{"id":1104,"date":"2019-07-12T22:11:21","date_gmt":"2019-07-12T22:11:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?p=1104"},"modified":"2019-07-12T22:15:28","modified_gmt":"2019-07-12T22:15:28","slug":"44th-castell-howell-international-snowdon-race-2019-race-preview","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/44th-castell-howell-international-snowdon-race-2019-race-preview\/","title":{"rendered":"44fed &#8211; Castell Howell Ras Ryngwladol 2019"},"content":{"rendered":"<p><strong><u>44fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell<em> &#8211;<\/em><\/u><\/strong><u> rhagolwg o\u2019r ras<\/u><\/p>\n<p><em>Llanberis<\/em> &#8211; Bydd dros 650 o redwyr yn ei mentro hi eleni yn y 44fed ras &#8211; ras sydd dan nawdd noddwr newydd, Castell Howell: <strong>\u00a044fed Castell Howell Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell <\/strong>\u00a0ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 22ain &#8211; un o uchafbwyntiau\u2019r byd chwaraeon yng Nghymru.<\/p>\n<p>Fel pob tro mae yna gryn ddisgwylgarwch. Mae nifer o athletwyr gorau Prydain a\u2019r byd yn cymryd rhan: Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Cenia, Japan, Ffrainc a\u2019r Eidal. Bydd y rhain yn cystadlu a channoedd o redwyr o glybiau gwahanol yn rhedeg y 10 milltir i ben yr hen fynydd.<\/p>\n<p>Eleni mae\u2019r ras yn rownd yng nghwpan y Byd Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd. Bydd rownd 4 y bencampwriaeth (allan o 7 rownd) yng Ngorffennaf yn Llanberis. Mae\u2019r bencampwriaeth mewn 7 gwlad wahanol gyda thros 140km o lwybrau mynydd, 9300m+ o ddringo a chyfanswm gwobrau tua 56,000 ewro gyda rancio cystadleuwyr ar safon byd.<\/p>\n<p>Bydd y digwyddiad ar y teledu, gyda rhaglen uchafbwyntiau awr o hyd ar nos Sul Gorffennaf 21ain am 8 p.m. ar S4C.<\/p>\n<p>Ystyrir Ras yr Wyddfa fel un o rasys mawr rhedeg mynydd. Mae wedi tyfu\u2019n sylweddol dros y blynyddoedd. Mae sawl un rhedwr cyffredin wedi rhyw feddwl am gystadlu ond cymharol ychydig sy\u2019n gwneud.<\/p>\n<p><strong><u>Rhagolwg Ras y Dynion<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r Eidal wedi gadael ei h\u00f4l ar y ras dros y blynyddoedd, gan ennill nifer o weithiau dros y deugain mlynedd. Eleni bydd yr Eidal yn obeithiol y gall ennill am y trydydd tro yn olynol ar \u00f4l Davide Magnini yn 2017 ac Alberto Vender yn 2018.<\/p>\n<p>Yn 2019 dyma weld yr efeilliaid talentog o\u2019r Eidal Bernard a Martin Dematteis. Mae\u2019n saff y bydd yr &#8216;Azzurri&#8217; yn agos at y brig. Mae\u2019r ddau wedi ennill medalau ar sawl achlysur mewn cystadlaethau Ewrop a Byd. A chyda Luca Cagnati\u00a0 (3ydd yn 2016) fel rhan o d\u00eem yr Eidal hefo\u2019r efeilliaid, mae yna siawns go dda mai\u2019r Eidal aiff \u00e2 gwobr t\u00eem y dynion.<\/p>\n<p>Bydd rhedwyr Cymru wrth gwrs yn trio eu gorau glas yn eu cynefin. Yn nh\u00eem A Cymru mae yna athletwyr profiadol iawn sy\u2019n nabod y mynydd yn dda. Yn anffodus bydd Gareth Hughes y Cymro cyntaf yn 2017 (sy\u2019n byw yn Nant Peris) \u2013 yn methu \u00e2 chystadlu am iddo gael ei anafu yn ddiweddar yn ras Moel Hebog.<\/p>\n<p>Un o\u00a0 arweinwyr rhedwyr Cymru fydd Mark Hopkinson, mae wedi gwella llawer eleni &#8211; y fo enillodd Ras Cader Idris fis Mai.