{"id":605,"date":"2017-06-04T13:02:13","date_gmt":"2017-06-04T13:02:13","guid":{"rendered":"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=605"},"modified":"2017-06-04T13:17:55","modified_gmt":"2017-06-04T13:17:55","slug":"42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-preview","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/42nd-jewson-international-snowdon-race-2017-race-preview\/","title":{"rendered":"Cyflwyniad 42ain  Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson 2017"},"content":{"rendered":"<p>Yn sicr gyda noddwr newydd a thros 650 yn rhedeg bydd  42ain Jewson Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson, Llanberis \u00a0yn un o uchafbwyntiau chwaraeon Cymru eleni.<\/p>\n<p>Mae cryn ddisgwylgarwch am ras eleni. Eto fyth bydd rhai o redwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. Bydd y 10 milltir arw i fyny ac i lawr yr hen fynydd yn gweld cystadleuaeth frwd rhwng timau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, De a Gogledd Iwerddon a\u2019r Eidal.\u00a0<\/p>\n<p>Ystyrir hon gyda\u2019r fwyaf o rasys rhedeg mynydd, gan dynnu rhedwyr o wledydd ar draws Ewrop.  Ond dros y blynyddoedd daeth fwyfwy yn ras mae sawl rhedwr cyffredin wedi ei gosod ar ei restr i\u2019w gwneud unwaith mewn oes. Ond mae sawl un wedi meddwl am y peth, ond ychydig iawn sydd wedi cyrraedd y nod.<\/p>\n<p>Eto\u2019n dangos poblogrwydd y ras yn 2017, oedd gweld pa mor sydyn y llanwyd y 650 o lefydd rhedeg. Unwaith y daeth y cyfle i gystadlu  ar lein ar Fawrth y cyntaf, chymerodd hi fawr mwy na diwrnod nad oedd bob lle wedi ei gymryd.  O fewn dim yr oedd y trefnydd Stephen Edwards yn medru anghofio am y rhan yna o\u2019i orchwyl a mynd ati i ymorol am y trefniadau eraill.<\/p>\n<p>Mae Stephen bob amser yn awyddus i bawb sylweddoli bod mwy na jest ras yma. Gyda noddwyr hael ac atyniadau amrywiol mae yma hefyd ysbryd g\u0175yl sy\u2019n llenwi Llanberis pob trydydd penwythnos  ym mis Gorffennaf:<\/p>\n<p>\u201cBydd ras 2017 gyda\u2019r gorau erioed! Mae gynnon ni brif noddwr newydd eleni \u2013 Jewson. Gwelodd y cwmni fod yma gyfle da i noddi ras o bwys lleol a rhyngwladol a chael ar yr un pryd gyfle arbennig i gysylltu \u00e2\u2019r gymuned leol.\u00a0<\/p>\n<p>&#8220;Mae yna ffasiwn gyffro yn Llanb\u00ear pan mae dydd y ras yn agosau. Rhaid bod  no i\u2019w synhwyro. Mae\u2019r ras yn golygu cymaint i bobl y pentref a\u2019r ardal. Mae nhw\u2019n falch iawn o\u2019r digwyddiad a\u2019r modd y mae\u2019r digwyddiad yn dod \u00e2\u2019r ardal i olwg cymaint o ymwelwyr o bob than o\u2019r byd. Mae\u2019n anhygoel meddwl faint mae\u2019r ras wedi tyfu a ffynnu o\u2019i chychwyn digon syml bell bell yn \u00f4l yn 1976.&#8221;<\/p>\n<p>Meddai Charlotte Bird ar ran Jewson:\u00a0<\/p>\n<p>\u201cMi ydym bob amser yn meddwl am ffyrdd i helpu\u2019r gymuned yr ydan ni ynddi hi. Yma yn y Gogledd mae gynnon ni\u2019r Wyddfa \u2013 mynydd arbennig iawn ar ein stepan drws. Mae\u2019n rhan o\u2019r cefndir bob amser i\u2019n safleoedd ac i\u2019n cerbydau nwyddau wrth iddyn nhw fynd ati i wneud eu gwaith. A hithau\u2019n tynnu rhedwyr o bedwar ban byd, dyma gyfle neilltuol i ni gael estyn help i\u2019r ras arbennig hon a dymuno pob llwyddiant a llewyrch iddi hi.