{"id":823,"date":"2018-07-24T13:05:46","date_gmt":"2018-07-24T13:05:46","guid":{"rendered":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=823"},"modified":"2018-07-24T13:32:44","modified_gmt":"2018-07-24T13:32:44","slug":"43rd-jewson-international-snowdon-race-2018-race-report","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/43rd-jewson-international-snowdon-race-2018-race-report\/","title":{"rendered":"Adroddiad Ras &#8211;  43ain Ras yr Wyddfa JEWSON"},"content":{"rendered":"<p><strong>Alberto Vender yn cadw bri\u2019r Eidal a Bronwen Jenkinson yn llwyddo dros Gymru<\/strong><\/p>\n<p>Dyma\u2019r ddau a wnaeth eu marc ar Ras yr Wyddfa 2018<\/p>\n<p>Bu\u2019n gyffro unwaith eto ar fynydd uchaf Cymru gyda bron i 600 o redwyr yn mynd ati i wneud eu gorau i fyny llwybrau caregog yr hen fynydd. Ar y brig wedi ymdrech fawr daeth Alberto Vender o\u2019r Eidal. Dilynnodd \u00f4l traed ei gydwladwr Davide Magnini a oedd yn fuddugol y llynedd. Eidalwr arall at y casgliad a adawodd eu h\u00f4l yn\u00a0gorffennol: Martin May, Fausto Bonzi a Marco DeGasperi.<\/p>\n<p>I Bronwen Jenkinson o\u2019r Waunfawr, mi oedd hwn yn si\u0175r yn ddiwrnod mawr iawn iawn.\u00a0 Bu ras 2016 yn un siomedig iddi, yn 2017 yr oedd yn bedwaredd, ond eleni yn ei thrydydd ymgais dyma gipio\u2019r wobr. Dyma\u2019r Gymraes gyntaf i ennill ers Angela Carson yn 1989.<\/p>\n<p>Roedd hi\u2019n gymylau isel ac yn boeth a chlos wrth i\u2019r rhedwyr fynd ar i fyny am y pum milltir, er ei bod ychydig yn oerach o dop Allt Moses i fyny. Roedd y golygfeydd i gyd yn cuddio, a\u2019r rhedwyr a\u2019u trwynau ar y llwybr. Dyma ras bellach wedi prifio dipyn o\u2019i chychwyn cyntaf yn 1976 i fod yn ddigwyddiad o bwys rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn ras gyda chefnogaeth leo,l a gwelwyd cannoedd o ardalwyr ac ymwelwyr ar y l\u00f4n ac ar y mynydd yn cefnogi\u2019r\u00a0 achlysur. Cychwynwyd y ras am hanner dydd gan y Cynghorydd Ioan Thomas (Deilydd y portffolio datblygu Economaidd Cyngor Gwynedd).<\/p>\n<p>Ar y cychwyn roedd dau o redwyr Lloegr yn arwain: enillydd 2016 Chris Smith a Chris Holdsworth gyda Rob Samuel t\u00eem Cymru yn eu cwmni. Hanner ffordd i fyny Chris Smith oedd yn gyntaf ac yn bedwerydd cryf Zak Hanna o Ogledd Iwerddon. Tua munud yn arafach roedd Alberto Vender, Guilio Simonetti ac enillydd 2012\u00a0 Murray Strain.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r ras fynd rhagddi drwy Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas ennill tir o hyd wnai Alberto Vender gan ddal Rob Samuel a oedd ychydig y tu \u00f4l i\u2019r arweinydd Chris Smith, wrth agosau at y copa.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser yn Ras y Merched roedd\u00a0 Bronwen Jenkinson wedi gafael ynddi o\u2019r cychwyn i fyny Allt yr Parc am Benceunant. Erbyn hanner ffordd yr oedd ganddi gryn flaen dros y tair Saesnes Sophie Noon, Scot Miranda Grant a Caitlin Rice.<\/p>\n<p>Ni fu dim newid ac erbyn y copa ac yr oedd Bronwen Jenkinson wedi ennill mwy fyth o dir \u2013 bellach ddau funud llawn ar y blaen.<\/p>\n<p>yn \u00f4l i ras y dynion: wrth fynd am i lawr o\u2019r copa\u00a0 yr oedd gan Chris Smith o hyd flaen sylweddol ar Alberto Vender a Rob Samuel.<\/p>\n<p>O hynny ymlaen gwibiai Chris Smith ar i waered yn nadreddu rhwng rhedwyr eraill a cherddwyr gydag Alberto Vender yn nesau a nesau ato wrth i\u2019r ddau agosau at bont Clogwyn gyda cherrig m\u00e2n yr Allt Goch yn crensian dan eu gwadnau.