<\/p>\n<p>Mae Russell Bentley\u00a0 bellach yn hen gyfarwydd \u00e2\u2019r ardal, ac wedi ennill Marathon Eryri ddwywaith yn un arall o s\u00ear Cymru. Fo oedd yr ail yn Ras y Gwyll ym mis Mehefin yn rhedeg i fyny\u2019r Wyddfa &#8211; mae mewn cyflwr da ar hyn o bryd. A hefyd yn nh\u00eem Cymru bydd Richard Roberts (o ddyffryn Ogwen yn wreiddiol) yn hen law ar y ras erbyn hyn.<\/p>\n<p>Mae gan Gymru D\u00eem B hefyd \u2013 sgwad ar gynnydd: Dan Bodman (o\u2019r De), Tristan Evans Meirionnydd, Michael Corrales, Stephen Skates ac Eryri Harrier Owain Williams (Rhedwyr Eryri) fydd y t\u00eem.<\/p>\n<p>Bydd gan Loegr d\u00eem cryf a byddant yn herio fel t\u00eem ac fel unigolion. Mae Dan Haworth, Michael Cayton, Billy Cartwright a Joe Baxter yn bedwar heb lawer o brofiad o ran Ras yr Wyddfa. Wedi dweud hynny maen nhw i gyd wedi bod yn perfformio\u2019n dda dros yr haf yma &#8211; bydd y rhain yn o uchel ar y diwrnod.<\/p>\n<p>Am yr Alban &#8211; cafodd hithau ei llwyddiannau dros y blynyddoedd, Ymhlith y ffefrynnau bydd Andrew Douglas (un a oedd yn rhan o d\u00eem Prydain a enillodd aur yn ddiweddar). Cafodd hwyl arni ar gylchdaith WMRA am y ddwy flynedd ddiwethaf\u00a0 hefyd. Ato daw James Espie (5ed yn 2017) sydd hefyd ar ei orau ar hyn o bryd. Ewan Brown a John Yells yw\u2019r ddau arall yn y t\u00eem.<\/p>\n<p>Mae Iwerddon wedi cael llwyddiant dros y blynyddoedd . Ar \u00f4l cystadlu\u2019n arbennig ym Mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar mae Zak Hanna yn arwain T\u00eem Iwerddon ac yn meddwl am wella ar berfformiad gorau yn y ras (7fed yn 2018). Hefo fo bydd: Mark Stephens, Conor O\u2019Mahony a Killian Mooney.<\/p>\n<p>Y t\u00eem rhyngwladol arall ydyw Gogledd Iwerddon gyda Shane Donnelly,(wedi rhedeg y ras sawl gwaith) Tim Johnson, Aaron McGrady and Jonathan Scott.<\/p>\n<p>Hefyd bydd tri rhedwr o ynys Malta yn teithio i Lanberis i redeg yr Wyddfa am y tro cyntaf.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r digwyddiad yn rownd o fewn pencampwriaeth y byd (WMRA) mae naws ychydig yn wahanol i ras y dynion a\u2019r merched. Ymhlith y cystadleuwyr mae Robert Panini sy\u2019n athletwr diddorol o fan pellennig o wlad Cenia. Hefyd o\u2019r Unol daleithiau daw Sam Sahli \u2013 am y tro cyntaf i redeg mynydd uchaf Cymru.<\/p>\n<p>Eleni bydd timau gan yr Awyrlu &#8211; (dynion a merched) gyda Ben Livesey\u00a0 yn arwain t\u00eem y dynion.<\/p>\n<p><strong><u>Rhagolwg Ras y Merched<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Bydd ras yr Wyddfa 2019 yn saff o fod yn un dra chyffrous. Yn anffodus ni fydd Bronwen Jenkinson (enillydd 2018) yno am iddi gael ei hanafu. Bydd sawl un yn tybio mai Sarah McCormick o Iwerddon aiff \u00e2 hi. Mae hi wedi ennill ddwywaith yn barod yn 2014 a 2015..<\/p>\n<p>Gwnaeth Sarah McCormick yn dda ym Mhencampwriaethau Ewrop yn gorffen yn yr 16eg safle. Becky Quinn, Sinead Murtagh a Dierdre Glavin ydyw gweddill t\u00eem Iwerddon.<\/p>\n<p>Elisa Sortini ydyw\u2019r unig Eidales yn y ras eleni. Ond ar \u00f4l dod yn bedwaredd yn 2015, mae ganddi syniad o sut ras ydyw hon, a gobaith y bydd hi mewn safle hyd yn oed yn uwch eleni.<\/p>\n<p>Gwnaeth T\u00eem Merched Cymru berfformiad clodwiw iawn yn 2018: Bronwen Jenkinson (cyntaf) gyda Katie Beecher (8fed) ac Elliw Haf (10fed). Bydd Katie Beecher ac Elliw Haf eto yn y t\u00eem gyda Faye Johnson sy\u2019n rhedeg dros Gymru am y tro cyntaf a Gemma Moore, rhedwraig arall o\u2019r Gogledd.