GWYLNOS YR WYDDFA 2026

HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS EI HUN

Mehefin 27 18:00 (yn dibynnu ar y tywydd)

Entriwch yma – Gwyll yr Wyddfa 2026

Bydd y ddolen gofrestru ar gael ar Ebrill 27, 2026 am 18:00pm – ???????

COFRESTRU YN CAU – 3ydd o Fehefin, 2026

CYCHWYN Y RAS –  Rhedeg i fyny’n unig  fydd y ras. Bydd yn cychwyn ym Mharc Padarn (yr un lle â Ras yr Wyddfa) ac ar hyd Llwybr Llanberis I gopa’r Wyddfa.

Gobeithir cychwyn y ras am  18:00pm. Dylai pawb fod ar y top o fewn awr a chwarter. Os na fydd rhedwr wedi cyrraedd Gorsaf Clogwyn o fewn awr a phum munud bydd yn cael ei atal rhag mynd ym mhellach  (yn dibynnu ar y tywydd).

RHYBUDD I BOB RHEDWR
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO CIT CORFF LLAWN, mewn bag canol ac ati
• RHAID I BOB RHEDWR GARIO TORJ PEN
• BYDD TJECIO HYN AR Y DECHRAU wrth gyfrif y rhedwyr
• HEB HYN NI CHEIR RHEDEG

Bydd stiwardiaid mewn mannau penodol ar hyd y llwybr : Hebron, Hanner Ffordd, Allt Moses, Clogwyn, Bwlch Glas a’r Copa

Cofrestru 3.30 – 5.15pm – Ganolfan Cymunedol (ger y cae)

Ar lein yn unig y bydd cofrestru ar gyfer “Gwyll yr Wyddfa”. Gellir entrio MAI 1af am hanner dydd (nid hanner nos fel yr arferai fod). Ni fydd dim yn cael ei yrru yn y post. Bydd pawb yn cael ei rif wrth gofrestru o 3:30 – 515pm  ar ddydd Gwener Mehefin 28 yn Ganolfan Cymunedol.

Bydd amseru chip , diolch i Wasanaethau TDL Events Services a cheir crys T. diolch i Rheilfford dy Wyddfa.

CYFLE HYFFORDDI GWYCH FIS CYN Y RAS

Cyflwyno 7.45 pm

Bydd cyflwyno gwobrwyon yn y Vic am 7.45pm. Caiff pawb wedyn hamddena dros beint neu ddau yn cnoi cil ar y ras.

Bydd gwobrwyon yn cael eu rhoi gan un o’n noddwyr cwmni ????dim noddwqyr ar hyn o bryd.

Bydd rhai gwobrwyon ar hap, felly dylai pawb ddal gafael ar ei rif rhedeg.!

Mi ydym fel Pwyllgor Ras yr Wyddfa  yn falch o greu digwyddiad fel hwn. Mae’r un fath o ras yng Nghymru.

Bydd  “Ras Gwylnos yr Wyddfa”  yn cael ei chynnal ar Fehefin 28, 2024 ‘chydig o wythnosau cyn y brif ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa. Bydd y rhedwyr sydd am redeg y brif ras yn cael cyfle i gystadlu  i fyny. Dylai fod yn hyfforddiant delfrydol.  Dim ond 200 gaiff gystadlu. Gan obeithio y bydd y tywydd yn caniatáu i bawb weld y golygfeydd o’r copa.

Mae’n un o rasys mawr rhedeg mynydd ac yn tynnu rhai o’r rhedwyr gorau o fannau ar draws Ewrop. Ond dim ond ers 2015 y cynhaliwyd Ras y Gwylnos. Teimlai Pwyllgor Ras yr Wyddfa fod y ras newydd hon yn ychwanegu at y gweithgareddau ac yn hybu’r economi’n lleol hefyd.

Bydd rhedwyr yn dod o bob rhan o Brydain ac Ewrop, lawer gobeithio yn aros nos Wener  y ras ac yn aros fwrw’r Sul i gael mwy o gyfle i fwynhau hen fynyddoedd Eryri.
!Diolch unwaith eto am y cefnogaeth gan Rheilffordd y Wyddfa.

Diolch,

Stephen Edwards
Trefnydd y Ras