<\/p>\n<p>Meddai Stephen Edwards hefyd:<\/p>\n<p>\u201cNoddwr arall yn 2017 ydyw inov-8. Dyma\u2019r cwmni esgidiau rhedeg mynydd gyda\u2019r blaenaf yn y byd. Felly dyma dewis cwbl briodol i Ras yr Wyddfa. Bydd  inov-8 yn bresennol ar ddiwrnod y ras ac fel noddwyr y crysau t yn ogystal ag yn rhoi gwobreuon i\u2019r enillwyr. Un o\u2019r rhai sydd wedi hwyluso\u2019r cyswllt hwn yw Pete Bland Sports, un arall o\u2019n noddwyr tymor hir. Bydd y cwmni hwn hefyd yn amlwg ar ddiwrnod y ras.<\/p>\n<p>\u201cNewid arall eleni ydyw y bydd y brif ras yn cychwyn ddwyawr ynghynt am hanner dydd. Mae\u2019r newid wedi cael croeso gan redwyr a mudiadau lleol. Bydd ras yr ieuenctid yn cychwyn yn fuan wedyn am 12.05pm. Bydd yn cael ei noddi gan yr arbennigwr swigod Dr. Zigs, ac mewn partneriaeth \u00e2 \u201cChwaraeon am Oes\u201d Cyngor Gwynedd Council. Bydd rasys plant \u201cHwyl i Bawb\u201d yn y bore am 10.30am.<\/p>\n<p>&#8220;Dylai\u2019r rhedeg fod yn arbennig, gyda chymaint o rai da yn cymryd rhan. Bydd uchafbwyntiau\u2019r ras ar y teledu, ar  S4C ar y Sul canlynol am 6pm, a bydd diwedd y ras yn cael ei ddangos ar Facebook Live.\u00a0<br \/>\nFel mudiad gwirfoddol, mi ydym wrthi am oriau lawer yn trefnu y cwbl. Mae cymaint o fusnesion lleol yn cyfrannu at yr achlysur a miloedd yn dod i gefnogi. Mae pawb sy\u2019n cyfranogi\u2019n elwa\u2019n fawr o\u2019r digwyddiad.<\/p>\n<p>\u201cOnd heb nawdd o sawl cyfeiriad, fyddai\u2019r ras ddim yn cael ei chynnal. Diolch  felly i Clif Bar, Rheilffordd yr Wyddfa, First Hydro, Gwesty\u2019r Victoria , S4C,, Parc Cenedlaethol Eryri, Athletau Cymru, Ffrwythau DJ, Sports Pictures Cymru a phawb sydd ar y pwyllgor a chymuned Llanberis. A dyna sy\u2019n gwneud yr holl beth mor hynod \u2013 digwyddiad rhyngwladol ond un sydd \u00e2\u2019i wreiddiau\u2019n ddwfn yn gymdeithas leol. Hir y parhao!&#8221;<br \/>\nHefyd yr haf yma bydd  Ras Gwylnos yr Wyddfa inov-8,  sydd eto\u2019n cael ei threfnu gan yr un t\u00eem \u00e2 Ras yr Wyddfa. Cynhelir y ras hon, i fyny\u2019n unig, ar ddydd Gwener Mehefin 9. Bydd disgwyl tua 150 rhedwr. Bydd yn cychwyn am 7pm. Gellir cofrestru i gystadlu ar wefan Ras yr Wyddfa.<\/p>\n<p>DIWEDD<\/p>\n<p>Ymholiadau y wasg a\u2019r cyfryngau (gan gynnwys lluniau manylder uwch) at Matt Ward ar 07515 558670 neu ebost\u00a0matt@runcomm.co.uk<\/p>\n<p>Matt Ward<br \/>\nPR, Ras Ryngwladol yr Wyddfa \/ International Snowdon Race<br \/>\n+44(0)7515 558670<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn sicr gyda noddwr newydd a thros 650 yn rhedeg bydd 42ain Jewson Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson, Llanberis \u00a0yn un o uchafbwyntiau chwaraeon Cymru eleni. Mae cryn ddisgwylgarwch am ras eleni. Eto fyth bydd rhai o redwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. Bydd y 10 milltir arw i fyny ac i lawr yr hen [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":609,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-605","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/06\/image1.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-9L","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/605","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=605"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/605\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/609"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=605"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=605"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=605"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}