<\/p>\n<p>O\u2019r diwedd aeth Alberto Vender amdani gan wibio heibio Chris Smith yn dangos ei allu arbennig o redeg i lawr. Erbyn Hanner Ffordd i lawr yr oedd wedi ennill blaen o 10 eiliad.<\/p>\n<p>Ar yr un adeg yr oedd Rob Samuel yn dal yn drydydd ond ar ei sodlau yr oedd Chris Holdsworth yn gwneud ei orau i ddal y tri o\u2019i flaen a hynny a dim ond milltir a hanner ar \u00f4l.<\/p>\n<p>Daeth yn amlwg fod Alberto Vender yn ennill mwy o dir bob llam. Cyrhaeddodd y col tar caled \u2013 doedd fawr o le i neb ei basio, a gallai deimlo\u2019n ei bod yn mynd yn haws arno. Ond colli tir wnaeth Chris Smith i Rob Samuel ac wedyn Chris Holdsworth.<\/p>\n<p>Wrth gyrraedd y 400m diwethaf dechreuodd yr Eidalwr 22 oed Alberto Vender weld ei fod wedi gwireddu ei nod, a dod un un arall o redwyr mawr yr Eidal i adael ei \u00f4l troed ar yr Wyddfa. Gyda\u2019r gymeradwyaeth fyddarol yr oedd wedi ei lethu gan orfoledd wrtth groesi\u2019r llinell derfyn.<\/p>\n<p>Gwnaeth hynny mewn 1:06:41. Er nad oedd otj am hynny ar y pryd, mi oedd o fewn 2 eiliad i gyflymder ei gydwladwr a enillodd y llynedd. Roedd rhediad Chris Holdsworth i lawr yn un neilltuol o dda \u2013 yn well na 2017 \u2013 gan orffen yn ail mewn 1:07:30.<\/p>\n<p>Lai na hanner munud ar ei \u00f4l dyma Rob Samuel yn gorffen gyda bloedd o gymeradwyaeth gan y dorf. Mi oedd ei amser 1:07:53 y gorau yr oedd wedi ei redeg. Yn bedwerydd oedd Chris Smith o Loegr ac ar ei \u00f4l yntau Simonetti o\u2019r Eidal.<\/p>\n<p>Yng nghystadleuaeth y timau, yr Eidal a orfu yn erbyn Lloegr wrth i\u2019r wythfed safle gael ei ennill gan Manuel Solavaggione.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l i ras y merched: Heb un cam o\u2019i le yn y darnau dyrys anwastad hynny: Clogwyn\u00a0 Allt Moses a Ty\u2019n yr Ardd daeth Bronwen i lawr i ennil ei bri. Wrth gyrraedd y col tar i Lanberis, yr oedd yn amlwg nad oedd neb yn agos\u00a0i\u2019w herio. Yr oedd wedi gadael ei h\u00f4l ar Bencampwriaeth Ewrop yn 12fed safle fis Mehefin, a dyma garreg filltir arall yn ei thaith i lwyddiant.<\/p>\n<p>Yn gorffen mewn 1:20:41, dyma\u2019r amser cyflymaf i unrhyw Gymraeg ei gael erioed.<\/p>\n<p>Nid fod hynny&#8217;n bychanu camp Miranda Grant o&#8217;r Alban yn ail teilwng (1:22:27), gyda Sophie Noon yn drydedd (1:23:00), Caitlin Rice yn bedwaredd a Scot Jill Stephen yn bumed.<\/p>\n<p>Asgell gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Lloegr a&#8217;r Alban yn y gystadleuaeth t\u00eem merched. Yr oedd gan y ddau d\u00eem 16 pwynt. Ond gan fod yr Alban wedi cymryd yn llai o amser, dyna&#8217;r t\u00eem ddaeth i&#8217;r brig: Miranda Grant, Steph Provan a Jill Stephen.<\/p>\n<p>Meddai Bronwen Jenkinson:<\/p>\n<p><em>&#8220;Gwireddu breuddwyn oedd hyn. Mae&#8217;n ras leol i mi, er ei bod yn ras o statws rhyngwladol. Mae&#8217;r ras hon yn un y gwn amdani o&#8217;m plentyndod. Dwi wedi gweld gymaint o redwyr da yn gadael ei h\u00f4l. A r\u0175an dwinna&#8217;n un o&#8217;r enillwyr!<\/em><\/p>\n<p><em>&#8220;Mi oeddwn i&#8217;n obeithiol cyn y ras, er bod gen i ambell i wayw a phoenau m\u00e2n yr wythnos yma. Does dim gwybod tan y diwrnod ei hun. Ond mi weithiodd pethau &#8211; anodd coelio!&#8221; <\/em><\/p>\n<p>Yn ystod y diwrnod cafwyd dros 200 yn rhedeg yn y rasys ieuenctid o&#8217;r rhai dan 10 oed i rai dan 18 oed. Mae&#8217;n bosib bod rhai o enillwyr y dyfodol yn eu plith. Diolch yn arbennig i d\u00eem Chwaraeon am Oes Cyngor Gwynedd am y trefnu.