{"id":647,"date":"2017-07-03T20:08:47","date_gmt":"2017-07-03T20:08:47","guid":{"rendered":"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=647"},"modified":"2017-07-03T20:19:57","modified_gmt":"2017-07-03T20:19:57","slug":"42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-preview-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-preview-2\/","title":{"rendered":"42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson  2017 &#8211; Rhagolwg"},"content":{"rendered":"<p>Yn Llanberis &#8211; a dim ond 10 diwrnod i fynd tan 42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson  2017 mae disgwyl garw am ddydd y ras. Dyma ras enwog a thros 600 o redwyr  yn un o rasys mynydd anoddaf ym Mhrydain.<\/p>\n<p>Eleni mae yna brif noddwr newydd: Jewson, a chefnogaeth hefyd gan wneuthurwyr esgidiau mynydd blaengar inov8.<\/p>\n<p>Newid arall ydyw bod y ras yn cychwyn ynghynt. Yn lle am 2 pm mae bellach am hanner dydd. Ond mae\u2019n dal i gychwyn o\u2019r lle arferol, o Gae\u2019r Ddol, Llanberis. Yn cychwyn y ras eleni bydd rhai o fawrion y ras yn y gorffennol Joan and Dennis Glass.<\/p>\n<p>Bydd digwyddiadau eraill hefyd. Bydd ras yr ieuenctid yn cychwyn 5 munud ar \u00f4l y brif ras am 12.05pm. Ond ar y nos Iau bydd rasys i ieuenctid yr ardal, lle disgwylir  i tua 150 gymryd rhan. Diolch unwaith eto am gefnogaeth Dr.Zigs i\u2019w cynnal.<\/p>\n<p>Ar ddiwedd y diwrnod cynhelir sgwrs gan Kenny Stuart (deilydd record y ras), John Wild un o\u2019i gyd-gystadleuwyr a rhedwr y ras sawl tro, a Steve Chilton yr awdur. Cynhelir y digwyddiad yn y Mynydd Gwefru a gobeithir y bydd yn hwyl ac ysbrydoliaeth. Bydd yn cychwyn am 3:30pm (am ddim, rhoddion i Rhodd Eryri).<\/p>\n<p>Gellir cofrestru am y brif ras rhwng 4pm ac 8.30pm ddydd Gwener 14eg o Orffennaf ac ar y Sadwrn y ras rhwng 8.30am a 11.30am.<\/p>\n<p>Mae disgwylgarwch mawr am ras 2017, gyda rhai o athletwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. Unwaith eto bydd timau rhyngwladol yn herio ei gilydd am 10 milltir galed i fyny ac i lawr yr hen fynydd: Cymru, Lloegr, Yr Alban, De a Gogledd Iwerddon a\u2019r Eidal.<\/p>\n<p>Ystyrir y ras hon yn un o\u2019r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynydd, ac mae\u2019n denu rhai o oreuon Ewrop. Mae wedi tyfu yn dros y pedwar degawd a aeth heibio, i fod yn rhywbeth i\u2019w gyflawni unwaith mewn oes i sawl un  &#8211; yn breuddwydio jest gwneud y ras. Mae sawl un yn meddwl am y peth ond ychydig sy\u2019n cyrraedd y nod.<\/p>\n<p>Yn dangos pa mor boblogaidd ydyw\u2019r ras, mae cyflymder y modd y llanwodd y rhestr rhedwyr. Agorwyd y drws cystadlu ar y cyntaf o Fawrth ac ymhen tridiau roedd  650 o\u2019r rhedwyr wedi talu am gystadlu a dim mwy o le i neb arall.<\/p>\n<p>Bydd rhai o redwyr Cymru gyda\u2019r balchaf o\u2019u crysau rhyngwladol. Yn nawfed y llynedd, bydd Russell Bentley yn gwisgo crys coch. Ac ar ei orau eleni mae Gareth Hughes &#8211; yn hanu o ardal y ras. Bu ef a Mathew Roberts ( un arall o d\u00eem Cymru) yn cynrychioli Prydain yn ddiweddar . Gobeithir y bydd y ddau yn gwneud eu h\u00f4l ar y ras y tro yma. A\u2019r rhedwr rhyngwladol Richard Roberts ydyw pedwerydd aelod y t\u00eem a\u2019r capten.