Râs Cwpan yr Wyddfa 2015

Yn cael ei chynnal yn Llanberis – mae poblogrwydd Ras-yr-Wyddfa Tyn Lôn Volvo yn cynyddu’n flynyddol. Yn ychwanegol eleni am y tro cyntaf mae ras gyffrous arall i’w chynnal – i’r copa yn unig, 1085m i fyny.

Bydd Cwpan yr Wyddfa yn cael ei chyflwyno i enillydd ras a gynhelir yn y bore cyn y ras arferol. Ni fydd mwy na 50 o athletwyr yn cystadlu. Bydd y rhain yn cael ei gwahodd i afael yn yr her o redeg i fyny o Lanberis yn syth i’r copa.

Am y ras arferol hon fydd y 41 i’w chynnal. A bellach mae wedi ennill ei phlwy fel un o rasys mawr rhedeg mynydd Ewrop. Tyfodd yr achlysur dros y blynyddoedd. Trodd y ras yn un o heriau bywyd i sawl un ac yn destun sôn amdano weddill ei hoes. Mae sawl un yn meddwl am gyflawni’r gamp ond byth yn ei gwireddu.

Meddai Matt Ward (un o swyddogion y ras):

“Mi ydym ni fel Pwyllgor Ras yr Wyddfa wedi bod yn trafod hyn ers tro bellach. Un o’r ystyriaethau ydyw sut y gellir ffitio’r digwyddiad i’r diwrnod heb darfu ar y brif ras. Teimlwn y bydd ychwanegu’r ras hon yn cyfranogi at y diwrnod. Bydd yn denu math gwahanol o redwyr – rhai na fyddai’n dymuno gwneud y ras lawn a’r rhedeg i lawr caled.

“Bydd y ras yn cychwyn am 11.00 a.m. Ras ‘arddangos’ fydd hi yn 2013, i weld a fydd y peth yn gweithio’n iawn o ran y trefniadau. Nid oes llawer o rasys i fyny’n unig yn cael eu cynnal ym Mhrydain. Mae dipyn o hynny’n digwydd mewn sawl gwlad arall yn Ewrop. Teimlwn y bydd y ras hon yn cael croeso gan redwyr. Byddem yn ceisio sefydlu ras y bydd ganddi apêl eang fel rhai o rasys mawr Ewrop ac yn un a fydd yn prifio yn ei phoblogrwydd yn flynyddol.

“Bydd ychwanegu Cwpan yr Wyddfa yn ymestyn ar ddiwrnod o ddigwyddiadau deniadol yn Llanberis ac yn anelu at apelio at brif redwyr mynydd Prydain a thu hwnt. Dylai hynny gyfrannu ymhellach at y bri sydd gan Ras yr Wyddfa yn barod “.

Yn 2016 dim ond drwy wahoddiad y gellir cymryd rhan, ond croesewir ceisiadau gan redwyr sydd yn cyfarfod â’r meini prawf hyn:

1. Dynion sydd wedi rhedeg Ras yr Wyddfa o dan 1:16 men, a merched o dan 1:30
2. Wedi cynrychioli eu gwlad mewn ras fynydd neu ffordd yn y 5 mlynedd ddiwethaf

Dewisir 50 a fydd yn ffitio i’r gofynion hyn ar gyfer cystadlu am Gwpan yr Wyddfa. I gystadlu dylid cysylltu â Matt Ward matt@runcomm.co.uk. Dyddiad cau Mehefin 10. Wedyn bydd dethol o blith y rhai a fo â diddordeb. Rhoddir gwybod pwy fydd yn cystadlu ar Fehefin 24.

Meddai Matt Ward ymhellach:

“Mi ydym yn teimlo bod cael y ras hon yn gyffrous iawn. Bydd yn gwneud y diwrnod yn llawnach. Bydd y digwyddiad wrth gwrs yn dal o dan yn rhan o ddiwrnod Ras yr Wyddfa. Ar ôl i’r ras hon sefydlu gobeithio y bydd yn dod yn ddiddordeb pellach yn yr ardal ac i redeg mynydd yn gyffredinol. Mae Parc Cenedlaethol Eryri’n cefnogi tras 2013, a bydd gwobrwyon ariannol a thlysau unigryw i’r dynion a’r merched fydd yn ennill y ras.”

Bydd mwy o fanylion yn ymddangos maes o law am y ffordd i’r copa a’r amser y cynhelir y ras