Yn Llanberis – a dim ond 10 diwrnod i fynd tan 42fed Ras Ryngwladol yr Wyddfa Jewson 2017 mae disgwyl garw am ddydd y ras. Dyma ras enwog a thros 600 o redwyr yn un o rasys mynydd anoddaf ym Mhrydain.

Eleni mae yna brif noddwr newydd: Jewson, a chefnogaeth hefyd gan wneuthurwyr esgidiau mynydd blaengar inov8.

Newid arall ydyw bod y ras yn cychwyn ynghynt. Yn lle am 2 pm mae bellach am hanner dydd. Ond mae’n dal i gychwyn o’r lle arferol, o Gae’r Ddol, Llanberis. Yn cychwyn y ras eleni bydd rhai o fawrion y ras yn y gorffennol Joan and Dennis Glass.

Bydd digwyddiadau eraill hefyd. Bydd ras yr ieuenctid yn cychwyn 5 munud ar ôl y brif ras am 12.05pm. Ond ar y nos Iau bydd rasys i ieuenctid yr ardal, lle disgwylir i tua 150 gymryd rhan. Diolch unwaith eto am gefnogaeth Dr.Zigs i’w cynnal.

Ar ddiwedd y diwrnod cynhelir sgwrs gan Kenny Stuart (deilydd record y ras), John Wild un o’i gyd-gystadleuwyr a rhedwr y ras sawl tro, a Steve Chilton yr awdur. Cynhelir y digwyddiad yn y Mynydd Gwefru a gobeithir y bydd yn hwyl ac ysbrydoliaeth. Bydd yn cychwyn am 3:30pm (am ddim, rhoddion i Rhodd Eryri).

Gellir cofrestru am y brif ras rhwng 4pm ac 8.30pm ddydd Gwener 14eg o Orffennaf ac ar y Sadwrn y ras rhwng 8.30am a 11.30am.

Mae disgwylgarwch mawr am ras 2017, gyda rhai o athletwyr gorau Prydain yn cymryd rhan. Unwaith eto bydd timau rhyngwladol yn herio ei gilydd am 10 milltir galed i fyny ac i lawr yr hen fynydd: Cymru, Lloegr, Yr Alban, De a Gogledd Iwerddon a’r Eidal.

Ystyrir y ras hon yn un o’r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynydd, ac mae’n denu rhai o oreuon Ewrop. Mae wedi tyfu yn dros y pedwar degawd a aeth heibio, i fod yn rhywbeth i’w gyflawni unwaith mewn oes i sawl un – yn breuddwydio jest gwneud y ras. Mae sawl un yn meddwl am y peth ond ychydig sy’n cyrraedd y nod.

Yn dangos pa mor boblogaidd ydyw’r ras, mae cyflymder y modd y llanwodd y rhestr rhedwyr. Agorwyd y drws cystadlu ar y cyntaf o Fawrth ac ymhen tridiau roedd 650 o’r rhedwyr wedi talu am gystadlu a dim mwy o le i neb arall.

Bydd rhai o redwyr Cymru gyda’r balchaf o’u crysau rhyngwladol. Yn nawfed y llynedd, bydd Russell Bentley yn gwisgo crys coch. Ac ar ei orau eleni mae Gareth Hughes – yn hanu o ardal y ras. Bu ef a Mathew Roberts ( un arall o dîm Cymru) yn cynrychioli Prydain yn ddiweddar . Gobeithir y bydd y ddau yn gwneud eu hôl ar y ras y tro yma. A’r rhedwr rhyngwladol Richard Roberts ydyw pedwerydd aelod y tîm a’r capten.

Ond eto fyth yn 2017 hefyd y tîm i’w guro fydd tîm Lloegr. Ni fydd Chris Smith enillydd 2016 yn cystadlu, ond gallai unrhyw un o dîm Lloegr fod yn enillwyr y ras : Chris Farrell, Chris Arthur, Tom Adams a Chris Holdsworth. Mae bob un yn goblyn o redwr. Ar ôl bod yn ail llynedd tybed mai Chris Farrell fydd yn mynd a hi eleni.

Yn y gorffennol disgleiriodd yr Eidal sawl gwaith. Ac y mae gefeillio hefo ras Trofeo Vanoni fis Hydref wedi cadarnhau perthynas gref rhwng yr Eidal a Chymru. Yn 2017 bydd Nadir Cavagna, Davide Magnini a Hannes Perkmann yn cynrychioli’r dynion tra bydd Arianna Oregon yr unig ferch o’r Eidal.

