{"id":1272,"date":"2022-07-07T20:30:23","date_gmt":"2022-07-07T20:30:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=1272"},"modified":"2022-07-07T20:30:23","modified_gmt":"2022-07-07T20:30:23","slug":"race-preview-45th-castell-howell-international-snowdon-race-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/race-preview-45th-castell-howell-international-snowdon-race-2022\/","title":{"rendered":"Rhagolwg o\u2019r Ras &#8211; 45ain Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell 2022"},"content":{"rendered":"<p>Llanberis &#8211; Ar \u00f4l seibiant o 3 blynedd oherwydd y pandemig bydd 600 o redwyr yn gwneud eu ffordd i lethrau copa uchaf Cymru ddydd Sadwrn 16eg Gorffennaf ar gyfer 45ain Ras Ryngwladol\u00a0 yr Wyddfa Castell Howell.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhagolygon ar gyfer digwyddiad eleni yn uchel unwaith eto, gyda rhai o athletwyr gorau\u2019r Prydain ac Iwerddon yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon. Gallwn hefyd ddisgwyl blas rhyngwladol am y penwythnos gan y gallai rhedwyr o\u2019r Eidal unwaith eto ennill y ras. Bydd y rhedwyr rhyngwladol a rhedwyr clwb a di-glwb yn mynd benben i gwblhau\u2019r 10 milltir llafurus o\u2019r mynydd enwocaf yn Eryri a Chymru.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l tair blynedd hir heb fod ar y teledu\u2019n flynyddol bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu unwaith eto, gyda rhaglen uchafbwyntiau a gynhyrchir gan Cwmni Da yn mynd allan ar S4C nos Sul 24ain Gorffennaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ras yn cael ei hystyried yn un o\u2019r goreuon yn y byd rhedeg mynydd, yn denu rhai o\u2019r raswyr gorau yn Ewrop ac wedi tyfu dros y pedwar degawd diwethaf i fod yn un ar y rhestr bwced \u00a0rhedwyr o bob man. Mae cwblhau&#8217;r ras o Lanberis i gopa&#8217;r Wyddfa ac yn \u00f4l yn rhywbeth y mae miloedd yn dyheu amdano, ond dim ond cannoedd yn ei gyflawni.<\/p>\n<p><strong>Rhagolwg Ras y Dynion<\/strong><\/p>\n<p>Fel arfer bydd timau Cymru yn gobeithio perfformio&#8217;n dda gartref. Mae Matthew Roberts, rhedwr rhyngwladol profiadol, yn arwain y ffordd dros Gymru, ar \u00f4l rhedeg yn y ras enwog hon ar sawl achlysur yn y fest goch. Yn ymuno ag ef bydd Gavin Roberts a Ben Mitchell, gyda Rhedwr Clwb Eryri \u00a0ifanc, Tom Wood, yn cwblhau&#8217;r pedwarawd.<\/p>\n<p>Bydd t\u00eem Lloegr mor gryf ag erioed ac fe fyddan nhw\u2019n edrych i ennill fel unigolion yn ogystal ag fel t\u00eem. Rhedodd Joe Baxter (8fed) a Dan Haworth (13eg) yn fest Lloegr yn 2019 gan ddychwelyd unwaith eto eleni. Matthew Elkington a Finlay Grant sy\u2019n cwblhau lein-yp Lloegr, gyda Finlay Grant un i\u2019w wylio &#8211; yn ffres a newydd gael medal efydd ym mhencampwriaethau Ewrop yn y ras dan 20.<\/p>\n<p>Mae gan yr Eidal hanes cryf o lwyddiant yn y digwyddiad. Cawsant dair buddugoliaeth yn y bedair blwyddyn ddiwethaf y ras gyda Davide Magnini (2017) ac Alberto Vender (2018) [un fuddugoliaeth yn brin]. Eleni mae Luca Merli a Lorenzo Rota Martir yn teithio i Gymru i weld a allant ychwanegu eu henwau at restr o enillwyr enwog y ras arbennig hon.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Alban yn wlad arall sydd wedi cael blas ar lwyddiant ar yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf gydag Andrew Douglas yn fuddugol yn 2019. Ni fydd Douglas yn rhan o d\u00eem yr Alban eleni, ond mae John Yells, (un o selogion y ras) yn y t\u00eem ac mae wedi bod yn rhedeg yn dda eleni. Gydag ef yn nh\u00eem yr Alban bydd Alexander Cheplin, Ross Gollan a James Taylor yn cwblhau\u2019r pedwarawd.