{"id":661,"date":"2017-07-30T16:33:26","date_gmt":"2017-07-30T16:33:26","guid":{"rendered":"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=661"},"modified":"2017-07-30T16:42:13","modified_gmt":"2017-07-30T16:42:13","slug":"42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-report","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-report\/","title":{"rendered":"2fed Ras Rynglwadol yr Wyddfa Jewson 2017 &#8211; Adroddiad yr Ras"},"content":{"rendered":"<p><strong>Ras yr Wyddfa 2017 &#8211; Davide Magnini yn disgleirio i&#8217;r Eidal ac Annie Conway yn serennu yn ras y merched<\/strong><\/p>\n<p>Llanberis &#8211; Mynydd uchaf Cymru unwaith eto&#8217;n llwyfannu drama ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 15, wrth i 600 o redwyr ar draws y byd gystadlu yn 42fed Ras yr Wyddfa dan nawdd Jewson.<\/p>\n<p>Roedd yr awyr yn llwydaidd a doedd dim posib gweld ymhell iawn &#8211; hynny oedd yn wynebu rhedwyr eleni wrth ymlafnio i fyny ac i lawr am 10 milltir. Mae&#8217;n dipyn mwy o beth bellach nag oedd ar y dechrau yn 1976 pan gychwynnodd carfan llawer llai i&#8217;r copa 1085m o ganol y pentref.<\/p>\n<p>Gyda nifer o dimau o wledydd eraill yn ymweld yr oedd teimlad rhyngwladol iddi, Daeth rhai o Loegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a mannau eraill o Ewrop. Ychydig funudau dros yr awr o&#8217;r cychwyn, dyma weld y dyn cyntaf yn cyrraedd Davide Magnini o&#8217;r Eidal ac yn ras y merched Annie Conway (rhedwraig i Salomon UK ac Ambleside) o Loegr .<\/p>\n<p>Yn 20 oed mae Davide Magnini yn dilyn eraill o&#8217;i gydwladwyr Fausto Bonzi, Martin May a Marco DeGasperi, sydd wedi dod i&#8217;r brig yn y ras hon. Mae Annie Conway hithau yn enillydd Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd 2016, yn dilyn merched enwog fel Carole Greenwood, Angela Mudge a Mary Wilkinson.<\/p>\n<p>Roedd hi&#8217;n llawn iawn hefyd yn Llanberis gyda chymaint wedi dod i edrych ac i gefnogi&#8217;r rhedwyr yn gweld y 600 yn mynd ac yn eu hamser amrywiol yn dod yn \u00f4l. Er nad oedd y tywydd yn wych gydag ysbeidiau o law m\u00e2n arhosodd cannoedd tan y diwedd. Ac yn cychwyn y ras roedd un a enillodd y ras deirgwaith, Joan Glass efo Dennis ei g\u0175r<\/p>\n<p>Wrth i&#8217;r ras fynd yn ei blaen a&#8217;r rhedwyr yn mynd i fyny&#8217;r l\u00f4n galed cyn cyrraedd y llwybr mynydd, roedd rhai grwpiau o redwyr yn dod yn amlwg. Mewn un gr\u0175p Davide Magnini, Hannes Perkmann (o&#8217;r un t\u00eem), a&#8217;r Saeson Chris Farrell a Chris Arthur. Ac wrth iddynt fynd heibio Hebron, Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas roedd yn dod yn amlwg fod Davide Magnini yn geffyl blaen.<\/p>\n<p>Roedd Annie Conway ar y dechrau yn ymryson \u00e2&#8217;r Gymraes ifanc Bronwen Jenkinson. Ac ar \u00f4l methu \u00e2 gorffen y llynedd roedd Bronwen yn benderfynol o wneud ei marc eleni. Dim ond Annie Conway o blith y merched blaen oedd heb fod yn cynrychioli ei gwlad. Wrth iddi gyrraedd llwybr y mynydd yr oedd yn amlwg ei bod o ddifrif, a phasiodd Bronwen Jenkinson a oedd ar y blaen \u00f4l mynd tua milltir a hanner. Wedyn ar ei h\u00f4l aeth yn ymryson rhwng Bronwen Jenkinson Katie White o Loegr a Louise Mercer o&#8217;r Alban.