{"id":1282,"date":"2022-07-18T13:30:24","date_gmt":"2022-07-18T13:30:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=1282"},"modified":"2022-07-29T12:50:25","modified_gmt":"2022-07-29T12:50:25","slug":"45th-castell-howell-international-snowdon-race-2022-race-report","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/45th-castell-howell-international-snowdon-race-2022-race-report\/","title":{"rendered":"(English) 45th Castell Howell International Snowdon Race 2022 \u2013 Race Report"},"content":{"rendered":"<p><strong><u>45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022 \u2013 Adroddiad y Ras<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Llwyddodd Ross Gollan a Hannah Russell i gyrraedd yr uchelfannau yn yr Wyddfa 2022<\/p>\n<p>Llanberis, Cymru \u2013 Ross Gollan o\u2019r Alban a Hannah Russell o Loegr gipiodd yr anrhydeddau uchaf mewn amgylchiadau poeth iawn yn y 45ain rhediad o Ras yr Wyddfa Ryngwladol Castell Howell ddydd Sadwrn, Gorffennaf 16.<\/p>\n<p>Unwaith eto cafwyd drama ar gopa uchaf Cymru, wrth i dros 400 o redwyr o bob rhan o\u2019r byd fynd i\u2019r frwydro \u00e2 llethrau serth y ras fynydd eiconig hon, y gellir ei holrhain yn \u00f4l i 1976 pan redodd gr\u0175p bach o gystadleuwyr o ganol y pentref i\u2019r Copa 1085 metr ac yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Roedd yna deimlad emosiynol i&#8217;r rhedwyr wrth i dad y diweddar Chris Smith, enillydd y ras yn 2016, gychwyn y ras ynghyd \u00e2&#8217;r meddyg rasio sydd bellach wedi ymddeol, Dr Robin Parry.<\/p>\n<p>Gydag awyr glir a thymheredd yng nghanol yr dau-ddegau, roedd yr amodau&#8217;n boeth i&#8217;r rhedwyr wneud eu ffordd allan o bentref Llanberis wrth iddynt gychwyn ar y ras 10 milltir heriol ar yr amser cychwyn traddodiadol o 2.00pm.<\/p>\n<p>Fel sy\u2019n arferol cafwyd dechrau cyflym i\u2019r ras, gydag athletwyr rhyngwladol o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a\u2019r Eidal yn rhwbio ysgwyddau gyda rhedwyr clwb o bob rhan o Brydain, ac un o\u2019r rhedwyr clwb hynny oedd Nathan Edmondson a oedd yn y amrywiaeth wrth i&#8217;r rhedwyr wneud eu ffordd i&#8217;r mynydd.<\/p>\n<p>Roedd yr Ilkley Harrier wedi\u2019i gofrestru yn y Ras Agored ond roedd yn dangos y math o safon sydd ei angen i ennill fest ryngwladol wrth iddo fynd heibio hanner ffordd gyda Luca Merli o\u2019r Eidal, gyda\u2019r ddau ychydig bach o flaen yr Albanwr Ross Gollan.<\/p>\n<p>Yn ras y merched roedd ffefryn cyn y ras a\u2019r enillydd dair gwaith, Sarah McCormack, heb fod yn dda ac wedi tynnu allan o\u2019r ras gydag ond awr cyn cychwyn y ras. Felly byddai\u2019r ras bellach yn llawer mwy agored gydag athletwyr o Loegr, yr Alban a\u2019r Eidal gyda siawns o gipio coron yr Wyddfa.<\/p>\n<p>Wrth i\u2019r merched wneud eu ffordd ar ddringfa dechnegol gyntaf y ras, roedd Kirsty Dickson o\u2019r Alban yn dringo\u2019n wych ochr yn ochr \u00e2 Sara Willhoit o Loegr ac Alice Gaggi o\u2019r Eidal, gyda\u2019r Saesnes Hannah Russell a Holly Page o\u2019r Alban yn agos.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r ddwy ras bellach wedi setlo i batrwm a\u2019r ras yn mynd heibio i gerrig milltir eiconig Allt Moses, Clogwyn a Bwlch Glas, fe ddechreuodd Nathan Edmondson afael ynddi yn ras y dynion w wrth\u00a0 rasio i\u2019r copa, gan gyrraedd y brig o 3560 troedfedd gyntaf yn 40:42, gyda 30 eiliad ar y blaen ar Ross Gollan yr Alban.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser yn ras y merched roedd brwydr fawr yn dod i\u2019r amlwg wrth i Sara Willhoit, enillydd diweddar Snowdon Twilight, ddod i\u2019r brig mewn 51:17, o flaen Kirsty Dickson a Holly Page, gyda Hannah Russell tua munud ar y blaen ar hyn o bryd.Roedd pob llygad yn rasys y dynion a\u2019r merched bellach yn canolbwyntio ar waelod y mynydd wrth i dyrfa fawr Llanberis aros i\u2019r pencampwyr ddychwelyd, ac un peth oedd yn sicr, roedden ni i gael enillwyr newydd ras 2022.Erbyn hyn roedd Ross Gollan yn symud ac wrth i\u2019r dynion gyrraedd Clogwyn ar fynd i lawr roedd yr Albanwr yn brasgamu ac yn agos\u00e1u at Nathan Edmondson, gyda Luca Merli yn drydydd. Wrth iddyn nhw gyrraedd Hanner Ffordd roedd Ross Gollan bellach 20 eiliad ar y blaen ac yn edrych yn gryf, dim ond angen ei dal gafael yn y cwpl o filltiroedd ddiwethaf i ddilyn yn \u00f4l troed