<\/p>\n<p>Mae gan Iwerddon hanes cyfoethog o lwyddiant yn y digwyddiad, gyda Zak Hanna yn dod yn 4ydd yn 2019. Eleni bydd James Kevan yn dychwelyd i\u2019r Wyddfa ynghyd \u00e2 Luke McMullan, Aaron Mc Grady, Leo Mahon.<\/p>\n<p>Yn cwblhau\u2019r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gydag Adam Cunningham, Jonny Scott, Andrew Tees a John Marrs.\u00a0I ffwrdd o ochr el\u00eet y ras, bydd un rhedwr yn creu hanes unwaith eto yn 2022. Rhedodd Malcolm Jones o Dremadog yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny, camp anhygoel. Felly, bydd Malcolm yn rhedeg ei 45fed Ras yr Wyddfa eleni ac yn gwneud hanes fel yr unig berson sydd wedi cystadlu ym mhob digwyddiad yn y 47 mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p><strong>Rhagolwg y Merched<\/strong><\/p>\n<p>Mae ras y merched ar yr Wyddfa 2022 yn argoeli\u2019n dda unwaith eto gan y gallai pob llygad fod ar y cyn-enillydd tair gwaith Sarah McCormack o Weriniaeth Iwerddon a\u2019i brwydr gyda rhai o dalentau ifanc gorau Ewrop ar hyn o bryd. Enillodd Sarah y ras yn 2019 ac mae\u2019n dychwelyd i\u2019r Wyddfa yn ffres o gystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop y penwythnos cynt lle gorffennodd yn y 13eg safle. Gyda hi mae Roisin Howley ac Alison Armstrong yn ffurfio t\u00eem merched Iwerddon.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael 3ydd safle gwych ym mhencampwriaethau Ewrop, mae\u2019r Scout Adkin yn dychwelyd i\u2019r mynydd a\u2019i gwelodd yn gorffen yn 6ed yn 2019. Fodd bynnag, mae\u2019r Albanwraig ifanc wedi bod ar ei gorau yn 2022 ac mae\u2019n si\u0175r ei bod ymhlith y ffefrynnau i fynd \u00e2\u2019r teitl yn \u00f4l i\u2019r Alban. Mae rhedwraig t\u00eem Prydain y penwythnos diwethaf, Holly Page, hefyd yn rhedeg ynghyd \u00e2 Kirsty Dickson a Catriona MacDonald, sy\u2019n golygu y bydd merched yr Albanwyr hefyd yn gryf iawn yn y ras t\u00eem.<\/p>\n<p>Mae Alice Gaggi o\u2019r Eidal ar hyn o bryd yn drydydd yn safleoedd y byd a chymerodd ran hefyd yn yr Ewros y penwythnos diwethaf, gan orffen yn 6ed. Yn ymuno \u00e2 hi mae Lorenza Beccaria yn y lliwiau enwog Azzuri.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru d\u00eem cryf unwaith eto gydag Elliw Haf yn rhedeg yn dda yn lliwiau Cymru eto ar \u00f4l gorffen yn y 10fed safle yn 2018 a&#8217;r 16eg yn 2019. Yn ymuno ag Elliw mae cyd-aelod o d\u00eem Eryri Lizzie Richardson, Joanne Henderson o Cybi a Rhian Probert o&#8217;r Mynydd Du.<\/p>\n<p>Does dim dwywaith y bydd t\u00eem merched Lloegr yn herio unwaith eto ar gyfer safle uchaf y podiwm. Rhedodd Hannah Russell a Sharon Taylor yn dda mewn rasys yn La Palma yn lliwiau Prydain y penwythnos diwethaf ac ymunwyd \u00e2 nhw gan enillydd y ras y cyfnod y mis diethaf, Sara Willhoit, gan wneud triawd cryf iawn o ferched Lloegr mewn ras lle maent wedi cael blas ar lwyddiant dros y blynyddoedd.<\/p>\n<p>Bydd Martsje Hell, Esther Dickson, Elizabeth Wheeler a Karalee McBridewill yn cynrychioli Gogledd Iwerddon.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l seibiant o dair blynedd oherwydd pandemig Coronafeirws mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, wrth ei fodd ac yn edrych ymlaen at gynnal y ras unwaith eto yn 2022.