<\/p>\n<p>Wrth i&#8217;r cynion agos\u00e1u at y copa, daeth Davide o&#8217;r niwl glaw m\u00e2n a&#8217;r cerddwyr niferus i gyrraedd yn gyntaf am 42:47. Hanner munud wedyn dyma Chris Farrell yn cyrraedd, ar ei \u00f4l Hannes Perkmann. Yr oedd Tom Adams (a ddaeth yn drydydd) yn wythfed ar ran yma&#8217;r ras. Yn bedwerydd i&#8217;r copa oedd y Sais Chris Arthur, ond yn anffodus cafodd godwm hegar ar y llwybr ychydig cyn cyrraedd hanner ffordd.<\/p>\n<p>Erbyn hyn roedd y rhedwyr blaen yn agos\u00e1u at y gwaelod. Roedd Davide Magnini i weld yn ysgafndroed wrth sboncio dros y cerrig a heibio&#8217;r cerddwyr. Dyma&#8217;r tro cyntaf iddo ymweld \u00e2 Chymru &#8211; mae&#8217;n si\u0175r y bydd yn cofio&#8217;r ymweliad yn dda.<\/p>\n<p>Yn ras y merched yr oedd Annie Conway yn y top am 50:53. O feddwl sut oedd hi roedd yn amser sydyn iawn. Yn ail i&#8217;r top roedd Katie White, wedyn Bronwen Jenkinson a heb fawr rhyngddynt wedyn *** Spencer &#8211; un arbennig o dda am redeg i lawr.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l eto&#8217;n ras y dynion, roedd Davide Magnini y mynd fwyfwy ar y blaen wrth fynd i lawr. Mae&#8217;n si\u0175r iddo deimlo cledwch y tarmac serth i lawr tua&#8217;r diwedd, ond nid oedd hynny&#8217;n mennu dim arno wrth iddo orffen mewn amser gwych o 1:06:43, a&#8217;r tywydd a&#8217;r amgylchiadau nid o&#8217;r gorau.<\/p>\n<p>Y tu \u00f4l iddo o funud yn union Chris Farrell (1:07:43) yn ail am yr ail dro, gan iddo fod yn ail y llynedd hefyd. Ac yn drydedd wedi ennill nifer o safleoedd o&#8217;r copa roedd Tom Adams o d\u00eem Lloegr yn gorffen mewn 1:09:15.<\/p>\n<p>Yn syth ar \u00f4l gorffen meddai Davide Magnini, \u201cDwi&#8217;n hapus iawn, mi oedd hi&#8217;n sicr yn ras anodd. Mi oeddwn i a&#8217;n meddwl am guro&#8217;r record i&#8217;r copa, ond unwaith yr es i dan y bont reilffordd (Clogwyn) mi oedd y gwynt yn chwythu&#8217;n groes ac yn gwneud hynny&#8217;n anoddach o dipyn!<\/p>\n<p>\u201cMae Cymru&#8217;n wlad braf a gobeithio y caf gyfle i ddod yn \u00f4l a gweld y wlad yn llawer gwell.&#8221;<\/p>\n<p>Yng nghystadleuaeth y timau, gwnaeth Lloegr yn dda. Gyda Chris Farrell a Tom Adams a&#8217;r pedwerydd yn y ras Chris Holdsworth yn ennill i Loegr.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser yn ras y merched, daeth Annie Conway i gydag urddas i Lanberis. Cafodd un godwm fach tua&#8217;r gwaelodion ond ni wnaeth hynny fennu dim arni a gorffennodd yn daclus mewn amser o1:20:16.<\/p>\n<p>Y tu \u00f4l iddi roedd pethau&#8217;n poethi wrth i Louise Mercer basio Bronwen Jenkinson a Katie White a dod yn ail mewn 1:22:27. Wedyn Katie White (1:23:00) yn drydydd a Bronwen Jenkinson yn bedwaredd a&#8217;r cyflymaf o d\u00eem merched Cymru.<\/p>\n<p>Meddai Annie Conway \u201cRoedd mynd i lawr yn medru bod yn ddigon anodd, ac mi ges godwm jest cyn cyrraedd y tarmac, mi oedd yn deimlad rhyfedd ond wnes i ddim oedi dim ond codi a dal i fynd. Mi ydw i&#8217;n falch iawn o ennill &#8211; mae ennill Ras yr Wyddfa yn golygu tipyn i mi\u201d.<\/p>\n<p>Yng nghystadleuaeth y t\u00eem ar \u00f4l Louise Mercer, Miranda Grant a Jill Spencer yn hawdd yn sicrhau buddugoliaeth i&#8217;r Alban.<\/p>\n<p>Bu dros 200 o ieuenctid yn cymryd rhan ar y diwrnod mewn rasys rhai oedd o dan 10 i rai o dan 18. Efallai bydd rhai o enillwyr y dyfodol yn eu plith. Trefnwyd y digwyddiadau hyn gan Gyngor Gwynedd dan arweiniad Alun Jones fel rhan o raglen Chwaraeon am Oes.