{"id":535,"date":"2016-07-13T22:45:31","date_gmt":"2016-07-13T22:45:31","guid":{"rendered":"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=535"},"modified":"2016-07-13T22:47:24","modified_gmt":"2016-07-13T22:47:24","slug":"41st-elim-peugeot-international-snowdon-race-2016-race-preview","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/41st-elim-peugeot-international-snowdon-race-2016-race-preview\/","title":{"rendered":"Cefndir i Ras Wyddfa (41) Elim Peugeot 2016"},"content":{"rendered":"<p>Llanberis, &#8211; Eleni mae noddwr newydd i\u2019 Ras Ryngwladol yr Wyddfa 41 Elim Peugeot a chyda 650 o redwyr mae\u2019r digwyddiad yn si\u0175r o fod yn un o uchafbwyntiau byd chwaraeon Cymru.. Y llynedd mi oedd yna sbloet o ddathlu&#8217;r deugeinfed ras gyda chyn-enillwyr ac yn cychwyn o\u2019r Stryd Fawr. Eleni bydd y ras yn cychwyn yn y lle arferol ym Mharc Padarn ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 16.<\/p>\n<p>Mae edrych ymlaen mawr am y ras eleni. Mae rhai o redwyr gorau Prydain yn cystadlu.. Mae timau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a\u2019r Eidal. Unwaith eto bydd y rhain yn gwthio i\u2019r eithaf am y 10 milltir i fyny ac i lawr yr hen fynydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ras yn cael ei hystyried yn un o\u2019r rhai mwyaf o ran rhedeg mynydd ac yn denu cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop. Ond dros amser tyfodd y digwyddiad. Daeth yn ddigwyddiad y mae sawl un wedi ei osod fel rhywbeth y byddent yn rhoi ar restr o bethau i\u2019w cyflawni unwaith yn eu hoes.<\/p>\n<p>Cyn y ras eleni hefyd bydd Cwpan yr Wyddfa\u00a0&#8211; ras i fyny\u2019n unig (drwy wahoddiad yn unig). Bydd yn dechrau am 10.30am ar ddiwrnod y ras, gyda rhedwyr arbennig iawn yn cystadlu..<\/p>\n<p>Mae\u2019n amlwg bod hon yn ras fawr yn boblogaidd iawn. Dridiau yn unig ar \u00f4l Mawrth 1, pan oedd cyfle i wneud cais am redeg, mi oedd y 650 lle wedi eu cymryd. Wedyn gallai\u2019r trefnydd Stephen Edwards fwrw iddi gyda\u2019r paratoadau. Meddai:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Fel bob tro mi oedd digonedd eisio cystadlu. A byth ers yr amser cau mi ydw i wedi cael sawl un yn gofyn am le i redeg er bod y ras yn llawn. Ychydig feddyliwyd yn 1976 pan gynhaliwyd y ras gynta\u2019, faint o ddigwyddiad fyddai erbyn heddiw. Mae\u2019r Wyddfa bellach yn un o\u2019r mynyddoedd mwya\u2019 poblogaidd ym Mhrydain a dyna ydy peth o\u2019r atyniad i rai rhedwyr &#8211; cael y teimlad fod yna wylwyr a chefnogwyr ar hyd y llwybr i\u2019r top ac i lawr wedyn..<\/p>\n<p>\u201cDylai fod yn ras wych eto gyda chystadleuwyr brwd iawn. Bydd y ras ar S4C ar y Sul ac ar ddiwrnod y ras ar \u00f4l 6 y noson honno bydd diwedd y ras ar Facebook Live.\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae cystadleuaeth y dynion yn gwbl agored eto eleni.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill dair gwaith yn 2002, 2003 a 2005 bydd Tim Davies yn cystadlu eleni, ar flaen t\u00eem Cymru cryf. Hefo fo bydd Matthew Roberts, Russell Bentley a\u2019r rhedwr lleol Gareth Hughes.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l brwydr neilltuol y llynedd bydd y trydydd y pryd hwnnw, Ben Mounsey o Loegr yn \u00f4l i weld all o ennill yn 2016. Mae gan Loegr d\u00eem da iawn gyda Ben Mounsey bydd Chris Smith, Rob Hope a Chris Farrell.<\/p>\n<p>Yn dilyn buddugoliaeth Emanuele Manzi llynedd bydd gan yr Eidal dri rhedwr newydd Marco Leoni, Luca Cognate a Gianpietro Bott\u00e0. Bydd Nicola Pedergnana yn cystadlu yn ras y merched.<\/p>\n<p>Mae Iwerddon wedi gadael ei h\u00f4l sawl gwaith ar y ras. Eleni bydd Brian MacMahon hen law ar y ras, yn arwain gyda James Kevan, Brian Furey, Andrew Annett yn gwneud y t\u00eem o bedwar, T\u00eem Gogledd Iwerddon ydyw William McKee, Shane Donnelly, David Hicks a Zak Hanna.<\/p>\n<p>Merched Iwerddon sydd wedi bod yn flaenaf yn y ras y tair blynedd ddiwethaf. Ar \u00f4l buddugoliaeth hanesyddol Sarah Mulligan yn 2013, wedyn Sarah Mc Cormack yn ennill yn 2014 a 2015. Ac mae Sarah sy\u2019n 29 oed, yn ei h\u00f4l eto eleni i geisio cael tair buddugoliaeth yn olynol. Hefyd yn nh\u00eem Iwerddon bydd Bethany Murray.<\/p>\n<p>Bydd t\u00eem Iwerddon yn cael eu herio gan Loegr, gyda Lindsey Brindle yr ail llynedd yn eu plith. Bydd Lou Roberts yn y t\u00eem. Hi oedd enillydd Ras y Gwyll eleni. Y drydedd yn y t\u00eem ydyw Heidi Dent.