<\/p>\n<p><em>\u201cMae wedi bod yn dair blynedd anodd ers ein ras ddiwethaf yn 2019. Nid oes angen i mi atgoffa unrhyw un o\u2019r hyn sydd wedi digwydd dros y cyfnod hwnnw, fodd bynnag dyma felly ail-afael yn y cyffro o weld y rhedwyr yn camu i\u2019r mynydd eto eleni. Mae gennym ni\u2019r prif noddwr Castell Howell eto ac mae holl gymuned Llanberis wedi bod mor gefnogol yn ein hamcanion i sicrhau bod y ras yn parhau \u00e2\u2019i hanes cyfoethog.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Nodweddion eraill y dydd fydd y rasys iau traddodiadol sy\u2019n dechrau ddeg munud ar \u00f4l y brif ras am 2.10pm ar y dydd Sadwrn am 10-18 mlynedd, lle bydd chwaraewr rhyngwladol iau Cymru, Noa Vaughan, yn herio athletwyr o glwb CSI Morbegno yn yr Eidal.<\/p>\n<p>Bydd y rasys iau unwaith eto yn cael eu cefnogi gan Barc Cenedlaethol Eryri ac yn cael eu trefnu gan d\u00eem Byw Iach, Cyngor Gwynedd. Mae cofrestru yn digwydd rhwng 9.30am -1.30pm yn y ganolfan gymunedol.<\/p>\n<p>Meddai Stephen Edwards eto:<\/p>\n<p><em>\u201cO safbwynt y cyfryngau mae gennym y pecyn uchafbwyntiau teledu arferol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddarlledu diwedd y ras. Rydym ni fel mudiad gwirfoddol hefyd yn rhoi oriau o waith i drefnu&#8217;r agwedd gymunedol i&#8217;r digwyddiad rhyngwladol hwn. Mae busnesau lleol yn cymryd rhan bob blwyddyn ac mae miloedd o wylwyr yn dod i weld y rhedwyr, felly mae&#8217;n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.\u201c<\/em><\/p>\n<p>Mae\u2019r bwrlwm yn y pentref bach yma ar \u00f4l penwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy, mae\u2019n rhaid i chi fod yma i allu deall hynny. Mae&#8217;r ras hon yn golygu cymaint i&#8217;r ardal ac i bobl Llanberis. I feddwl am yr hyn y mae wedi dod yr holl flynyddoedd ar \u00f4l y ras fechan gyntaf honno yn \u00f4l yn 1976 \u2013 mae peth yn anhygoel.<\/p>\n<p><em>\u201cYn yr un modd, ni allem gynnal y ras heb gefnogaeth barhaus y noddwyr Inov8, Rheilffordd yr Wyddfa, Gwesty\u2019r Royal Victoria, S4C, Cwmni Da, Athletau Cymru, Oren, Steel Scaffolding, Sports Pictures Cymru a Phwyllgor Ras yr Wyddfa a chymuned Llanberis. Dyna sy\u2019n gwneud y ras hon mor hudolus \u2013 mae\u2019n ddigwyddiad rhyngwladol, gyda naws leol, a hir y parhaed hynny. Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i Adran Digwyddiadau Cyngor Gwynedd am gefnogi\u2019r ras unwaith eto eleni.\u201d <\/em><\/p>\n<p><strong>Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn Llanberis ddydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2022, gyda\u2019r Ras yn dechrau am 2pm.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Am ragor o wybodaeth ewch i <a href=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\">https:\/\/www.snowdonrace.co.uk<\/a><\/strong><\/p>\n<p>DIWEDD<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Llanberis &#8211; Ar \u00f4l seibiant o 3 blynedd oherwydd y pandemig bydd 600 o redwyr yn gwneud eu ffordd i lethrau copa uchaf Cymru ddydd Sadwrn 16eg Gorffennaf ar gyfer 45ain Ras Ryngwladol\u00a0 yr Wyddfa Castell Howell. Mae\u2019r rhagolygon ar gyfer digwyddiad eleni yn uchel unwaith eto, gyda rhai o athletwyr gorau\u2019r Prydain ac Iwerddon [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1272","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-kw","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1272","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1272"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1272\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1272"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1272"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1272"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}