<\/p>\n<p>Ond eto fyth yn 2017 hefyd y t\u00eem i\u2019w guro fydd t\u00eem Lloegr. Ni fydd Chris Smith enillydd 2016 yn cystadlu, ond gallai unrhyw un o d\u00eem Lloegr  fod yn enillwyr y ras : Chris Farrell, Chris Arthur, Tom Adams a Chris Holdsworth. Mae bob un yn goblyn o redwr. Ar \u00f4l bod yn ail llynedd tybed mai Chris Farrell fydd yn mynd a hi eleni.<\/p>\n<p>Yn y gorffennol disgleiriodd yr Eidal sawl gwaith. Ac y mae gefeillio hefo ras Trofeo Vanoni fis Hydref wedi cadarnhau perthynas gref rhwng yr Eidal a Chymru. Yn 2017 bydd Nadir Cavagna, Davide Magnini a Hannes Perkmann yn cynrychioli&#8217;r dynion tra bydd Arianna Oregon yr unig ferch o\u2019r Eidal.<\/p>\n<p>Mae De Iwerddon wedi cael cryn lwyddiant yn y ras dros y blynyddoedd. Ac eleni bydd James Kavan (8fed 2016) yn arwain y t\u00eem. Y tri arall fydd Brian Furey, Greg Byrne a Killian Mooney. Yn cynrychioli\u2019r Gogledd bydd David Hicks (yn yr 20 cyntaf yn 2016) William McKee, Gavin Mulholland a Timothy Johnston.<\/p>\n<p>Bydd rhai o safon hefyd yn rhedeg ar ran Yr Alban. Cafodd sawl un, dynion a merched eu gwobreuo yn y rasys diweddar. Yn arwain t\u00eem y dynion bydd James Espie (9fed yn 2016) gyda James Waldie, Robert Simpson a Douglas Tullie.\u00a0<\/p>\n<p>Mae merched Iwerddon wedi bod yn amlwg yn y ras yn ddiweddar. Ar \u00f4l i Sarah Mulligan ennill yn 2013, a Sarah McCormack yn 2014 a 2015, ac wedyn Sarah Mulligan eto yn 2016 mae\u2019r crys gwyrdd wedi ennill bedair blynedd yn olynol. Fodd bynnag, yn rhyfeddol, does yna ddim merch o Iwerddon yn cystadlu eleni. Mae hyn yn agor y drws i ferch o wlad arall. Efallai mai\u2019r ffefryn ydyw Heidi Dent o Loegr. Hi oedd yr ail yn 2016. Tybed mai hi felly fydd yn dilyn rhai fel Mary Wilkinson a Pippa Maddams. Gyda hi yn nh\u00eem merched Lloegr fydd Helen Glover, Sharon Taylor a Caitlin Rice<\/p>\n<p>Diane Wilson, Megan Wilson, Ciara Largy a Shileen O&#8217;Kane  fydd yn cynrychioli Gogledd Iwerddon a bydd Miranda Grant, Louise Mercer a Jill Stephen yn rhedeg dros yr Alban. Bydd Miranda Grant  sy\u2019n byw\u2019n lleol ac wedi gwneud yn dda eleni yn Eryri, hefyd yn gobeithio gwneud ei marc ar Ras yr Wyddfa.<\/p>\n<p>Mae t\u00eem merched Cymru i gyd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Yr ieuengaf yw Bronwen Jenkinson a fu\u2019n rhedeg i ieuenctid Prydain. Hefo hi bydd Andrea Rowlands and Sarah Ridgway, sydd \u00e2 thipyn o brofiad ar y mynyddoedd bellach. Sarah newydd redeg yn dda yn ddiweddar yn V3K. A\u2019r bedwaredd yn y t\u00eem fydd Sian Lloyd Williams o Borthmadog.<\/p>\n<p>Yn y ras agored bydd rhai o\u2019r hen lawiau Ian Holmes a Rob Hope yn bwrw iddi ymhlith y rhedwyr rhyngwladol gyda Gary Priestley a fu ar yn aml yn rhedeg i Loegr ond bellach eleni yn cynrychioli ei glwb Horwich.<\/p>\n<p>Mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, yn awyddus iawn i bwysleisio bod y ras yn fwy na jest ras. Hefo noddwyr blaenllaw, atyniadau niferus a g\u0175yl o ddigwyddiad, sydd i\u2019w gael yn Llanb\u00ear ganol Gorffennaf:<\/p>\n<p>\u201cMi ydan ni\u2019n falch o groesawu Jewson fel prif noddwr eleni ac mi ydan ni wedi cael cefnogaeth wych gan y cwmni. Mi ydan ni hefyd wrth ein boddau bod inov8 yn rhan o\u2019r gefnogaeth. Mi ydan ni hefyd yn ddiolchgar iawn i\u2019n holl noddwyr. Afraid dweud hefyd na fysan ni ddim yn medru cynnal y ras heb gannoedd o wirfoddolwyr helpu a stiwardio,gan ddod flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn i helpu\u2019r achos. Mi ydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld  Joan a Dennis Glass yn cychwyn y ras am hanner dydd. Maen nhw wedi gwneud cymaint dros y ras a thros redeg.