddyn cynyddu mae’r bwrlwm a’r disgwylgarwch wrth hwylio at y ras. Mi oedd dathliadau’r llynedd yn llwyddiannus tu hwnt a byddwn yn trefnu Ras Gwyll yr Wyddfa eto ar Fehefin 24 yn ogystal â ras 5k DMM yn Llanberis. Bydd ras Cwpan yr Wyddfa hefyd yn cael ei chynnal ar fore’r ras fawr. Mae’r ras honno yn siŵr o gychwyn y cyffro ar y diwrnod ! Mae ein noddwyr a’n partneriaid yn dal ati i’n helpu a bydd y digwyddiad unwaith eto ar y teledu.

“Mae’n braf hefyd cael noddwr blaen newydd ELIM Peugeot. Mae’r noddwr newydd wedi bod yn dra chefnogol ac edrychwn ymlaen at gydweithio hefo nhw o rŵan tan y ras ei hun.

“Mae hefyd yn bwysig sylweddoli ein dyled fawr i noddwyr fel Rheilffordd yr Wyddfa, First Hydro, a Gwesty’r Victoria Hotel ac wrth i bwyllgor y ras a phobl Llanbêr  – a dyna efallai sy’n gwneud y ras hon yn un mor arbennig – ras ryngwladol sydd hefyd yn lleol. Hir y parhao.!”

Am wybodaeth bellach cliciwch ar www.snowdonrace.co.uk.

rj210713race-30-5168330

 @Robert Parry-Jones

Ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau (yn cynnwys ceisiadau am luniau “hi res”) yn cael eu trafod gan Matt Ward ar 07515 558670 neu ebostio matt@runcomm.co.uk

Matt Ward
PR, Ras Ryngwladol yr Wyddfa / International Snowdon Race

+44(0)7515 558670 www.snowdonrace.co.uk