*** Pawb wedi ei drosgwlyddo i Ras 2022 *** RAS 2022 yn LLAWN ***
** 2023 – Gofynion y Ras **
DYLAI FOD POB RHEDWR WEDI CAEL PROFIAD O REDEG MYNYDD.
00.01am 1 Mawrth – Cyfle i wneud cais am gystadlu i rai sydd wedi rhedeg y ras o’r blaen (cyn redwyr o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf). Derbynnir hyd at x 250 . *Felly un munud ar ôl hanner nos , Nos Fawrth 28 Chwefror, 2023 *
00.01am 15th Mawrth – Bydd cyfle arall yn agor ar lein i bob rhedwr cymwys (newydd ac wedi rhedeg o’r blaen). Bydd yn cau unwaith y cyrhaeddir x 350. * Felly un munud ar ôl hanner nos , Nos Fawrth 14 Mawrth, 2020 *
Ni cheir arian yn ôl, ond fe ganiateir newid enw/manylion tan Fehefin 18, 2023. Drwy gysylltu â’r ysgrifennydd mynediad. Wedyn ni fydd newid yn cael ei ganiatau.
Nid RAS HWYL ydyw hon. A phwysleir bod gofyn cael profiad a bod gofyn bod yn ffit i gystadlu.
BYDD POB CAIS YN CAEL EI JECIO.
MAE’N OFYNNOL EICH BOD WEDI CYSTADLU MEWN RAS FYNYDD DOSBARTH ‘A’ I YMGEISIO:
DIFFINIAD O GATEGORI RASIO MYNYDD ‘A’. ‘M’ Ras Ganolig 6 milltir neu fwy ond dan 12 milltir yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd. ‘L’ Ras hir 12 milltir neu fwy yn esgyn dim llai na 250’ y filltir ar gyfartaledd.
-
- OED I GYSTADLU – Rhaid bod dros 18.
- GOFYNION – Fel a dywedwyd rhaid bod yn ffit a bod â phrofiad o redeg mynydd.
- ENTRIO – Unwaith y bydd y nifer rhedwyr wedi ei gyrraedd dyna hi wedyn.
- RHIFAU – Rhaid ei nôl yn bersonol. Ni cheir newid enwau a rhifau ond drwy’r ysgrifennydd mynediad.
- DANGOS RHIF RHEDEG – Yn ystod y ras rhaid i’r rhif fod yn weladwy ac wedi ei osod ar du blaen y crys rhedeg ac nid trywsus rhedeg. Ni ddylid ychwaith dynnu enw’r noddwr i ffwrdd – gall hynny ddigymhwyso rhedwr. Mae cefnogaeth noddwyr yn hanfodol i’r ras.
- RHOI’R GORAU – Dylai rhedwr dweud wrth un o’r swyddogion ar y mynydd neu roi gwybod i drefnwyr ar y diwedd os ydyw wedi rhoi’r gorau i redeg. Gall methu â gwneud hyn ddigymhwyso rhedwr ar gyfer Ras yr Wyddfa yn y dyfodol.
- AMSERU ELECTRONIG – Mae y tjip o fewn y rhif rhedeg. Rhaid iddo fod ar bob rhedwr ac yn weladwy ar y copa ac ar y diwedd.
- TYWYDD DRWG – Pe bai tywydd drwg, yna rhaid cario dillad addas – trywsus a chôt law, het a menyg. Bydd y trefnwyr yn rhoi gwybod am gofynion hyn cyn y ras ar y diwrnod. Pe bai tywydd drwg yna efallai y byddai yn rhaid cyrraedd Clogwyn o fewn awr a 5munud i gael dal ati i gwblhau y cwrs. Ni fydd arian cystadlu yn cael ei dalu’n ôl.
- RHEDEG – O dan reolau Athletau’r Deyrnas Gyfunol.
- RHEDEG YN Y DYFODOL – Pe byddid yn methu â chadw at ofynion 6 a 7 uchod yna efallai na fydd rhedwr yn cael rhedeg Ras yr Wyddfa yn y dyfodol.
- GWOBRAU – Bydd gwobrau i gategoriau gwahanol – gweler y wefan
- BAG CANOL– Bydd y rhain yn cael ei tjecio pe bai amodau 8 uchod yn dod yn berthnasol. Gellir digymhwyso o dorri’r gofynion yma.
NODER:
Mae rhedeg mynydd yn gamp beryglus. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r anafiadau posib cyn cystadlu. Rhaid i chi ddatgan ar y ffurflen gais na fydd pwyllgor Ras Rhyngwladol yr Wyddfa yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am eich diogelwch na’ch eiddo yn ystod y ras. CHI sy’n gyfrifol am eich diogelwch personol.
RHEDWYR – PWYSIG:
Deallaf fod y ras hon yn cael ei chynnal yn unol a rheolau ac Anghenion Diogelwch UK Athletics. Rwyf yn ymwybodol o’r wybodaeth ac anghenion y trefnwyr gyda’r ras hon. Rwyf yn derbyn ac yn cydnabod y peryglon sydd yn bodoli ar y mynydd a deallaf fy mod yn rhedeg y ras gan fod yn ymwybodol o’r peryglon. Ar wahan i gyfrifoldeb y trefnwyr mewn achos o farwolaeth neu niwed corfforol drwy esgeulustod, cadarnhaf na fydd y trefnwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drosof am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd i mi a’m heiddo pan yn cystadlu yn y ras. Rwyf dros 18 mlwydd oed.