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd y bwrlwm yn Llanberis yn arbennig iawn. Rhaid bod yno i\u2019w deimlo. Mae\u2019r ras yn golygu cymaint i\u2019r ardal. Mae yna falchder mawr o\u2019r ras a\u2019r darlun mae\u2019n ei roi o\u2019r pentref i filoedd o ymwelwyr sydd yma dros y cyfnod. I feddwl faint mae hi wedi tyfu o\u2019r dechrau digon tila yn 1976 &#8211; mae\u2019n anodd coelio.<\/p>\n<p>\u201cMi ddylai\u2019r rasio fod yn wych eto eleni hefo cymaint o rai da\u2019n rhedeg. O ran y cyfryngau bydd rhaglen o\u2019r uchafbwyntiau ar y dydd Sul canlynol ar S4C a bydd diwedd y ras yn cael ei ddangos ar Facebook Live.&#8221;<\/p>\n<p>Am wybodaeth bellach ewch i\u00a0www.snowdonrace.co.uk<\/p>\n<p>ENDS<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"648\" data-permalink=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-preview-2\/snowdon\/\" data-orig-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon.jpg\" data-orig-size=\"1000,737\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"snowdon\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon.jpg\" class=\"size-full wp-image-648\" src=\"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon.jpg\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"737\" srcset=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon.jpg 1000w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon-300x221.jpg 300w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon-768x566.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<p>2016 runner-up Chris Farrell from England on the early slopes of Snowdon \u00a9 Sport Pictures Cymru<\/p>\n<p>Press and media enquiries (including hi res image requests) should directed to Matt Ward on 07515 558670 or by emailing matt@runcomm.co.uk<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn Llanberis &#8211; a dim ond 10 diwrnod i fynd tan 42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson 2017 mae disgwyl garw am ddydd y ras. Dyma ras enwog a thros 600 o redwyr yn un o rasys mynydd anoddaf ym Mhrydain. Eleni mae yna brif noddwr newydd: Jewson, a chefnogaeth hefyd gan wneuthurwyr esgidiau mynydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":651,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-647","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/07\/snowdon-2017-1.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-ar","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/647","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=647"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/647\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/651"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=647"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=647"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=647"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}