<\/p>\n<p>Mae t\u00eem merched Cymru yn un go newydd gyda Bronwen Jenkinson a Sian Williams yn ymuno \u00e2 Katie Beecher, y bumed yn ras y llynedd. T\u00eem Gogledd Iwerddon ydyw Shileen O\u2019Kane, Hazel McLaughlin a Paulette Thompson..<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd nid oes sicrwydd pwy fydd yn cynrychioli&#8217;r Alban.<\/p>\n<p>Fel y soniwyd bydd rhai rhedwyr neilltuol iawn yn cystadlu am Gwpan yr Wyddfa yn y bore. Bydd enillydd y llynedd Max Nicholls yn dychwelyd a bydd eraill yno yn defnyddio\u2019r ras fel hyfforddiant ar gyfer Treialon Rasys Mynydd Prydain cyn Pencampwriaeth Rasio Mynydd y Byd yn yr Eidal fis Awst. Bydd trydydd yn ras y llynedd yno Martin Cox a hefyd rhedwyr rhyngwladol Prydain Tom Adams a Jacob Adkin.<\/p>\n<p>Mae pencampwraig Rhedeg Pellter ar Fynydd y Byd Annie Conway yn debygol o fod yn cystadlu yng Nghwpan yr Wyddfa. Bydd y ordyrrog hon o\u2019r Hen Ogledd yn defnyddio\u2019r ras fel modd i baratoi ar gyfer Treialon y Byd ddiwedd mis Gorffennaf..<\/p>\n<p>Mae Stephen Edwards yn awyddus iawn i atgoffa pawb fod y ras yn fwy na jest ras, byd yr achlysur yn ddigwyddiad o bwys, gyda noddwyr atyniadau ac awyrgylch g\u0175yl pob mis Gorffennaf yn Llanberis.:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Corff gwirfoddol sy\u2019n trefnu pob dim, ac mae oriau ac oriau o waith paratoi i\u2019r digwyddiad. Mae sawl busnes lleol yn ymwneud \u00e2\u2019r achlysur a bydd miloedd yn dod draw i weld y ras. Eleni bydd rasys \u2018Hwyl i Bawb\u2019 i\u2019r plant bach am 11 o\u2019r gloch fore\u2019r ras a bydd y rasys plant yn cychwyn ar \u00f4l y ras fawr am 2 o\u2019r gloch y pnawn.<\/p>\n<p>&#8220;Mae cyffro yn Llanb\u00ear wrth i ddydd y ras agos\u00e1u. Mae\u2019r ras yn golygu cymaint i\u2019r pentref a\u2019r ardal. Mae pawb mor falch o\u2019r ras a\u2019r awyrgylch y bydd yr ymwelwyr yn si\u0175r o fod yn ei deimlo. Mae\u2019n anhygoel fel mae&#8217;r holl beth wedi tyfu dros y deugain mynydd er 1976.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae Stephen hefyd yn falch iawn o groesawu&#8217;r noddwyr newydd Elim Peugeot. Cyn hynny cefnogwyd y ras am 3 blynedd gan Tyn Lon Volvo.<\/p>\n<p>Meddai Colin Smart o Elim Peugeot Llangefni:<\/p>\n<blockquote><p>&#8221; Mae Elim Peugeot yn werthwyr ceir lleol adnabyddus. Mi ydym yn falch o noddi digwyddiadau yn yr ardal. Yr ydym wedi bod wrthi bellach ers 50 mlynedd ac wedi cychwyn yn wreiddiol yn Llanrug prin dair milltir i ffwrdd. Braf ydyw cael gweld ein henw fel prif noddwr yn un o gystadlaethau rhedeg mynydd mawr y byd &#8211; un o rasys anoddaf Ewrop gyda rhedwr o safon ryngwladol.<\/p>\n<p>&#8220;Bu Elim Peugeot yn gweithio\u2019n glos gyda\u2019r pwyllgor i wneud yr hyn oedd eisio i noddwr ei wneud. Mi ydym yn noddi sawl digwyddiad arall elusennol ar draws Cymru drwy\u2019r flwyddyn.<\/p>\n<p>&#8220;Mi ydym yn dra diolchgar i bawb sydd wedi ymwneud a chodi arian i\u2019r fath achlysuron dros y flwyddyn ac yn edrych ymlaen i helpu\u2019r digwyddiad gryfhau o nerth i nerth. Dewch draw atom ar y diwrnod i gael golwg ar yr hyn sydd gennym i\u2019w gynnig. A phob lwc i bawb sy\u2019n rhedeg..\u201d<\/p><\/blockquote>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llanberis, &#8211; Eleni mae noddwr newydd i\u2019 Ras Ryngwladol yr Wyddfa 41 Elim Peugeot a chyda 650 o redwyr mae\u2019r digwyddiad yn si\u0175r o fod yn un o uchafbwyntiau byd chwaraeon Cymru.. Y llynedd mi oedd yna sbloet o ddathlu&#8217;r deugeinfed ras gyda chyn-enillwyr ac yn cychwyn o\u2019r Stryd Fawr. Eleni bydd y ras yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":537,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-535","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/07\/Snowdon-Race-2016.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-8D","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/535","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=535"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/535\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/537"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=535"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=535"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=535"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}