{"id":301,"date":"2015-02-27T00:53:27","date_gmt":"2015-02-27T00:53:27","guid":{"rendered":"http:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/?page_id=301"},"modified":"2016-07-13T22:53:44","modified_gmt":"2016-07-13T22:53:44","slug":"snowdon-super-cup","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/snowdon-super-cup\/","title":{"rendered":"Cwpan Yr Wyddfa"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>R\u00e2s Cwpan yr Wyddfa 2015<\/h2>\n<p>Yn cael ei chynnal yn Llanberis &#8211; mae poblogrwydd Ras-yr-Wyddfa Tyn L\u00f4n Volvo yn cynyddu\u2019n flynyddol. Yn ychwanegol eleni am y tro cyntaf mae ras gyffrous arall i\u2019w chynnal &#8211; i\u2019r copa yn unig, 1085m i fyny.<\/p>\n<p>Bydd Cwpan yr Wyddfa yn cael ei chyflwyno i enillydd ras a gynhelir yn y bore cyn y ras arferol. Ni fydd mwy na 50 o athletwyr yn cystadlu. Bydd y rhain yn cael ei gwahodd i afael yn yr her o redeg i fyny o Lanberis yn syth i\u2019r copa.<\/p>\n<p>Am y ras arferol hon fydd y 41 i\u2019w chynnal. A bellach mae wedi ennill ei phlwy fel un o rasys mawr rhedeg mynydd Ewrop. Tyfodd yr achlysur dros y blynyddoedd. Trodd y ras yn un o heriau bywyd i sawl un ac yn destun s\u00f4n amdano weddill ei hoes. Mae sawl un yn meddwl am gyflawni\u2019r gamp ond byth yn ei gwireddu.<\/p>\n<p>Meddai Matt Ward (un o swyddogion y ras):<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mi ydym ni fel Pwyllgor Ras yr Wyddfa wedi bod yn trafod hyn ers tro bellach. Un o\u2019r ystyriaethau ydyw sut y gellir ffitio\u2019r digwyddiad i\u2019r diwrnod heb darfu ar y brif ras. Teimlwn y bydd ychwanegu\u2019r ras hon yn cyfranogi at y diwrnod. Bydd yn denu math gwahanol o redwyr &#8211; rhai na fyddai\u2019n dymuno gwneud y ras lawn a\u2019r rhedeg i lawr caled.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd y ras yn cychwyn am 11.00 a.m. Ras \u2018arddangos\u2019 fydd hi yn 2013, i weld a fydd y peth yn gweithio\u2019n iawn o ran y trefniadau. Nid oes llawer o rasys i fyny\u2019n unig yn cael eu cynnal ym Mhrydain. Mae dipyn o hynny\u2019n digwydd mewn sawl gwlad arall yn Ewrop. Teimlwn y bydd y ras hon yn cael croeso gan redwyr. Byddem yn ceisio sefydlu ras y bydd ganddi ap\u00eal eang fel rhai o rasys mawr Ewrop ac yn un a fydd yn prifio yn ei phoblogrwydd yn flynyddol.<\/p>\n<p>&#8220;Bydd ychwanegu Cwpan yr Wyddfa yn ymestyn ar ddiwrnod o ddigwyddiadau deniadol yn Llanberis ac yn anelu at apelio at brif redwyr mynydd Prydain a thu hwnt. Dylai hynny gyfrannu ymhellach at y bri sydd gan Ras yr Wyddfa yn barod &#8220;.<\/p><\/blockquote>\n<p>Yn 2016 dim ond drwy wahoddiad y gellir cymryd rhan, ond croesewir ceisiadau gan redwyr sydd yn cyfarfod \u00e2\u2019r meini prawf hyn:<\/p>\n<p>1. Dynion sydd wedi rhedeg Ras yr Wyddfa o dan 1:16 men, a merched o dan 1:30<br \/>\n2. Wedi cynrychioli eu gwlad mewn ras fynydd neu ffordd yn y 5 mlynedd ddiwethaf<\/p>\n<p>Dewisir 50 a fydd yn ffitio i\u2019r gofynion hyn ar gyfer cystadlu am Gwpan yr Wyddfa. I gystadlu dylid cysylltu \u00e2 Matt Ward matt@runcomm.co.uk. Dyddiad cau Mehefin 10. Wedyn bydd dethol o blith y rhai a fo \u00e2 diddordeb. Rhoddir gwybod pwy fydd yn cystadlu ar Fehefin 24.<\/p>\n<p>Meddai Matt Ward ymhellach:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mi ydym yn teimlo bod cael y ras hon yn gyffrous iawn. Bydd yn gwneud y diwrnod yn llawnach. Bydd y digwyddiad wrth gwrs yn dal o dan yn rhan o ddiwrnod Ras yr Wyddfa. Ar \u00f4l i\u2019r ras hon sefydlu gobeithio y bydd yn dod yn ddiddordeb pellach yn yr ardal ac i redeg mynydd yn gyffredinol. Mae Parc Cenedlaethol Eryri\u2019n cefnogi tras 2013, a bydd gwobrwyon ariannol a thlysau unigryw i\u2019r dynion a\u2019r merched fydd yn ennill y ras.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Bydd mwy o fanylion yn ymddangos maes o law am y ffordd i\u2019r copa a\u2019r amser y cynhelir y ras<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>R\u00e2s Cwpan yr Wyddfa 2015 Yn cael ei chynnal yn Llanberis &#8211; mae poblogrwydd Ras-yr-Wyddfa Tyn L\u00f4n Volvo yn cynyddu\u2019n flynyddol. Yn ychwanegol eleni am y tro cyntaf mae ras gyffrous arall i\u2019w chynnal &#8211; i\u2019r copa yn unig, 1085m i fyny. Bydd Cwpan yr Wyddfa yn cael ei chyflwyno i enillydd ras a gynhelir [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-301","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/P5NOra-4R","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/301","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=301"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/301\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.snowdonrace.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=301"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}