<\/p>\n<p>Does dim dwywaith na bydd t\u00eem merched Lloegr eto\u2019n debygol o fod ar y blaen. Mae Hatti Archer wedi rhedeg rasys trac dros Brydain cyn troi i redeg mynydd tua dyflwydd yn \u00f4l. Mae wedi gwneud yn dda ar lefel Ewrop a\u2019r Byd. Roedd yn 29ain ddechrau\u2019r mis mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.<\/p>\n<p>Mae Kelli Roberts wedi gadael ei h\u00f4l ym Mhencampwriaeth Rhedeg Mynydd Prydain eleni mae wedi ennill y tair rownd gyntaf. Gyda\u2019r ddwy bydd Katie Walshaw\u00a0 (3ydd 2015)\u00a0 a rhedwraig ifanc Jemima Elgood. Mae\u2019r rhain yn d\u00eem peryg\u2019.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l disgleirio a bod yn ail yn ras y llynedd, bydd Miranda Grant\u00a0 yn arwain t\u00eem merched Yr Alban ynghyd \u00e2\u00a0 Scout Adkin, (ail yn 2017) Louise Mercer a Jill Mykura. Bydd y rhain yn si\u0175r o fod yn dra awyddus i guro T\u00eem Lloegr.<\/p>\n<p>Bydd y ddwy hen law Megan Wilson a Shileen O\u2019Kane yn cynrychioli Gogledd Iwerddon gyda dwy newydd, Sarah Graham a Kiara Largy.<\/p>\n<p>Fel yn ras y dynion bydd Cwpan Byd Cymdeithas Redeg Mynydd y Byd (WMRA) wedi sicrhau y bydd rhai merched o safon ryngwladol uchel yn ymddangos eleni.<\/p>\n<p>Bydd Lucy Wambui (Cenia) yn un o\u2019r s\u00ear o bell. Mae hi wedi ennill ras enwog Sierre-Zinal yn y\u00a0 Swistir ymhlith llwyddiannau eraill\u00a0 Hefyd yn dychwelyd ar \u00f4l anafu bydd Emma Clayton. Mae hi wedi rhedeg dros e wedi cryfhau yn arw. Mi fydd hi\u2019n si\u0175r o fod ymhlith y rhai cyntaf.<\/p>\n<p>Yn dangos pa mor boblogaidd yw\u2019r ras gwerthwyd y 650 lle i gystadlu o fewn diwrnod ar Fawrth y cyntaf. Wedyn heb oedi roedd Stephen Edwards y trefnydd yn medru cau pen y mwdwl o ran cystadleuwyr a mynd ati i baratoi ar gyfer ras 2019.<\/p>\n<p>Mae Stephen yn awyddus iawn i bwysleisio mai dim jest ras sydd yma. Mae yna noddwyr yn cefnogi, atyniadau yn y cae lle mae\u2019r ras yn cychwyn &#8211; yn wir mae bywyd Llanberis ar\u00a0 y trydydd penwythnos yng Ngorffennaf yn troi rownd y ras:<\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019n argoeli y bydd ras 2019 yr orau erioed! Ein prif noddwyr newydd eleni yw Castell Howell ac y mae\u2019n gyffrous iawn bod rownd 4 Cwpan y Byd yn Llanberis! <\/em><\/p>\n<p><em>\u201cGwelodd Castell Howell y cyfle i noddi&#8217;r ras hynod hon fel modd cadarnhaol o ddod i gyswllt \u00e2\u2019r gymuned leol.<\/em><\/p>\n<p>Meddai Kathryn Jones cyfarwyddwr gwerthiant Castell Howell:<\/p>\n<p>\u201c<em>Mi ydym yn falch iawn o\u2019n gwreiddiau gwledig a chefnogi\u2019r cymunedau yr ydym yn gweithio yn eu plith ydyw un o\u2019n gwerthoedd canolog. Yma yn y Gogledd mi ydym yn lwcus o gael yr Wyddfa &#8211; mynydd sydd a\u2019i enwogrwydd ymhell tu hwnt i Gymru. Mae\u2019r mynydd yma fel cefndir o fewn dim i ardal lle byddwn wrthi\u2019n ddyddiol yn danfon nwyddau i\u2019n cwsmeriaid. Mi ydym wrth ein boddau\u2019n cael y cyfle i gefnogi\u2019r 44fed ras: Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell, ras sy\u2019n croesawu rhedwyr o Gymru a phedwar ban y byd.<\/em><em>.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Ac meddai Stephen Edwards:<\/p>\n<p><em>\u201cCawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn si\u0175r o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..