<\/p>\n<p>Meddai Stephen Edwards trefnydd y ras:<\/p>\n<p><em>Dyma ddiwrnod! Hefo&#8217;r ras yn cychwyn am hanner dydd, mae beth ydw i&#8217;n i gofio am y bora yn niwlog iawn, yn enwedig gan fod yna gymaint o waith hefo&#8217;r rasys ieuenctid hefyd. Doedd y tywydd ddim yn wych chwaith &#8211; fawr o ddim i weld yn y copa &#8211; dim ond cymylau. Ac mae&#8217;r ffaith bod yna gymaint o bobl hyd lle yn ei gwneud hi&#8217;n anodd bob amser. Ond fel arfer roedd y stiwardiaid a&#8217;r timau achub yn ymorol am y sefyllfa yn gwbl hyderus.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMi ydym yn cael cefnogaeth arbennig bob blwydd o&#8217;r Eidal. Mae&#8217;n cyswllt \u00e2 Morbegno a ras Trofeo Vanoni yn parhau&#8217;n gadarn. Mae rhedwyr newydd medrus yn cyrraedd atom yn flynyddol, fel mae buddugoliaeth Alberto&#8217;n dangos eleni eto. Ond wrth gwrs allwn i ddim peidio \u00e2 gwirioni o weld Bronwen yn ennill ras y merched a Rob yn drydydd yn ras y dynion !<\/em><\/p>\n<p><em>&#8220;Mi ydan ni wedi magu traddodiad yma yng Nghymru o feithrin rhedwyr mynydd da, a gobeithio bod y ras heddiw wedi bod yn fodd i atgyfnerthu hynny.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMi hoffwn innau ddiolch yn arbennig i&#8217;r noddwyr, yn benodol Charlotte, Dylan, Jason a th\u00eem Jewson am y gefnogaeth hael fel prif noddwyr. Hefyd Also inov-8, unwaith eto am eu nawdd a&#8217;r gwobrau i&#8217;r enillwyr. Diolch hefyd i&#8217;r Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd a th\u00eem Chwaraeon am Oes (trefnwyr y rasys ieuenctid). A diolch unwaith eto am y gwirfoddolwyr a chefnogwyr a phobl Llanberis a&#8217;r ardal am wneud y diwrnod yn un i&#8217;w gofio.\u201d<\/em><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Canlyniadau\u00a0 Ras Ryngwladol yr Wyddfa 43ain Jewson <\/strong><\/p>\n<p><strong>Dynio<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Alberto Vender (Yr Eidal) 1:06:41<\/li>\n<li>Chris Holdsworth (Lloegr) 1:07:30<\/li>\n<li>Rob Samuel (Cymru) 1:07:53<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>T\u00eem:<\/strong>\u00a0Yr Eidal<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Merched<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li>Bronwen Jenkinson (Cymru) 1:20:41<\/li>\n<li>Miranda Grant (Yr Alban) 1:22:20<\/li>\n<li>Sophie Noon (Lloegr) 1:23:42<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>T\u00eem:<\/strong>\u00a0Yr Alban<\/p>\n<p>Y canlyniadau i gyd gan TDL Events Services yma\/ <a href=\"https:\/\/www.tdleventservices.co.uk\/event-results\/events?event=2966\">here<\/a><\/p>\n<p>Lluniau gan Sport Pictures Cymru yma\/ <a href=\"https:\/\/www.sportpictures.cymru\/Galleries\/2018-Gallery\/Ras-y-Wyddfa-Snowdon-International-Race\">here<\/a><\/p>\n<p>Uchafbwyntiau\u00a0 ar lein <a href=\"http:\/\/www.s4c.cymru\/cy\/\">via S4C<\/a><\/p>\n<p><strong>DIWEDD<\/strong><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Alberto Vender yn cadw bri\u2019r Eidal a Bronwen Jenkinson yn llwyddo dros Gymru Dyma\u2019r ddau a wnaeth eu marc ar Ras yr Wyddfa 2018 Bu\u2019n gyffro unwaith eto ar fynydd uchaf Cymru gyda bron i 600 o redwyr yn mynd ati i wneud eu gorau i fyny llwybrau caregog yr hen fynydd. Ar y brig [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-823","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-dh","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/823","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=823"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/823\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=823"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=823"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=823"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}