mawrion rhedeg mynyddoedd yr Alban fel Colin Donnelly, Murray Strain ac Andy Douglas. sydd wedi ennill y ras hon.Wrth iddo wibio i\u2019r filltir olaf dechreuodd Gollan sylweddoli beth oedd ar fin ei gyflawni a chipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa. Ei amser wrth iddo groesi\u2019r llinell oedd 1:09:22, nid un o\u2019r amseroedd buddugol cyflymaf erioed yn y ras hon, ond yn sicr yn arwydd o ba mor galed oedd amodau\u2019r ras yn y gwres.Y tu \u00f4l iddo Luca Merli o\u2019r Eidal (1:10:05)\u00a0 a ddaeth yn gryf am ail, hefo\u00a0 Nathan Edmondson yn y diwedd yn cipio trydydd gwych mewn 1:10:20. Michael Cayton (1:11:27) yn 4ydd a\u2019r Sais Ben Rothery (1:11:50) yn 5ed oedd yn y 5 uchaf.Yn ras t\u00eem y dynion roedd buddugoliaeth glir i Loegr gyda Ben Rothery, Mark Lamb (6ed) a Finlay Grant (8fed) i gyd yn pacio\u2019n dda.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, yn ras y merched roedd Sara Willhoit yn mynd i lawr yn gryf, cymaint fel ei bod hi erbyn gorsaf Clogwyn wedi ennill dros funud a hanner ar y gweddill. Fodd bynnag, Hannah Russell oedd ar ei h\u00f4l hi. Cynefin y Saesnes yw&#8217;r llethrau serth yn Ardal y Llynnoedd a dangosodd y sgiliau mynd i lawr sydd eu hangen wrth ddal ar Sara Willhoit dros y filltir wedyn, cymaint felly erbyn iddynt gyrraedd gi\u00e2t olaf y mynydd ar y darn i lawr roedd hi wedi troi&#8217;r mynd o 1:33 ar \u00f4l i 8 eiliad ar y blaen \u2013 gyda Sara Willhoit yn ddiweddarach yn disgrifio cael ei phasio gan Hannah Russell fel \u201canhygoel i\u2019w wylio!\u201d.<\/p>\n<p>Roedd\u00a0 Holly Page yn mynd fel fflamiau i gael y drydedd safle wrth iddyn nhw i gyd wneud eu ffordd yn \u00f4l i mewn i Lanberis a\u2019r llinell derfyn enwog hon.Wrth groesi&#8217;r llinell i gipio teitl yr Wyddfa 2022 mewn amser gwych o 1:18:49, roedd Hannah Russell o Loegr yn orfoleddus, ond\u00a0 wedi yml\u00e2dd ar \u00f4l yr ymdrech i ddal Sara Willhoit \u2013 dim ond 23 eiliad oedd rhyngddynt.<\/p>\n<p>Cyrhaeddodd\u00a0 Holly Page y podiwm am ei hamser arbennig o 1:19:28 hynod gydag Alice Gaggi yn 4ydd (1:20:59) a Sharon Taylor o Loegr yn cymryd 5ed ardderchog mewn 1:24:37.Lloegr, gyda Hanna Russell, Sara Willhoit a Sharon Taylor, gipiodd wobr t\u00eem y merched yn hawdd.<\/p>\n<p>Roedd y diwrnod hefyd wedi gweld dros 100 o redwyr iau yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o rasys ar gyfer athletwyr dan 10 i dan 18 oed. Mae rhai o enillwyr y brif ras yn y dyfodol wedi dod o\u2019r rasys hyn. Gweinyddwyd y digwyddiad yn wych gan d\u00eem Byw\u2019n Iach Cyngor Gwynedd.<\/p>\n<p><strong>45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022 &#8211; Canlyniadau5 Gorau Dynion<\/strong><\/p>\n<p>1. Ross Gollan (Yr Alban) 1:09:21<\/p>\n<p>2. Luca Merli (Yr Eidal) 1:10:04<\/p>\n<p>3. Nathan Edmondson (Ilkley Harriers) 1:10:19<\/p>\n<p>4. Michael Cayton (Salford Harriers) 1:11:26<\/p>\n<p>5. Ben Rothery (Lloegr) 1:11:49<\/p>\n<p>T\u00eem: Lloegr\u00a05 Gorau<\/p>\n<p>Merched<\/p>\n<p>1. Hannah Russell (Lloegr) 1:18.48<\/p>\n<p>2. Sara Willhoit (Lloegr) 1:19:12<\/p>\n<p>3. Holly Page (Yr Alban) 1:19:27<\/p>\n<p>4. Alice Gaggi (Yr Eidal) 1:20:58<\/p>\n<p>5. Sharon Taylor (Lloegr) 1:24:36<\/p>\n<p>T\u00eem: Lloegr<\/p>\n<p>POB LLUN\u00a0 \u00a9Sport Pictures Cymru<\/p>\n<p>Canlyniadau llawn trwy <a href=\"https:\/\/my.raceresult.com\/211870\/results\"><strong>https:\/\/my.raceresult.com\/211870\/results<\/strong><\/a><\/p>\n<p>DIWEDD<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022 \u2013 Adroddiad y Ras Llwyddodd Ross Gollan a Hannah Russell i gyrraedd yr uchelfannau yn yr Wyddfa 2022 Llanberis, Cymru \u2013 Ross Gollan o\u2019r Alban a Hannah Russell o Loegr gipiodd yr anrhydeddau uchaf mewn amgylchiadau poeth iawn yn y 45ain rhediad o Ras yr Wyddfa Ryngwladol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1283,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1282","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/07\/293047886_581725803567710_302674626369619061_n.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-kG","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1282"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1282\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1283"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}