<\/p>\n<p>Roedd y Trefnydd Stephen Edwards yn hapus iawn ar sut aeth pethau ac meddai:<\/p>\n<p>\u201cMi oedd heddiw&#8217;n her, gan gychwyn y ras ddwyawr ynghynt ac wynebu tywydd nad oedd yn ddelfrydol yn enwedig tua&#8217;r copa lle na ellid gweld ymhell iawn. Ond fel arfer yr oedd y gwirfoddolwyr a&#8217;r stiwardiaid a&#8217;r timau achub yn gwybod beth i&#8217;w wneud.<\/p>\n<p>\u201cBraf ydy gweld rhedwyr o&#8217;r Eidal yn dal ati i ddod yma eto. Ac mae&#8217;n si\u0175r y bydd Davide yr enillydd ifanc yn si\u0175r o fod yn gwneud sioe ohoni yn y dyfodol. Am Annie Conway, dyma redwraig- pencampwr byd a bellach yn enillydd Ras yr Wyddfa hefyd.<\/p>\n<p>&#8220;Mi leciwn i ddiolch i&#8217;r noddwyr i gyd, yn arbennig Charlotte, Dylan, Jason a th\u00eem Jewson am eu cefnogaeth hael fel prif noddwr eleni. Hefyd inov-8, noddwr newydd am 2017 am eu cefnogaeth a&#8217;r gwobrwyon i&#8217;r enillwyr. Diolch hefyd i Barc cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd . Ac fel pob amser diolch o waelod calon i&#8217;r gwirfoddolwyr a chefnogwyr a phobl Llanberis am ei gwneud hi&#8217;n ddydd i&#8217;w gofio .&#8221;<\/p>\n<h2><strong>42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa 2017 Jewson &#8211; Canlyniadau<\/strong><\/h2>\n<p><strong>Y Tri Dyn Cyntaf<\/strong><\/p>\n<p>1. Davide Magnini (Yr Eidal) 1:06:43<br \/>\n2. Chris Farrell (Lloegr) 1:07:47<br \/>\n3. Tom Adams (Lloegr) 1:09:15<\/p>\n<p><strong>T\u00eem:<\/strong> Lloegr<\/p>\n<p><strong>Y Tair Merch Gyntaf<\/strong><\/p>\n<p>1. Annie Conway (Salomon \/ Ambleside) 1:20:16<br \/>\n2. Louise Mercer (Yr Alban) 1:22:27<br \/>\n3. Katie White (Lloegr) 1:23:00<\/p>\n<p><strong>T\u00eem:<\/strong> Yr Alban<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.tdleventservices.co.uk\/race-results.php\">Y canlyniadau llawn ar lein yn TDL Events Services gwefan yma<\/a><\/p>\n<p>Luniau gan <a href=\"http:\/\/snowdonrace.co.uk\">Sport Pictures Cymru yma<\/a><\/p>\n<p>Uchafbwyntiau&#8217;r ras ar Clic S4C am 30 diwrnod <a href=\"http:\/\/www.s4c.cymru\/clic\/e_index.shtml\">yma<\/a><\/p>\n<p>GORFFEN<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ras yr Wyddfa 2017 &#8211; Davide Magnini yn disgleirio i&#8217;r Eidal ac Annie Conway yn serennu yn ras y merched Llanberis &#8211; Mynydd uchaf Cymru unwaith eto&#8217;n llwyfannu drama ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 15, wrth i 600 o redwyr ar draws y byd gystadlu yn 42fed Ras yr Wyddfa dan nawdd Jewson. Roedd yr awyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":667,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-661","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon-17.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-aF","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/661","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=661"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/661\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/667"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=661"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=661"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=661"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}