Mae De Iwerddon wedi cael cryn lwyddiant yn y ras dros y blynyddoedd. Ac eleni bydd James Kavan (8fed 2016) yn arwain y tîm. Y tri arall fydd Brian Furey, Greg Byrne a Killian Mooney. Yn cynrychioli’r Gogledd bydd David Hicks (yn yr 20 cyntaf yn 2016) William McKee, Gavin Mulholland a Timothy Johnston.

Bydd rhai o safon hefyd yn rhedeg ar ran Yr Alban. Cafodd sawl un, dynion a merched eu gwobreuo yn y rasys diweddar. Yn arwain tîm y dynion bydd James Espie (9fed yn 2016) gyda James Waldie, Robert Simpson a Douglas Tullie. 

Mae merched Iwerddon wedi bod yn amlwg yn y ras yn ddiweddar. Ar ôl i Sarah Mulligan ennill yn 2013, a Sarah McCormack yn 2014 a 2015, ac wedyn Sarah Mulligan eto yn 2016 mae’r crys gwyrdd wedi ennill bedair blynedd yn olynol. Fodd bynnag, yn rhyfeddol, does yna ddim merch o Iwerddon yn cystadlu eleni. Mae hyn yn agor y drws i ferch o wlad arall. Efallai mai’r ffefryn ydyw Heidi Dent o Loegr. Hi oedd yr ail yn 2016. Tybed mai hi felly fydd yn dilyn rhai fel Mary Wilkinson a Pippa Maddams. Gyda hi yn nhîm merched Lloegr fydd Helen Glover, Sharon Taylor a Caitlin Rice

Diane Wilson, Megan Wilson, Ciara Largy a Shileen O’Kane fydd yn cynrychioli Gogledd Iwerddon a bydd Miranda Grant, Louise Mercer a Jill Stephen yn rhedeg dros yr Alban. Bydd Miranda Grant sy’n byw’n lleol ac wedi gwneud yn dda eleni yn Eryri, hefyd yn gobeithio gwneud ei marc ar Ras yr Wyddfa.

Mae tîm merched Cymru i gyd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yr ieuengaf yw Bronwen Jenkinson a fu’n rhedeg i ieuenctid Prydain. Hefo hi bydd Andrea Rowlands and Sarah Ridgway, sydd â thipyn o brofiad ar y mynyddoedd bellach. Sarah newydd redeg yn dda yn ddiweddar yn V3K. A’r bedwaredd yn y tîm fydd Sian Lloyd Williams o Borthmadog.

Yn y ras agored bydd rhai o’r hen lawiau Ian Holmes a Rob Hope yn bwrw iddi ymhlith y rhedwyr rhyngwladol gyda Gary Priestley a fu ar yn aml yn rhedeg i Loegr ond bellach eleni yn cynrychioli ei glwb Horwich.

Mae trefnydd y ras, Stephen Edwards, yn awyddus iawn i bwysleisio bod y ras yn fwy na jest ras. Hefo noddwyr blaenllaw, atyniadau niferus a gŵyl o ddigwyddiad, sydd i’w gael yn Llanbêr ganol Gorffennaf:

“Mi ydan ni’n falch o groesawu Jewson fel prif noddwr eleni ac mi ydan ni wedi cael cefnogaeth wych gan y cwmni. Mi ydan ni hefyd wrth ein boddau bod inov8 yn rhan o’r gefnogaeth. Mi ydan ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’n holl noddwyr. Afraid dweud hefyd na fysan ni ddim yn medru cynnal y ras heb gannoedd o wirfoddolwyr helpu a stiwardio,gan ddod flwyddyn ar ôl blwyddyn i helpu’r achos. Mi ydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld Joan a Dennis Glass yn cychwyn y ras am hanner dydd. Maen nhw wedi gwneud cymaint dros y ras a thros redeg.

“Bydd y bwrlwm yn Llanberis yn arbennig iawn. Rhaid bod yno i’w deimlo. Mae’r ras yn golygu cymaint i’r ardal. Mae yna falchder mawr o’r ras a’r darlun mae’n ei roi o’r pentref i filoedd o ymwelwyr sydd yma dros y cyfnod. I feddwl faint mae hi wedi tyfu o’r dechrau digon tila yn 1976 – mae’n anodd coelio.

“Mi ddylai’r rasio fod yn wych eto eleni hefo cymaint o rai da’n rhedeg. O ran y cyfryngau bydd rhaglen o’r uchafbwyntiau ar y dydd Sul canlynol ar S4C a bydd diwedd y ras yn cael ei ddangos ar Facebook Live.”

Am wybodaeth bellach ewch i www.snowdonrace.co.uk

ENDS

2016 runner-up Chris Farrell from England on the early slopes of Snowdon © Sport Pictures Cymru

Press and media enquiries (including hi res image requests) should directed to Matt Ward on 07515 558670 or by emailing matt@runcomm.co.uk