<\/em><\/p>\n<p>Digwyddiad arall a fydd eto\u2019n cael ei gynnal ar y diwrnod fydd y rasys iau am 2.10pm \u2013 ddeg munud ar \u00f4l y brif ras. Hefyd bydd <em>&#8216;Hwyl i Bawb&#8217;\u00a0 &#8211; ras i\u2019r teulu am <\/em>\u00a010.30am, ac ar y Nos Iau bydd rasys ieuenctid lle ceir dros 200 yn cymryd rhan<\/p>\n<p>Bydd y rasys iau eleni eto yn cael eu cefnogi gan fusnesau lleol Amdro a th\u00eem Chyngor Gwynedd.<\/p>\n<p>Ac meddai Stephen Edwards:<\/p>\n<p><em>\u201cCawsom y cynnig eleni i fod yn rhan o Gwpan y Byd. Ac wrth gwrs yr oeddem wrth ein boddau. Dylai hyn godi proffil y ras ymhellach eto ar lwyfan byd. Bydd hyn yn si\u0175r o sicrhau y bydd athletwyr o safon byd yn cystadlu..<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cO ran y cyfryngau bydd rhaglen deledu ar y ras ar y Sul canlynol ar S4C a byddwn yn defnyddio Facebook Live i ddangos diwedd y ras. Fel mudiad gwirfoddol yr ydym ninnau yn rhoi oriau lawer o waith i drefnu ochr gymunedol y digwyddiad. Bob blwyddyn bydd busnesau lleol yn rhan o\u2019r ddarpariaeth a bydd miloedd o bobl yn ymddangos i wylio\u2019r rhedwyr o\u2019r dechrau i\u2019r diwedd. Mae pawb ar ei ennill.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019r bwrlwm yn Llanb\u00ear\u00a0 cyn y ras yn anhygoel. Rhaid i rywun fod yno i ddeall hynny. Mae\u2019r ras yn golygu cymaint i\u2019r pentref. Maent yn falch o\u2019r ras a\u2019r hyn mae\u2019n ei ddangos i\u2019r miloedd o ymwelwyr. O feddwl cymaint y mae wedi tyfu ers ei chychwyn digon disylw ymhell yn \u00f4l yn 1976.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cOnd mae\u2019n bwysig nodi na ellid cynnal yr achlysur heb gefnogaeth Inov8, Clif Bar, Cwmni Tr\u00ean Bach yr Wyddfa, Gwesty\u2019r Victoria, S4C (teledu eto), Athletau Cymru, Ffrwythau DJ,\u00a0 Scaffaldiau Steel , Sports Pictures Cymru, y pwyllgor a phobl Llanberis. Dyma sy\u2019n dod a\u2019r hwyl a\u2019r hud i\u2019r digwyddiad &#8211; mae\u2019n ddigwyddiad rhyngwladol gyda naws lleol &#8211; hir y parhao felly. Byddwn hefyd yn lecio diolch i Adran Weithgareddau Cyngor Gwynedd am gefnogi&#8217;r ras unwaith eto eleni yn enwedig o gofio ei bod yn ras sy\u2019n rhan o bencampwriaeth y byd.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Meddai\u2019r Cynghorydd <strong>Gareth Thomas<\/strong>, Cyngor Gwynedd: Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:<\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>\u201cMae denu Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd i Lanberis yn rhywbeth y dylid yn wir ei ddathlu. Mae\u2019r digwyddiad wedi cynyddu yn ei boblogrwydd flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn, ond allwedd y llwyddiant ydyw ymroddiad gweithwyr gwirfoddol lleol. Mae eu gwaith caled a\u2019u gweledigaeth nhw yn hanfodol i\u2019r ras. <\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em><em>\u201cFel cyngor mi ydym yn falch iawn o gael cydweithio hefo pencampwriaeth y Byd a Ras Ryngwladol yr Wyddfa gan gynnig cymorth ariannol ac ymarferol.\u201d<\/em><\/p>\n<p><em>\u00a0<\/em>Bydd Ras Ryngwladol yr Wyddfa yn ymgorffori pencampwriaeth Redeg Mynydd y Byd yn cael ei chynnal yn Llanberis ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 20fed 2019 am 2 o\u2019r gloch.