Llanberis – Roedd hi’n dywydd hegar ar 47fed yn Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn 2024 yn ychwanegu at y ddrama, wrth i Naomi Lang o’r Alban a Joe Steward o Loegr ennill y ras fynydd eiconig hon.
Y flwyddyn olynol 2025 fydd y 48fed ras, a bydd y trefnwyr yn ei chyflwyno fel pen-blwydd yn 50 oed yn 2027 gan y bydd yn 50fed Ras
Roedd glaw trwm yn croesawu’r rhedwyr ar y llinell gychwyn unwaith eto eleni, ond gyda gwyntoedd ysgafnach ar y mynydd o’i gymharu â 2023 (pan fyrrhawyd y ras oherwydd gwyntoedd o dros 90 milltir yr awr ar gopa’r Wyddfa) byddai’r rhedwyr yn cyrraedd y copa.
Fel sy’n arferol yn Ras mae timau cryf o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Eidal yn dod at ei gilydd ar gyfer yr hyn sy’n adnabyddus fel un o’r rasys Ewropeaidd clasurol ar y calendr, ac ni fydd y tywydd yn gwneud dim i atal yr athletwyr rhyngwladol rhag rasio are u gorau.
Daeth Steward a Lang i mewn i’r ras ymhlith y ffefrynnau, ar ôl cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Ewrop yn ddiweddar yn Annecy, Ffrainc, gyda Steward yn cipio’r fedal aur yn y ras i fyny’r allt yn unig a Lang yn gorffen yn gyntaf o Brydain a 5ed yn ras i fyny ac i lawr y merched.
Roedd y ras yn gyflym o’r cychwyn yn 2024 wrth i’r rhedwyr anelu allan o Lanberis am 2pm, gyda Steward, Lorenzo Cagnati o’r Eidal a’r Albanwr Jacob Adkin ar y blaen wrth iddynt ddringo ar y mynydd tua milltir i mewn i’r ras.
Yn ras y merched nid oedd Vivien Bonzi o’r Eidal am din droi wrth iddi ffrwydro’r ddringfa gyntaf a chodi’r cyflymder ar i fyny heibio’r Hanner Ffordd. Y tu ôl iddi , Naomi Lang ac Eve Pannone o Loegr yn rhedeg gyda’i gilydd .
Wrth i’r rhedwyr blaen agosáu at y copa 1085m, roedd gan Steward arweiniad yn ras y dynion, gan ddangos sgiliau dringo trawiadol wrth iddo gyrraedd mewn 41:28, gyda Cagnati yn dilyn 75 eiliad yn ddiweddarach. Y tu ôl iddynt roedd Adkin ar y copa’n 3ydd mewn 43:13.
Yn ras y merched roedd Lang bellach wedi pasio Bonzi ac roedd yn wedi sefydlogi ar y blaen yng nghystadleuaeth merched, gan gyrraedd y copa mewn 50:48 a throi ar i lawr. Wedyn ymhelach yn ôl roedd Pannone mewn trydydd safle cadarn, gyda enillydd 2023 yn y 4ydd safle Beatrice Bianchi yn bwrw iddo go iawn. AIL ?
Roedd y safleoedd yn y ras bellach yn dod yn glir gyfa Steward o flaen Cagnati ac o flaen Adkin, Ond efallai mai’r Sais, Grant Cunliffe, oedd yn dod i lawr yn rhyfeddol yn carlamu ar dân, ac wrth ddod oddi ar y mynydd islaw Hebron ac ar y allt darmac serth pasiodd Adkin a chyrraedd y 3ydd safle tu ôl i Cagnati (ail) i’r llinell derfyn.
Ond ar y blaen roedd Joe Steward ac wrth rownd y tro olaf cafodd ei groesawu gan dorf enfawr yng Nghae’r Ddol, gan gael amser i wenu a chodi’r rhuban llinell derfyn i gipio buddugoliaeth wych mewn 1:05:48, gan ychwanegu ei enw at yr restr ddisglair a hir o enillwyr o Loegr.
Gorffennodd Cagnati o’r Eidal yn ail hapus mewn 1:08:13, bron â chael ei ddal gan y Cunliffe ar y llinell, a oedd wedi cynhyrchu un o’r disgyniadau cyflymaf o’r Wyddfa yn ddiweddar i ddod yn drydydd mewn 1:08:22.
Yr Eidal yn gwneud yn dda gyda’r5ed a 7fed i gipio gwobr tîm y dynion.
Yn ras y merched roedd perffomiodd Lang yn wych, gan wneud i lethrau garw Allt Moses edrych yn hawdd. Doedd Bonzi yr Eidal ddim yn mwynhau’r disgyniad serth cymaint ac erbyn hanner ffordd ar y ffordd i lawr roedd Pannone a’i chydwladwr Bianchi wedi pasio.
Ond parhaodd Lang i lawr i mewn i Lanberis, gan basio rhai o’r dynion oedd yn rhedeg. ar ôl rhedwr gwrywaidd, ac aeth i dros y llinell gyda gwên fawr, gan wybod bod wedi ennill yn hwwylus mewn amser cyflym iawn o 1:15:48. Mae hi bellach yn ymuno ag enillydd 2023 Holly Page, y chwedl fynydd Angela Mudge a Catriona Buchanan ifanc fel pencampwyr merched yr Alban o’r ras enwog hon. Gorffennodd Pannone yn ail ardderchog mewn 1:18:28, gan ddal blaen ar Bianchi, a gwblhaodd podiwm y merched gyda rhediad cryf iawn i ddod yn drydydd mewn 1:18:32.
Fel gyda’r dynion, roedd merched yr Eidal yn fuddugoliaethus yn y ras tîm gan (wrth iddynt gipio 3ydd, 4ydd a 5ed safle).
47fed Ras – Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell Wyddfa 2024 – Canlyniadau (49ain blwyddyn)
3 Uchaf y Dynion
- Joe Steward (Lloegr) 1:05:412. Lorenzo Cagnati (Yr Eidal) 1:08:133. Grant Cunliffe (Lloegr) 1:08:22
Tîm: Yr Eidal
3 Uchaf y merched
- Naomi Lang (Yr Alban) 1:15:48
- Eve Pannone (Lloegr) 1:18:28
- Beatrice Bianchi (Yr Eidal) 1:18:32
Tîm: Yr Eidal
DIWEDD