Yn sicr gyda noddwr newydd a thros 650 yn rhedeg bydd 42ain Jewson Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson, Llanberis  yn un o uchafbwyntiau chwaraeon Cymru eleni.

Mae cryn ddisgwylgarwch am ras eleni. Eto fyth bydd rhai o redwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. Bydd y 10 milltir arw i fyny ac i lawr yr hen fynydd yn gweld cystadleuaeth frwd rhwng timau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, De a Gogledd Iwerddon a’r Eidal. 

Ystyrir hon gyda’r fwyaf o rasys rhedeg mynydd, gan dynnu rhedwyr o wledydd ar draws Ewrop. Ond dros y blynyddoedd daeth fwyfwy yn ras mae sawl rhedwr cyffredin wedi ei gosod ar ei restr i’w gwneud unwaith mewn oes. Ond mae sawl un wedi meddwl am y peth, ond ychydig iawn sydd wedi cyrraedd y nod.

Eto’n dangos poblogrwydd y ras yn 2017, oedd gweld pa mor sydyn y llanwyd y 650 o lefydd rhedeg. Unwaith y daeth y cyfle i gystadlu ar lein ar Fawrth y cyntaf, chymerodd hi fawr mwy na diwrnod nad oedd bob lle wedi ei gymryd. O fewn dim yr oedd y trefnydd Stephen Edwards yn medru anghofio am y rhan yna o’i orchwyl a mynd ati i ymorol am y trefniadau eraill.

Mae Stephen bob amser yn awyddus i bawb sylweddoli bod mwy na jest ras yma. Gyda noddwyr hael ac atyniadau amrywiol mae yma hefyd ysbryd gŵyl sy’n llenwi Llanberis pob trydydd penwythnos ym mis Gorffennaf:

“Bydd ras 2017 gyda’r gorau erioed! Mae gynnon ni brif noddwr newydd eleni – Jewson. Gwelodd y cwmni fod yma gyfle da i noddi ras o bwys lleol a rhyngwladol a chael ar yr un pryd gyfle arbennig i gysylltu â’r gymuned leol. 

“Mae yna ffasiwn gyffro yn Llanbêr pan mae dydd y ras yn agosau. Rhaid bod no i’w synhwyro. Mae’r ras yn golygu cymaint i bobl y pentref a’r ardal. Mae nhw’n falch iawn o’r digwyddiad a’r modd y mae’r digwyddiad yn dod â’r ardal i olwg cymaint o ymwelwyr o bob than o’r byd. Mae’n anhygoel meddwl faint mae’r ras wedi tyfu a ffynnu o’i chychwyn digon syml bell bell yn ôl yn 1976.”

Meddai Charlotte Bird ar ran Jewson: 

“Mi ydym bob amser yn meddwl am ffyrdd i helpu’r gymuned yr ydan ni ynddi hi. Yma yn y Gogledd mae gynnon ni’r Wyddfa – mynydd arbennig iawn ar ein stepan drws. Mae’n rhan o’r cefndir bob amser i’n safleoedd ac i’n cerbydau nwyddau wrth iddyn nhw fynd ati i wneud eu gwaith. A hithau’n tynnu rhedwyr o bedwar ban byd, dyma gyfle neilltuol i ni gael estyn help i’r ras arbennig hon a dymuno pob llwyddiant a llewyrch iddi hi.

Meddai Stephen Edwards hefyd:

“Noddwr arall yn 2017 ydyw inov-8. Dyma’r cwmni esgidiau rhedeg mynydd gyda’r blaenaf yn y byd. Felly dyma dewis cwbl briodol i Ras yr Wyddfa. Bydd inov-8 yn bresennol ar ddiwrnod y ras ac fel noddwyr y crysau t yn ogystal ag yn rhoi gwobreuon i’r enillwyr. Un o’r rhai sydd wedi hwyluso’r cyswllt hwn yw Pete Bland Sports, un arall o’n noddwyr tymor hir. Bydd y cwmni hwn hefyd yn amlwg ar ddiwrnod y ras.

“Newid arall eleni ydyw y bydd y brif ras yn cychwyn ddwyawr ynghynt am hanner dydd. Mae’r newid wedi cael croeso gan redwyr a mudiadau lleol. Bydd ras yr ieuenctid yn cychwyn yn fuan wedyn am 12.05pm. Bydd yn cael ei noddi gan yr arbennigwr swigod Dr. Zigs, ac mewn partneriaeth â “Chwaraeon am Oes” Cyngor Gwynedd Council. Bydd rasys plant “Hwyl i Bawb” yn y bore am 10.30am.

“Dylai’r rhedeg fod yn arbennig, gyda chymaint o rai da yn cymryd rhan. Bydd uchafbwyntiau’r ras ar y teledu, ar S4C ar y Sul canlynol am 6pm, a bydd diwedd y ras yn cael ei ddangos ar Facebook Live. 
Fel mudiad gwirfoddol, mi ydym wrthi am oriau lawer yn trefnu y cwbl. Mae cymaint o fusnesion lleol yn cyfrannu at yr achlysur a miloedd yn dod i gefnogi. Mae pawb sy’n cyfranogi’n elwa’n fawr o’r digwyddiad.

“Ond heb nawdd o sawl cyfeiriad, fyddai’r ras ddim yn cael ei chynnal. Diolch felly i Clif Bar, Rheilffordd yr Wyddfa, First Hydro, Gwesty’r Victoria , S4C,, Parc Cenedlaethol Eryri, Athletau Cymru, Ffrwythau DJ, Sports Pictures Cymru a phawb sydd ar y pwyllgor a chymuned Llanberis. A dyna sy’n gwneud yr holl beth mor hynod – digwyddiad rhyngwladol ond un sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn gymdeithas leol. Hir y parhao!”
Hefyd yr haf yma bydd Ras Gwylnos yr Wyddfa inov-8, sydd eto’n cael ei threfnu gan yr un tîm â Ras yr Wyddfa. Cynhelir y ras hon, i fyny’n unig, ar ddydd Gwener Mehefin 9. Bydd disgwyl tua 150 rhedwr. Bydd yn cychwyn am 7pm. Gellir cofrestru i gystadlu ar wefan Ras yr Wyddfa.

DIWEDD

Ymholiadau y wasg a’r cyfryngau (gan gynnwys lluniau manylder uwch) at Matt Ward ar 07515 558670 neu ebost matt@runcomm.co.uk

Matt Ward
PR, Ras Ryngwladol yr Wyddfa / International Snowdon Race
+44(0)7515 558670