<\/p>\n<p>Am fwy o wybodaeth <u><a href=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/\">https:\/\/www.snowdonrace.co.uk<\/a><\/u><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"1107\" data-permalink=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/44th-castell-howell-international-snowdon-race-2019-race-preview\/newssnowdon2016chris-smith780\/\" data-orig-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780.jpg\" data-orig-size=\"780,400\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"NEWSSnowdon2016Chris-Smith780\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780.jpg\" class=\"alignnone size-full wp-image-1107\" src=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780.jpg\" alt=\"\" width=\"780\" height=\"400\" srcset=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780.jpg 780w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780-300x154.jpg 300w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/NEWSSnowdon2016Chris-Smith780-768x394.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 780px) 100vw, 780px\" \/><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"1106\" data-permalink=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/44th-castell-howell-international-snowdon-race-2019-race-preview\/1-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1.jpg\" data-orig-size=\"1600,1067\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;4.5&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;Newspower&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;Canon EOS-1D X&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;1469965039&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;Newspower&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;128&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;1250&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0.00125&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;1&quot;}\" data-image-title=\"1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1-1024x683.jpg\" class=\"alignnone size-full wp-image-1106\" src=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1.jpg\" alt=\"\" width=\"1600\" height=\"1067\" srcset=\"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1.jpg 1600w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/1-1024x683.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1600px) 100vw, 1600px\" \/><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>44fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell &#8211; rhagolwg o\u2019r ras Llanberis &#8211; Bydd dros 650 o redwyr yn ei mentro hi eleni yn y 44fed ras &#8211; ras sydd dan nawdd noddwr newydd, Castell Howell: \u00a044fed Castell Howell Ras Ryngwladol yr Wyddfa Castell Howell \u00a0ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 22ain &#8211; un o uchafbwyntiau\u2019r byd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1109,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1104","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"acf":[],"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/11752384_821092281292330_3596504582924014703_n-1.jpg","jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p5NOra-hO","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1104","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1104"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1104\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1109"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1104"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1104"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1104"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}